Datganiad i'r wasg

Hwb i Ogledd Cymru wrth i Lend Lease ennill contract carchar

Gogledd Cymru i elwa o gontract sydd werth miliynau ar filiynau o bunnoedd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
3D view of what north Wales prison will look like

Bydd cynigion y contract yn esgor ar fudd sylweddol i economi Gogledd Cymru a, thrwy greu swyddi a chyfleoedd, mae’n cyd-fynd â chynllun tymor hir y Llywodraeth i greu economi cryfach a mwy gwydn. Mae’r contract adeiladu, sydd werth £151m (a TAW) hefyd yn sicrhau y bydd cyfanswm gwerth y prosiect, o gynnwys costau eraill, yn £212m - dipyn yn llai na’r amcanbris gwreiddiol o £250m.

Mae’r cynigion yn cynnwys oddeutu £50m i’w wario gyda busnesau bach a chanolig eu maint (BBCh), £30m i’w wario gyda busnesau lleol a 50% o’r gweithlu cyfan i’w recriwtio yn yr ardal leol, gan gynnwys oddeutu 100 o brentisiaid. Mae Lend Lease hefyd wedi cynnig cymorth ymarferol i ysgolion lleol a neilltuo amser i gwrdd ag anghenion lleol drwy gyflogi Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned.

Dyma oedd gan y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright i’w ddweud:

Roeddem yn gwybod y byddai carchar newydd yng Nghymru yn hwb aruthrol i economi Cymru, ac rwyf wrth fy modd y bydd pobl leol yn elwa ohono.

Bydd y contract hwn yn sicrhau y bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario gyda BBChau, ynghyd â lefelau sylweddol o waith i fusnesau lleol a phobl ifanc - elfen allweddol o gynllun tymor hir y Llywodraeth hon i adeiladu economi cryfach.


Bydd y carchar cyntaf hwn yng ngogledd Cymru yn hwb sylweddol hefyd i’r stad carchardai, gan helpu i sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau posib a chadw troseddwyr yn nes at eu cartrefi yr un pryd, er mwyn helpu i atal aildroseddu.

Amcangyfrifir y bydd adeiladu’r carchar yn creu oddeutu 1,000 o swyddi ac yn ychwanegu oddeutu £23m y flwyddyn i economi’r rhanbarth. Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder wedi bod yn arbennig o frwdfrydig dros ddefnyddio BBChau a busnesau lleol yn ystod y broses dendro, gan gynnal digwyddiad arbennig ar gyfer cyflenwyr lleol er mwyn helpu cwmnïau i ddangos y gwasanaethau y gallant eu cynnig i ddarpar gontractwyr.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn hwb aruthrol i economi rhanbarthol gogledd Cymru.

Yn ystod y digwyddiad ar gyfer cyflenwyr lleol ym mis Ionawr, gwelsom y cynnyrch a’r gwasanaethau o safon yr oedd busnesau lleol yn gallu eu cynnig wrth iddynt gystadlu am gael bod yn rhan o’r datblygiad pwysig hwn.

Roeddwn wrth fy modd yn gweld cynifer o gwmnïau’n mynegi diddordeb mor gryf mewn cyfrannu at adeiladu’r carchar.

Roedd yn brawf clir bod gan Gymru rai o’r cyflenwyr gorau yn y DU, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn elwa’n uniongyrchol o gyhoeddiad arwyddocaol heddiw.

Y carchar newydd ar gyfer 2,100 o garcharorion fydd y cyntaf yng ngogledd Cymru, ac mae’n rhan o gynlluniau moderneiddio parhaus a fydd nid yn unig yn creu stad carchardai addas ar gyfer ei bwrpas ond hefyd yn tocio £500m oddi ar gostau carchardai yn ystod y cyfnod adolygu gwariant cyfredol.

Mae gwaith ar y safle eisoes wedi dechrau – hen safle ffatri Teiars Firestone – a bydd y carchar yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017.

Nodiadau i olygyddion:

  • Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Ddesg Newyddion y Weinyddiaeth Gyfiawnder: 020 3334 3536.
Cyhoeddwyd ar 30 May 2014