Datganiad i'r wasg

Cyrchoedd Gorfodaeth Mewnfudo yn cyrraedd y lefel uchaf erioed

Mae cyrchoedd ac arestiadau sy’n gysylltiedig â gweithio'n anghyfreithlon wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed, diolch i waith diflino timau Gorfodaeth Mewnfudo'r Swyddfa Gartref.

  • Y nifer mwyaf erioed o gyrchoedd ac arestiadau o weithwyr anghyfreithlon
  • Arweiniodd 1,320 o gyrchoedd yng Nghymru at 649 o arestiadau
  • Targedwyd busnesau amheus, gan gynnwys busnesau golchi ceir, bariau ewinedd a siopau barbwr, ochr yn ochr â diwygiadau ysgubol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref i leihau mudo anghyfreithlon

Mae cyrchoedd ac arestiadau sy’n gysylltiedig â gweithio’n anghyfreithlon wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn hanes Prydain, diolch i waith diflino timau Gorfodaeth Mewnfudo’r Swyddfa Gartref.  

Mae’r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod nifer y cyrchoedd wedi cynyddu 77% yn y DU ers i’r llywodraeth ddod i rym, gan arwain at 83% yn fwy o arestiadau (rhwng Gorffennaf 2024 a diwedd mis Rhagfyr 2025).  

Cynhaliwyd dros 17,400 o gyrchoedd ar fusnesau amheus – fel bariau ewinedd, busnesau golchi ceir, siopau barbwr a siopau tecawê – gan dargedu’r rheini sy’n ceisio cynnig gwasanaethau rhatach na gweithwyr gonest a chuddio yng ngolwg pawb.   

Roedd y cynnydd mawr, a arweiniodd at dros 12,300 o arestiadau, yn bosibl oherwydd hwb ariannol o £5m y llynedd ar gyfer Gorfodaeth Mewnfudo, i dargedu ac erlyn troseddau gweithio’n anghyfreithlon.  

Yng Nghymru cynhaliwyd 1,320 o gyrchoedd yn 2025, a arweiniodd at 649 o arestiadau – 103% yn fwy o gyrchoedd ac 85% yn fwy o arestiadau wrth gymharu â 2024. 

Mae’r ymgyrch i dargedu gweithio’n anghyfreithlon yn adeiladu ar waith y llywodraeth hon i adfer trefn yn y system fewnfudo, a rhoi terfyn ar atyniad gweithio’n anghyfreithlon a ddefnyddir gan gangiau i werthu lleoedd ar gychod bach.  

Mae’n ychwanegol at waith y llywodraeth i allgludo 50,000 o fudwyr anghyfreithlon – 23% o gynnydd o dan y llywodraeth hon.  

Daw ffigurau heddiw ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref amlinellu diwygiadau ysgubol i’r system fewnfudo – sy’n ei gwneud yn llai deniadol i fudwyr anghyfreithlon ddod i’r DU, ac yn haws i allgludo’r rheini sydd heb hawl i fod yma.

Dywedodd Shabana Mahmood, yr Ysgrifennydd Cartref:    

Dydy gweithio’n anghyfreithlon ddim yn dderbyniol yn ein cymunedau.  

Dyna pam rydym wedi cynyddu gweithgarwch gorfodi i’r lefel uchaf yn hanes Prydain, fel nad oes gan fudwyr anghyfreithlon yn yr economi ddu unman i guddio.  

Rwy’n gwbl benderfynol o adfer trefn a rheolaeth dros ein ffiniau.  

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

Mae gweithio’n anghyfreithlon yn bwydo’r economi ddu, ac yn niweidio busnesau yng Nghymru sy’n parchu’r gyfraith.

Roedd y llywodraeth hon wedi dweud yn glir y bydd y bobl a’r cwmnïau sy’n torri’r rheolau yn cael eu targedu’n llym, ac rydym wedi cyflawni hynny gyda’r flwyddyn brysuraf erioed o weithgarwch gorfodi ledled Cymru.

Daw’r ffigurau newydd wrth i swyddogion Gorfodaeth Mewnfudo ar draws y DU ddechrau defnyddio technoleg fideo camera corff. 

