Datganiad i'r wasg

Cwmnïau cludo tramor yn gorfod talu cyfran deg am ddefnyddio ffyrdd

Stephen Crabb yn croesawi cyhoeddiad ardoll newydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Group Photo

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, wedi croesawu cyhoeddiad llywodraeth y DU y bydd cwmnïau cludo tramor, am y tro cyntaf erioed, o Ebrill 1 ymlaen, yn talu cyfran deg am ddefnyddio ffyrdd y Deyrnas Unedig.

Tan heddiw, roedd lorïau tramor yn y DU yn gallu cludo eu nwyddau o Ewrop ac yn ôl heb wneud unrhyw gyfraniad ariannol tuag at gynnal y rhwydwaith ffyrdd. Yn gwbl groes i hynny, mae gyrwyr lori o’r DU, sy’n gweithio yn Ewrop, yn talu tollau ac ardollau pan fyddant yn dosbarthu nwyddau dramor.

Wrth sôn am yr ardoll newydd, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS:

Mae hwn yn hwb i gwmnïau cludo Prydain, ac mae’n rhoi gwell cyfle i weithredwyr gystadlu yn y farchnad fusnes ryngwladol dan yr un amodau â gweithredwyr tramor, a rhoi cyfle llawer gwell i gwmnïau ennill busnes. Mae’n enghraifft arall fyth o lywodraeth y DU yn cefnogi busnes Prydain a buddsoddi yn ein seilwaith.

Ymateb i’r alwad gan ein diwydiant cludo domestig yw’r ardoll hon, ac mae’n creu system decach gan ei fod yn cael gwared â pheth o’r annhegwch y mae cludwyr y DU yn ei deimlo wrth dalu am ddefnyddio llawer o ffyrdd dramor.

Dywed Ian Jarman, rheolwr Gwasanaethau Heol Owens yn Ne Cymru:

Mae’r newyddion y bydd gweithredwyr cludo tramor yn talu eu cyfran deg o hyn ymlaen tuag at gynnal ein ffyrdd yn newyddion ardderchog. Bydd yn hwb y bu diwydiant cludo’r DU yn disgwyl amdano ers amser maith, ac mae potensial y gallai busnes gweithredwyr y DU gynyddu. Cyn yr ardoll hon, gallai cwmnïau cludo tramor lwytho eu lorïau â thanwydd rhatach ar y cyfandir, cyrraedd yma gyda llond tanc o ddisel, dosbarthu’r llwyth cyntaf o nwyddau ac yna dosbarthu nwyddau eraill yn fewnol cyn gadael, heb hyd yn oed ail-lenwi eu tanc yma, felly roeddent hefyd yn osgoi talu treth tanwydd. O hyn ymlaen, byddant yn talu ymlaen llaw.

Hefyd yn cynnig ei sylwadau ynglŷn â’r ardoll newydd yr oedd Vincent Brickley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cludiant Tandem yn Ne Cymru, a ddywedodd:

Rydym yn croesawu’r newyddion. Rydym wedi lobïo dros hyn ers tro, ac mae’n hen bryd iddi gael ei chyflwyno. Mae’n golygu ein bod ni a gweithredwyr cludo tramor yn cystadlu dan yr un amodau am y tro cyntaf erioed. Mae’n gam i’r cyfeiriad iawn.

Mae’r Ardoll Defnyddwyr Ffordd (Cerbydau Nwyddau Trwm) yn cael ei chyflwyno bron i flwyddyn ynghynt na’r disgwyl, ac mae’n sicrhau bod cludwyr tramor yn gwneud cyfraniad tecach tuag at gynnal a chadw ffyrdd y DU. Mae’r rhagolygon yn awgrymu y byddai’r refeniw blynyddol o gerbydau tramor oddeutu £20 miliwn, a gallai esgor ar fuddiannau economaidd yn sgîl cynnydd yn y farchnad gludo ryngwladol.

Mae’r ardoll yn effeithio ar bob cerbyd nwyddau trwm 12 tunnell, neu fwy, sy’n gyrru ar ffyrdd y DU, ym mha wlad bynnag y’u cofrestrwyd, felly mae cerbydau cartref a thramor yn talu. Law yn llaw â chyflwyno’r ardoll, mae’r llywodraeth yn gostwng y Dreth Cerbyd, sy’n golygu na fydd naw o bob cerbyd yn y DU yn talu mwy nag y maent ar hyn o bryd.

Nodiadau i Olygyddion

Ceir manylion ynglŷn â’r Ardoll Defnyddwyr Ffordd (Cerbydau Nwyddau Trwm) ar wefan yr Adran Drafnidiaeth

Cyhoeddwyd ar 1 April 2014