Datganiad i'r wasg

Galw Trefi Cymru: A allai tref yng Nghymru gael ei choroni'n Dref Diwylliant gyntaf y DU? 

Mae cystadleuaeth Tref Diwylliant gyntaf y DU yn rhoi bywyd newydd i gymunedau mewn trefi yng Nghymru. 

  • Cyfle hanesyddol i drefi ledled Cymru hoelio’r sylw a dod yn Dref Diwylliant gyntaf erioed y DU 

  • Mae’r cyfnod Datgan Diddordeb ar agor tan 31 Mawrth 2026  

  • Mae’r gystadleuaeth yn cyflawni Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth, gan sbarduno cyfleoedd a thwf economaidd lleol

Gydag 11 wythnos i ymgeisio, mae’r gystadleuaeth ar agor i drefi bach, canolig a mawr yng Nghymru, gyda’r enillydd yn cyflwyno rhaglen ddiwylliannol fywiog. Mae’r gystadleuaeth hon yn arddangos trefi Cymru drwy weledigaethau a lleisiau lleol – drwy leoliadau celfyddydol newydd, perfformiadau, gweithdai a mwy. Mae hefyd yn dod â buddsoddiad lleol, yn ennyn balchder parhaol mewn trefi, ac yn agor y drws i bawb fwynhau’r celfyddydau.   

Gall trefi gyflwyno eu Datganiadau o Ddiddordeb nawr. Bydd Syr Phil Redmond yn arwain panel arbenigol, gan feirniadu trefi ar y ffordd y byddan nhw’n adrodd eu stori unigryw, sut byddan nhw’n dod â phawb yn y gymuned at ei gilydd, a sut bydd trefi’n cyflawni eu gweledigaeth. Bydd y ceisiadau cryfaf yn symud ymlaen i restr fer, gyda phob tref ar y rhestr fer yn derbyn £60,000 i’w helpu i gyflwyno eu ceisiadau llawn ar gyfer y gystadleuaeth. 

Dewisir tair tref ar gyfer y rownd derfynol – un dref fach, un ganolig, ac un fawr. Bydd y dref fuddugol yn cael ei choroni’n Dref Diwylliant y DU 2028, ac yn derbyn gwobr o £3 miliwn. Bydd y trefi yn yr ail a’r trydydd safle yn derbyn £250,000 yr un i gyflawni elfennau o’u cais, o adnewyddu seilwaith cymunedol i wyliau cerddoriaeth drydan. 

Y dyddiad cau er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028 yw 31 Mawrth 2026, a disgwylir i’r rhestr fer o drefi gael ei chyhoeddi yn y Gwanwyn.  

Dywedodd Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Diwylliant:  

Mae gan drefi Cymru gymaint i ymfalchïo ynddo – o’u hanes lleol, cyfoethog i wyliau a dathliadau unigryw. Maen nhw wedi siapio ein stori genedlaethol ers degawdau. Nawr mae’n bryd iddyn nhw hoelio’r sylw, a rhoi llwyfan i’w straeon unigryw.   

Rydym wedi gweld pŵer trawsnewidiol diwylliant drwy gystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU. Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod trefi Cymru yn cael yr un cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i’w cymuned leol, ac i ddangos i’r byd pam yn union mae eu tref nhw mor arbennig.

Mae’r gystadleuaeth hon – a gyhoeddwyd gan Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Diwylliant, ym mis Hydref 2025 – yn rhoi llwyfan i gymunedau ym mhob cwr o’r wlad adrodd eu stori unigryw eu hunain, ac yn taflu golau ar y rôl hanfodol y mae trefi yn ei chwarae ym mywyd ein gwlad.  

O furiau cestyll hanesyddol Caernarfon a Chaerffili, ac o drefi glan môr Llandudno a Thalacharn, mae rhwydwaith cyfoethog o drefi yn cysylltu Cymru, pob un â’i hanes a’i hunaniaeth ei hun. 

Mae hyn yn rhan o uchelgais y Prif Weinidog i adfer balchder ym mhob rhan o Brydain, wrth iddo wasanaethu pob cwr o’r wlad.  

