Datganiad i'r wasg

Bargeinion Twf a thechnoleg y dyfodol ar frig yr agenda wrth i Weinidog newydd Llywodraeth Cymru yng Nghymru ymweld â'r Gogledd

Stuart Andrew yn cynnal ei ymweliad swyddogol cyntaf fel Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru.

Bydd Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru, Stuart Andrew, yn cynnal ei ymweliad swyddogol cyntaf â gogledd Cymru heddiw (dydd Iau, 25 Mawrth), i dynnu sylw at weledigaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhanbarth ac i ddangos ei fod yn cefnogi’r ymgyrch dros Fargen Twf y Gogledd.

Bydd Mr Andrew yn cwrdd ag aelodau tîm prosiect Bargen Twf y Gogledd ym Mhrifysgol Glyndŵr i drafod cynnydd parhaus y cynlluniau ar gyfer y Fargen.

Bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld ag OpTIC, lle bydd yn cael cwmni’r Gweinidog dros Bwerdy Gogledd Lloegr, Jake Berry.

Mae Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesi sy’n arwain y byd ers i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam gaffael y safle yn 2009. Mae’n eiddo i’r brifysgol ac yn cael ei rhedeg ganddi, ac yn gartref i 18 o fusnesau a mwy na 100 o staff. Mae’r rhain yn cynnwys Arloesiadau Glyndŵr Innovations, sy’n un o brif ddarparwyr gwasanaeth peirianneg datblygu cynnyrch arloesol a gwasanaeth ymgynghori ym maes technoleg.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Stuart Andrew:

Yn rhinwedd fy swydd newydd fel Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru, byddaf yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo’r cyfraniad y mae pob cwr o Gymru yn ei wneud at y twf rydyn ni’n ei weld yn ein heconomi.

O’r busnesau sy’n creu swyddi, i’r Prifysgolion sy’n cystadlu â rhai o sefydliadau gorau’r byd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall bod y rhanbarth yn gwneud cyfraniad hanfodol i sicrhau llwyddiant ein cynllun economaidd hirdymor.

Mae Bargen Twf y Gogledd yn ymrwymiad yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n nodi gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth gyda’r nod o greu 5,300 o swyddi a denu buddsoddiad sector preifat gwerth £1 biliwn yn y rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae prif weithredwyr ac arweinyddion y chwe chyngor yn y rhanbarth wedi cefnogi’r cynlluniau, ac mae’r cyfarfod ym Mhrifysgol Glyndŵr heddiw yn gyfle i dîm y prosiect gyflwyno ei gynigion i’r Gweinidog newydd.

Ychwanegodd Mr Andrew:

Bydd Bargen Twf y Gogledd yn trawsnewid y ffordd mae ein trefi a’n pentrefi yn y Gogledd yn rheoli eu hunain - gan symud pwerau o Lundain a Chaerdydd a’u rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Mae Bargeinion Twf llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau mawr i ddatgloi twf ar draws dinasoedd a’u hardaloedd economaidd ehangach. Maen nhw’n gweithio orau pan fydd pawb yn yr ardal leol, gan gynnwys arweinwyr dinesig, busnes ac addysg uwch, yn dod at ei gilydd i ddweud wrth y Llywodraeth beth sydd angen ei newid a beth ellir ei wneud yn well.

Yn sgil lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol y llynedd, nawr yw’r amser delfrydol i fusnesau ac awdurdodau lleol achub ar y cyfle i ddod ynghyd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yma i gefnogi a gweithio gyda chwmnïau a grwpiau ar lawr gwlad wrth iddyn nhw ddatblygu bargen bwrpasol sy’n gweithio i ogledd Cymru ar ei hyd.

Dywedodd Gweinidog Pwerdy Gogledd Lloegr a Thwf Lleol, Jake Berry:

Mae’r llywodraeth hon wedi buddsoddi £3.4 biliwn ledled y Deyrnas Unedig drwy Fargeinion Twf hynod lwyddiannus, sydd wedi meithrin yr amodau economaidd priodol er mwyn i ardaloedd lleol ffynnu. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog i hyrwyddo’r cyfle cyffrous hwn i ogledd Cymru dros y misoedd nesaf.

Bydd y Gweinidogion hefyd yn ymweld â pharc Gwyddoniaeth Menai.

Cyhoeddwyd ar 25 January 2018