Datganiad i'r wasg

Dathliadau cartref y digwyddiad i ddod ag Uwchgynhadledd NATO yn fyw

Caiff calon Casnewydd ei drawsnewid ar gyfer gŵyl diwylliant a bwyd ar thema NATO sydd i’w gynnal gan Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Newport City riverfront

Ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc caiff trigolion y ddinas flas ar fwyd a diod 28 cenedl y Gynghrair mewn gŵyl sy’n rhedeg ar hyd glannau’r Afon Wysg ger Theatr Glan yr Afon a The Wave. Bydd milwyr o ar draws y fyddin, gan gynnwys Brigâd 160 (Cymru), wrth law i arddangos cerbydau ac offer milwrol, a chogyddion y fyddin yn coginio y prydau maent yn eu paratoi i’r milwyr ar y rheng flaen.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11:30am ar 23 Awst gyda 50 o gerddorion o Band y Marchoglu Cartref yn perfformio yng nghanol y ddinas. Bydd y band wedyn yn symud draw i Rodney Parade i ddiddanu’r dorf yn gêm CP Sir Casnewydd yn erbyn Burton Albion, lle bydd tîm arddangos y Catrawd Parasiwt, a’r Red Devils, yn awyr-blymio i’r cae i gyflwyno’r bêl i’r dyfarnwr.

Yn y cyfamser, bydd bwydydd o Sbaen i Latfia, ac o Dwrci i’r Unol Daleithiau, yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â cherddoriaeth, adloniant a gweithgareddau i blant gan gynnwys waliau dringo a chwrs antur chwyddadwy y fyddin.

Uchafbwynt y dydd fydd gweld awyrennau Spitfire a Hurricane o Frwydr Prydain yn hedfan heibio. Mae’r dathliadau i fod i orffen am 16.30.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Byddwn yn annog pobl i fynychu’r ŵyl os am ddiwrnod allan gwych fydd yn gyfle i brofi bwyd a diwylliant gwledydd NATO.

Mae gan Gasnewydd lawer iawn i’w gynnig a bydd y ddinas heb os yn gartref gwych i’r Uwchgynhadledd y mis nesaf.

Yr Uwchgynhadledd fydd y casgliad mwyaf o arweinwyr y byd erioed i ddigwydd yn y DU. Bydd Casnewydd yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i arddangos popeth sy’n wych am Gymru ac i ddangos paham y dylai pobl ein dewis ar gyfer busnes, gwyliau neu addysg.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

Mae dathliadau cartref y digwyddiad yn addo rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau. Gyda’i thema o NATO, bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r digwyddiad byd-eang sy’n digwydd yn ein dinas fis nesaf.

Mae Uwchgynhadledd NATO 2014 yn cael ei chynnal yn y Celtic Manor ar 04-05 Medi.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar Cyngor Dinas Casnewydd

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 9 August 2014