Datganiad i'r wasg

Dathlu llwyddiant GWYCH Cymru

David Jones yn cynnal derbyniad busnes Dydd Gŵyl Dewi

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

St David's Day reception

O fentrau sy’n tyfu’n gyflymaf yng Nghymru i gwmnïau sefydledig sy’n cael dylanwad dramor, mae cynrychiolwyr o fusnesau o bob rhan o Gymru wedi ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, mewn derbyniad i ddathlu llwyddiant economaidd cynyddol yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn Llundain, a wnaeth ddod â chynrychiolwyr o fusnesau a chymdeithas Cymru ynghyd i gydnabod a gwerthfawrogi eu cyfraniad at economi Cymru.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Roeddwn falch iawn o gael y cyfle i ddod â chynifer o bobl o fyd busnes, y celfyddydau, twristiaeth a diwylliant yng Nghymru at ei gilydd neithiwr. Mae eu gwaith o fudd i Gymru ac yn gyfraniad sylweddol at ddarlun economaidd y Deyrnas Unedig sy’n gwella’n gyflym.

Wnaethy y derbyniad, a gafodd ei amseru i nodi wythnos Dydd Gŵyl Dewi, groesawi swyddogion o gwmnïau rhyngwladol fel Airbus, i Fusnesau Bach a Chanolig sef asgwrn cefn yr economi sy’n tyfu.

Bydd y digwyddiad hefyd yn tanlinellu lefel cymorth Llywodraeth y DU sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru sy’n bwriadu ymuno â marchnadoedd tramor neu dyfu ynddynt. Mae UKTI yn cynnig ystod eang o raglenni cymorth, gan gynnwys help gydag ymchwil i’r farchnad a dod o hyd i gysylltiadau dramor, a bydd busnesau a fydd yn bresennol heno yn cael eu hannog i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw i dyfu ac ehangu mewn marchnadoedd newydd.

Ychwanegodd David Jones:

Dim ond wythnos diwethaf roeddwn yn croesawu dirprwyaeth o Indonesia ar ymweliadau â busnesau yng ngogledd Cymru, ac rwyf newydd ddychwelyd o Oman a Malaysia lle bûm yn ymweld â buddsoddwyr i hyrwyddo’r Deyrnas Unedig fel cyrchfan ar gyfer busnesau.

Mae’r manteision dichonol i fusnesau sy’n deillio o fasnachu rhyngwladol yn amlwg. Mae gennym fusnesau rhagorol yng Nghymru sy’n masnachu’n rhyngwladol, sy’n dangos bod busnesau Cymru yn gallu bod yn llwyddiannus mewn marchnadoedd byd-eang.

Bydd Uwchgynhadledd NATO, a gynhelir yng Nghasnewydd yn nes ymlaen eleni hefyd yn gyfle enfawr i hyrwyddo Cymru i’r byd fel lle ffantastig ar gyfer gwyliau a busnes.

Yn ystod y 12 mis nesaf, wrth i’r adferiad ennill momentwm, fy ngobaith i yw y bydd y sector preifat yng Nghymru’n parhau i ffynnu er mwyn creu economi fwy cytbwys sy’n edrych am allan ac yn gwneud y defnydd gorau o’r holl gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Cyhoeddwyd ar 6 March 2014