Datganiad i'r wasg

Y diwydiant ffermio yw ‘asgwrn cefn economaidd’ cefn gwlad Cymru

Ysgrifenyddion Gwladol yn cefnogi Sioe Dinbych a Fflint

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Denbigh & Flint Show

The Denbigh & Flint Show

O brif atyniadau bywiog i neuaddau bwyd yn llawn masnachwyr a chynhyrchwyr lleol, mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi profi heddiw arddangosfa undydd o fywyd gwledig Cymreig yn Sioe Dinbych a Fflint (15 Awst).

Ymunodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Owen Paterson AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, â miloedd o ymwelwyr a aeth i’r sioe amaethyddol flynyddol ar Y Green yn Ninbych heddiw.

Fel rhan o amserlen brysur, cyfarfu Mr Jones a Mr Paterson â chynrychiolwyr o sefydliadau ffermio i drafod y materion sy’n wynebu’r sector amaethyddol yng Nghymru, gan achub ar y cyfle i flasu’r amrywiaeth o gynnyrch Cymreig a oedd ar gael.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae tymor y sioe amaethyddol yn rhywbeth i edrych ymlaen ato bob blwyddyn, ac roeddwn wrth fy modd yn cael dechrau fy haf drwy ymweld â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd fis diwethaf.

Fodd bynnag, mae ein sioeau amaethyddol yn unigryw o ran eu cynnwys a’u cymeriad. Caiff Sioe Dinbych a Fflint yn benodol ei chydnabod fel un o’r digwyddiadau gwledig mwyaf nodedig yn y DU, gyda phresenoldeb cadarn ac arddangosfeydd neidio ceffylau a da byw o safon. Roedd yn galonogol gweld y boblogaeth wledig yn heidio i’r sioe unwaith eto heddiw, ac yn dangos eu cefnogaeth i ffermwyr a chynhyrchwyr lleol”.

Dros y canrifoedd, mae Cymru wedi dibynnu ar ei diwydiant amaethyddol i ddarparu cynnyrch a swyddi ac i sicrhau amgylchedd iach a chefnogi economi gadarn.

Yn ystod ei ymweliad masnachu a buddsoddi ag Asia, amlygodd yr Ysgrifennydd Gwladol rôl bwysig allforio cynnyrch Prydain i farchnad dramor yng nghyswllt adfer yr economi.

Ychwanegodd Mr Jones:

Yn ystod f’ymweliad â Hong Kong yn gynharach eleni, cefais gyfle i weld â’m llygaid fy hun gymaint yw brwdfrydedd Asia am gynnyrch Prydain, ac am gig oen Cymru yn arbennig. Mae Hong Kong yn farchnad bwysig i gig oen Cymru ac mae wedi bod ers nifer o flynyddoedd, gan helpu i roi hwb i’w enw da yn y Dwyrain Pell fel cynnyrch premiwm”.

Dywedodd Owen Paterson, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd:

Mae ffermio yng Nghymru yn gwneud cyfraniad mawr at economi Prydain. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, allforiodd Cymru werth dros £265 miliwn o fwyd a chynnyrch anifeiliaid ac mae marchnad enfawr am gynnyrch Cymru gartref, hefyd. Rwyf am glywed barn ffermwyr ar beth yn fwy y gall y Llywodraeth ei wneud i’w helpu i ddatblygu’r llwyddiant hwn.

Yn gynharach eleni, sicrhaodd y DU newidiadau pwysig i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan ddiogelu buddiannau ffermwyr, defnyddwyr a threthdalwyr Cymru. Mae gan Gymru bellach y rhyddid i deilwra’r modd y bydd yn rhoi’r Polisi hwn ar waith er budd ei ffermwyr ei hun, er mwyn sicrhau manteision amgylcheddol a dewis sut i symud tuag at daliadau uniongyrchol unffurf”.

NODIADAU I OLYGYDDION

I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Dinbych a Fflint, ewch i http://www.denbighandflintshow.com/

Os oes gennych ymholiadau’r wasg, cysylltwch â: Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 07826 868 891 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk

Swyddfa’r wasg DEFRA: 020 7238 6092

Cyhoeddwyd ar 15 August 2013