Datganiad i'r wasg

Rhodd Is-Gomander HMS Severn i Ysgrifennydd Cymru

[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/2011/04/27/rhodd-is-gomander-hms-severn-i-ysgrifennydd-cymru/img2843/)[](http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (27 Ebrill 2011) cyflwynwyd rhodd arbennig i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wrth i Is-gomander HMS Severn, Catherine Jordan, ymweld a’r Ysgrifennydd Gwladol yn Nhŷ Gwydyr. 

Cyflwynodd Is-gomander Jordan arfbais llong addurnol i’r Ysgrifennydd Gwladol i ddangos y cysylltiad personol cryf rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol, a’r Llynges Frenhinol gan i’w mam fod yn aelod o’r Wreniaid.  Mae’r Is-gomander yn gapten HMS Severn, Llong Patrolio gyda Sgwadron Amddiffyn Pysgodfeydd y Llynges Frenhinol, sy’n patrolio dyfroedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i orfodi deddfwriaeth pysgodfeydd. 

Dywedodd Mrs Gillan: “Roeddwn wrth fy modd yn cael croesawu Is-gomander Jordan i Dŷ Gwydyr.  Mae gan HMS Severn gysylltiadau cryf ag ardal Gwent a Chasnewydd yn arbennig, ac felly rwyf ar ben fy nigon yn cael cyfarfod a chomander y llong sy’n gwneud gwaith mor eithriadol o bwysig yn diogelu a gwarchod ein dyfroedd. 

“Yn ystod Sul y Cofio y llynedd, cyfarfum a Chomodor Jamie Millar (CBE) ac aelodau criw HMS Monmouth yng Nghaerdydd. Mae’r criwiau ymroddedig sy’n treulio cymaint o wythnosau a misoedd heb eu teuluoedd yn haeddu ein cydnabyddiaeth a’n parch ac felly mae’n fraint cael derbyn yr arfbais y mae Is-gomander Jordan wedi’i chyflwyno i mi heddiw, sydd nid yn unig yn arwydd o’r cwlwm cryf rhwng Casnewydd a HMS Severn, ond hefyd o’r cwlwm cryf rhwng Cymru a’r Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig i gyd.

“Bydd yr arfbais yn cael lle teilwng ym mynedfa Tŷ Gwydyr fel y bydd yr holl ymwelwyr a’r adeilad yn gweld cysylltiad Cymreig anrhydeddus a’n Lluoedd Arfog.”

Cyhoeddwyd ar 27 April 2011