Mae trefi Prydain yn llawn ysbryd cymunedol – rydym yn rhoi cyfle i ddod â’r ysbryd hwnnw’n fyw. Mae cynyddu balchder mewn ardaloedd lleol hefyd yn annog pobl i ymweld ag amgueddfeydd ac orielau ac i fwynhau perfformiadau byw, sydd hefyd yn golygu gwario mwy o arian sy’n cefnogi busnesau a swyddi lleol. 

Dywedodd Syr Phil Redmond, Cadeirydd cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU:  

Rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael gwahoddiad i Gadeirio cystadleuaeth newydd Tref Diwylliant, oherwydd yn y gorffennol mae wedi bod yn anodd dangos dyfnder, ehangder ac amrywiaeth cyd-destun diwylliannol y DU yn ddigonol drwy lens trefol Dinas Diwylliant y DU.  

Bydd y ddwy gystadleuaeth yn ategu ei gilydd ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i fwy o leoedd ddangos a dathlu nad yw creadigrwydd wedi’i gyfyngu i neuaddau cyngerdd, theatrau nac orielau mawr dinesig. Mae creadigrwydd i’w weld ym mhopeth a wnawn gyda’n gilydd. Ym mhob tref, pentref, cymdogaeth, stryd neu ffordd.  

Mae cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn gofyn beth sy’n gwneud eich tref chi’n arbennig? Beth sy’n gwneud i’r trigolion fod yn falch o fod yno? A pham y dylid dathlu hynny?

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

O Fôn i Fynwy, mae trefi gwych sydd â hanes a diwylliannau unigryw sy’n golygu eu bod yn lleoedd gwych i ymweld â nhw, i fyw ac i weithio ynddynt. 

O ŵyl Elvis Porthcawl i’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen, mae trefi Cymru yn cynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae gan y lleoedd hyn dreftadaeth gyfoethog, fel Caernarfon gyda’i chastell byd-enwog ac Aberystwyth, cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Byddwn wrth fy modd yn gweld tref yng Nghymru yn cael ei choroni’n Dref Diwylliant y DU, er mwyn i bawb gael gwybod beth sy’n gwneud ein trefi ni’n wirioneddol arbennig.

Daw hyn i ganlyn y Rhaglen Balchder Bro, a lansiwyd gan y llywodraeth ym mis Tachwedd 2025. Bydd y rhaglen yn darparu hyd at £10 biliwn i gefnogi 244 o drefi ym mhob cwr o’r wlad – trefi lle mae cymunedau wedi dioddef yn sgil tanfuddsoddi systematig a dirywiad. O dan y cynllun hwn, bydd cymunedau’n gallu gwario’r cyllid ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw – er enghraifft, gwella palmentydd a’r stryd fawr, neu fuddsoddi mewn diwylliant a mannau gwyrdd. 

Adeiladu ar sylfaen lwyddiannus 

Mae cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn adeiladu ar lwyddiant cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, sydd wedi sicrhau manteision trawsnewidiol i’w phedwar enillydd. Rhagwelir y bydd Bradford, enillydd cystadleuaeth y llynedd, yn elwa o £389 miliwn o dwf ar draws yr ardal, gyda nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas yn cynyddu 25% yn ystod y flwyddyn dan sylw. Mae amcangyfrifon cynnar yn dangos bod cynulleidfaoedd ei rhaglen Dinas Diwylliant yn fwy na 3 miliwn, gydag 80% o’r trigolion lleol a holwyd yn dweud ei bod wedi gwella eu llesiant ac wedi gwneud iddyn nhw ymfalchïo yn lle maen nhw’n byw.  

Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU wedi profi bod diwylliant a buddsoddi yn mynd law yn llaw ac yn adnewyddu cymunedau mewn ffordd sy’n rhoi bywyd newydd i bopeth – o’r stryd fawr, i gyfleoedd gwaith. 

Mae’r gwaith o chwilio am Ddinas Diwylliant y DU 2029 eisoes yn mynd rhagddo, gyda dinasoedd, trefi mwy, rhanbarthau a grwpiau o leoedd yn cael eu gwahodd i Ddatgan Diddordeb. Bydd y lleoliad buddugol ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029 yn derbyn £10 miliwn.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2026