Stori newyddion

Cyhoeddi tref hanesyddol yng Ngogledd Cymru fel y lleoliad ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2018

Llandudno i gynnal degfed digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Armed Forces Day, RAF Aerobatic Team, The Red Arrows.

Armed Forces Day, RAF Aerobatic Team, The Red Arrows.

Mae’Llywodreath y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd degfed digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn digwydd yn ac o amgylch tref Llandudno ym mwrdeistref sirol Conwy, Gogledd Cymru.

Cefnogir y digwyddiad yn y dref hanesyddol arfordirol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno â miloedd o bobl yn nathliadau De Cymru yng Nghaerffili i anrhydeddu gwaith ac ymroddiad ein Milwyr dewr sy’n gweithio ym mhob cwr o’r byd.

Bydd Mr Cairns yn darllen yn y Gwasanaeth Awyr Agored traddodiadol o flaen Castell Caerffili, cyn mwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol a cherddoriaeth fyw.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd y bydd digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dychwelyd i Gymru yn 2018. Yr adeg hon blwyddyn nesaf, byddwn yn gweld cyn-filwyr o ryfeloedd y gorffennol a milwyr sy’n gwasanaethu mewn gwrthdrawiadau o amgylch y byd heddiw yn gorymdeithio ochr yn ochr yn Llandudno, wedi’u huno wrth ymfalchïo yng ngwasanaethu dros eu gwlad.

Mae gennym gysylltiad arbennig gyda’n Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae’r digwyddiad cenedlaethol hwn yn gyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a’u balchder o’n milwyr, llongwyr a phersonél yr Awyrlu, sy’n aberthu gymaint dros eraill.

Mae ein diolchgarwch hefyd yn ymestyn at y teuluoedd maent yn eu gadael a chyn-filwyr y gorffennol a’r presennol, sydd wedi cyfrannu blynyddoedd o’i bywydau i wasanaethu. Mae’n fraint i mi allu nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog heddiw – ac yn y blynyddoedd i ddod – yn eu cwmni.

Dywedodd Earl Howe, y Gweinidog Amddiffyn dros yr Arglwyddi:

Mae Llandudno yn lleoliad gwych ar gyfer dathliadau blwyddyn nesaf ac rwy’n siŵr y bydd y dref yn dod â’r genedl gyfan ynghyd i ddathlu ein Lluoedd Arfog.

Roedd Cymru’n falch iawn i gynnal y digwyddiad cenedlaethol yn 2010 pan ddathlodd miloedd o bobl yng Nghaerdydd. Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r cymunedau lleol, ynghyd â hanes cyfoethog a bywiog Llandudno, yn golygu bod y dref yn ddewis perffaith i wneud y digwyddiad yn un fwy llwyddiannus byth yn 2018.

Mae gan Gogledd Cymru lawer o gysylltiadau hanesyddol a chyfredol gyda’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys Unedau Parhaol ac Unedau Wrth Gefn y Fyddin, megis y Llu Brenhinol Cymreig, sy’n recriwtio o’r ardal. Mae Awyrlu Brenhinol y Fali ar Ynys Môn yn gartref i ganolfan hyfforddi awyrennau cyflym. Mae bron 10,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghonwy, ac yn cael cefnogaeth gan nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.

Eleni, roedd y digwyddiadau ar hyd yr arfordir yn cynnwys Gorymdaith Lluoedd Arfog yn nhref Caernarfon ar 17 Mehefin, a heddiw mae parti stryd gyda thema Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal yng Nghonwy.

Cyhoeddwyd ar 24 June 2017