Datganiad i'r wasg

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu arian i ddiogelu safle hollbwysig Yr Ysgwrn

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (16 Tachwedd 2012), croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion y bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu grant…

Heddiw (16 Tachwedd 2012), croesawodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y newyddion y bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu grant gwerth £149,700 i sicrhau bod cartref Hedd Wyn, y bardd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cael ei warchod. 

Mae’r swm ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi galluogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i fwrw ymlaen a’i gynlluniau i weddnewid y ffermdy rhestredig Gradd II*, sef Yr Ysgwrn, y tir fferm o’i gwmpas, yn ogystal a’r casgliadau sy’n gysylltiedig a Hedd Wyn, yn amgueddfa ac yn ganolfan ddehongli.

Mae’r Ysgwrn yn cael ei ystyried yn lleoliad rhyngwladol bwysig fel cartref Ellis Humphrey Evans, sy’n fwy cyfarwydd wrth ei enw barddol - Hedd Wyn.  Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 i Mr Evans am ei gerdd Yr Arwr, a hynny ar ol iddo gael ei ladd yn y brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.   

Bydd yr Awdurdod sy’n ariannu yn helpu i gadw’r 168 erw o’r tir fferm traddodiadol sy’n amgylchynu’r ffermdy, ond bydd hefyd yn helpu i wella mynediad at y safle - mynediad ffisegol a mynediad digidol. Bydd modd i’r ymwelwyr ddysgu am y ffigur llenyddol enwog hwn, am ddiwylliant Cymru, am fywyd gwledig ar fferm ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac am gysylltiadau a’r Rhyfel Byd Cyntaf - hyn oll ar un safle.  

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mr Jones:

“Mae’n bleser gennyf glywed bod Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, y bardd pwysig o Gymru, wedi cael yr arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri heddiw.

“Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri rol hanfodol i’w chwarae wrth gynnal a datblygu traddodiadau diwylliannol yng Nghymru. Mae ymwelwyr o Gymru ac o bedwar ban byd yn cael eu denu ar bererindod i’r safle. Bydd yr arian a dderbyniwyd ar gyfer y gwaith o adfer a datblygu’r safle yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn cael y cyfle i ddysgu am y rhan bwysig hon o hanes Cymru am genedlaethau i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld a’r safle yn fuan ar ol iddo gael ei ddatblygu.”

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd rheolwr datblygu cynulleidfaoedd yn cael ei gyflogi i oruchwylio rhaglen arwyddocaol o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gynnwys tywys ymwelwyr o amgylch y safle, cadwraeth, gofalu am gasgliadau, gwasanaethau cwsmer, iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf. Bydd hefyd yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ym maes treftadaeth er mwyn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o stori Hedd Wyn ymhlith y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg, gan gynnwys y prosiect Mosaic, sef ymgyrch gan Campaign for National Parks sy’n datblygu cysylltiadau a chymunedau ethnig a phobl dduon.

Gwybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri**

Gan ddefnyddio arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio sicrhau gwahaniaeth parhaol i dreftadaeth, i bobl ac i gymunedau ledled y DU, gan helpu i adeiladu economi dreftadaeth gref. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol, gan gynnwys amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol, archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi darparu mwy na £5 biliwn i gefnogi dros 33,000 o brosiectau ar hyd a lled y DU, gan gynnwys mwy na £240 miliwn i gefnogi dros 2,000 o brosiectau yng Nghymru. www.hlf.org.uk.  **

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri**

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gartref i dros 26,000 o bobl ac mae’n cynnwys 823 milltir sgwar o dirweddau amrywiol. Fe’i sefydlwyd yn 1951 ac mae’n ymestyn o Farc Penllanw Bae Ceredigion yn y gorllewin i Ddyffryn Conwy yn y dwyrain. Ei bwrpas statudol yw:

• Gwarchod a hybu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal;
• Hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc;
Mae ganddo hefyd ddyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parc.