Stori newyddion

Ceisiadau am grant profiant yn symud i MyHMCTS

Bydd eithriadau cyfyngedig yn sicrhau y gellir parhau i wneud ceisiadau cymhleth ar bapur.

O’r 2il o Dachwedd 2020, rhaid gwneud pob cais am brofiant (lle mae ewyllys) gan ddefnyddio MyHMCTS - y gwasanaeth ar-lein i weithwyr proffesiynol gyflwyno, talu am, a rheoli ceisiadau mewn llysoedd sifil a theulu a thribiwnlysoedd.

Mae’r newid yn dilyn ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder i’r ymgynghoriad Ceisiadau profiant annadleuol: gorfodi gwneud ceisiadau proffesiynol ar-lein a diwygiad dilynol i’r Rheolau Profiant Annadleuol.

Mae cyfnod gras tan y 30ain o Dachwedd 2020 pan fydd ceisiadau papur yn dal i gael eu derbyn i roi amser i ddefnyddwyr proffesiynol baratoi. Ar ôl y dyddiad hwn, rhaid cyflwyno pob cais ac eithrio’r eithriadau a gadarnhawyd gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Y manteision o ddefnyddio MyHMCTS

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth eang i’r egwyddor o gyflwyno ceisiadau ar-lein. Mae gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth profiant yn cydnabod manteision gallu cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg o’r dydd, monitro cynnydd achosion a chael hysbysiadau am ddatblygiadau. Mae llinell gymorth bwrpasol, genedlaethol hefyd yn cael ei darparu gan Ganolfan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd lle mae gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n llawn fynediad at systemau mewn canolfannau ac o bell.

Dywedodd Adam Lennon, Dirprwy Gyfarwyddwr a Pherchennog y Gwasanaeth Profiant:

Mae COVID-19 wedi profi pwysigrwydd y system profiant ar-lein o ran darparu gwasanaeth modern a dibynadwy i weithwyr proffesiynol y gwasanaeth profiant sy’n cyflwyno tua 180,000 o geisiadau bob blwyddyn naill ai ar ran unigolion neu fel ysgutorion yn eu rhinwedd eu hunain.

Rydym wedi bod yn falch o’r adborth a gawsom hyd yma ar y gwasanaeth a chredwn fod yr amser yn awr yn iawn i orfodi’r defnydd o MyHMCTS. Mae’n ddiogel, yn lleihau gwallau ac yn gwella amseroedd prosesu gan ganiatáu i ni a gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth profiant ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i aelodau’r cyhoedd ar adegau heriol yn eu bywydau personol.

Paratoi ar gyfer symud i MyHMCTS

Cyn dechrau’r broses gofrestru ar gyfer MyHMCTS, darllenwch y canllawiau a gwnewch yn siŵr nad oes gan eich sefydliad gyfrif sy’n bodoli eisoes.

Os nad yw eich sefydliad yn defnyddio MyHMCTS yn barod, bydd angen iddo gofrestru i brosesu taliadau gan ddefnyddio Cyfrif Ffioedd HMCTS (a elwir hefyd yn ‘Payment by Account’) ac yna cofrestru ar-lein i gael mynediad i MyHMCTS.

Canllawiau ychwanegol ar ddefnyddio’r gwasanaeth

Help a chefnogaeth

Mae cymorth a chymorth i gofrestru ar gael o MyHMCTSsupport@justice.gov.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y gair ‘Profiant’ ym mlwch pwnc eich e-bost.

Os oes angen rhagor o help neu gymorth arnoch gyda chais ar-lein, anfonwch e-bost i contactprobate@justice.gov.uk neu ffoniwch 0300 303 0648.

Cyhoeddwyd ar 28 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 December 2020 + show all updates
  1. Grace period extended.

  2. Added translation