Lansiwyd y dechnoleg ym mis Medi y llynedd, ac mae pob tîm bellach yn elwa o’r gallu hwn a fydd yn helpu i atgyfnerthu arestiadau ac erlyniadau ymhellach.

Dywedodd Richard Johnson, Arweinydd Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Mewnfudo Cymru a Gorllewin Lloegr: 

Mae’n erbyn y gyfraith i weithio’n anghyfreithlon, ac ni fyddwn yn goddef hynny yn ein cymunedau. 

Hoffwn ddiolch i’m timau am eu hymdrechion diwyro i fynd i’r afael â’r gweithgarwch troseddol hwn dros y flwyddyn diwethaf, a byddwn yn cynnal y momentwm hwn drwy gydol 2026 i sicrhau nad oes unman i guddio rhag y rheolau mewnfudo.

Yn ystod cyrchoedd y llynedd ar weithio’n anghyfreithlon, ymwelodd swyddogion ag amrywiaeth o sectorau – gan gynnwys bwytai, safleoedd adeiladu a bariau ewinedd. 

  • Yn dilyn tri ymweliad â warysau pecynnu a dosbarthu yng Nghil-y-coed ar 5 Awst, cafodd wyth person o Tsieina eu harestio am weithio’n anghyfreithlon. Cafodd pedwar eu harestio er mwyn cael eu hallgludo o’r DU. 
  • Yn dilyn ymweliad â Star Barbers ym Mhorthmadog ar 12 Medi, cafodd tri pherson eu harestio am weithio’n anghyfreithlon. Cafodd dau ddyn o Dwrci eu rhoi ar fechnïaeth mewnfudo a chytunodd y llall, dyn o Sweden, i adael y DU o’i wirfodd.  
  • Ar 14 Hydref, arweiniodd ymweliad â safle adeiladu masnachol ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe, at arestio saith person o Tsieina, gyda phedwar yn cael eu harestio er mwyn cael eu hallgludo o’r DU.

A thrwy’r Ddeddf newydd ar Ddiogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo, mae’r llywodraeth yn ehangu gwiriadau hawl i weithio er mwyn cynnwys economi gweithwyr gìg, achlysurol, is-gontractiol a dros dro, gan sicrhau nad oes gan weithwyr anghyfreithlon sy’n anwybyddu’r rheolau unman i guddio.  

Ar ben hyn, mae’r Tasglu Domestig ar gyfer Troseddau Mewnfudo Trefnedig yn dod â phartneriaid y llywodraeth a gorfodi’r gyfraith at ei gilydd, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Rheolaeth Diogelwch y Ffin a Gorfodaeth Mewnfudo, i ddefnyddio pob adnodd sydd ar gael i ddod o hyd i gangiau smyglo troseddol sy’n gweithredu yn y DU, i darfu arnynt a’u chwalu.  

Dros y 12 mis diwethaf tarfwyd ar 33% yn fwy o achosion smyglo mudwyr – bron i 4,000 o achosion ers mis Gorffennaf 2024 – ac mae cytundeb pwysig gyda Ffrainc yn golygu bod y rheini sy’n cyrraedd ar gychod bach bellach yn cael eu hanfon yn ôl.   

Er mwyn sicrhau ymhellach bod rhaid i bobl gael caniatâd er mwyn gallu gweithio yn y DU, cyhoeddodd y llywodraeth y llynedd y bydd yn cyflwyno ID digidol erbyn diwedd Senedd y DU, a fydd yn orfodol i brofi hawl rhywun i weithio.    

Bydd hyn yn creu ffordd symlach a mwy cyson i gyflogwyr wneud yn siŵr bod rhywun yn gymwys i weithio. Bydd y cam hwn yn ei gwneud yn anoddach i fudwyr anghyfreithlon ddod o hyd i waith, ac yn galluogi’r llywodraeth i ddod o hyd i berchnogion busnes diegwyddor sydd ddim yn cynnal gwiriadau.   

Mae’r gwaith hwn, gyda’i gilydd, yn rhan o ymgyrch benodol y llywodraeth i ddiogelu ffiniau Prydain, a rhoi terfyn ar yr addewid ffug o waith a ddefnyddir i werthu lleoedd ar gychod bach peryglus. 

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2026