Datganiad i'r wasg

Rhaid i bob cwr o Gymru ffynnu ar ol Brexit

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu Gweinidog Ymadael â’r UE i Gaerdydd i glywed barn partneriaid allweddol

EU Exit

Heddiw (6 Tachwedd), bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU, Robin Walker ac Alun Cairns yng Nghaerdydd yn cwrdd â phanel o fusnesau, prifysgolion a’r sectorau gwirfoddol a ffermio yng Nghymru fel rhan o’r gwaith ymgysylltu parhaus ynghylch y cyfleoedd a’r heriau sy’n codi o ymadael â’r UE.

Bydd y cyfarfod hwn yn dilyn sesiwn dystiolaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, lle bydd y gweinidogion yn ateb cwestiynau am Fil Ymadael â’r UE.

Mae’r ymweliad hwn yn rhan o raglen o ymgysylltu parhaus â holl rannau’r DU ynghylch Brexit. Mae’n dilyn ymweliadau diweddar i Gymru gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green; yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, Michael Gove a’r Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol, Liam Fox.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Wrth i ni barhau i gymryd camau pendant tuag at ymadael â’r UE, rydym wedi ymrwymo i ddod â’r DU gyfan gyda ni - gan sicrhau bod llais pob sector yn cael ei glywed a bod pob gwlad yn gallu ffynnu o’r diwrnod cyntaf y byddwn yn gadael.

Mae pobl Cymru eisiau sicrhau bod Brexit yn llwyddiant ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eisiau’r un fath - rydym eisiau i Gymru ffynnu ac rydym eisiau cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob rhan o’r DU. Wrth i ni adael yr UE, bydd Cymru’n rhannu buddiannau rôl newydd y DU fel cenedl gref, fyd-eang, sy’n masnachu’n rhydd.

Dyna pam rydym yn ymgysylltu mwy â’r prif sectorau yng Nghymru drwy gydol y broses ymadael. Rwy’n falch o groesawu Robin Walker i Gaerdydd heddiw i barhau gyda’r trafodaethau hynny.

Dywedodd Robin Walker, y Gweinidog dros Adran Gadael yr UE:

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan, ac a fydd yn galluogi Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i groesawu’r cyfleoedd a ddaw yn sgil ymadael â’r UE.

Wrth i ni barhau i ymgysylltu mwy nag erioed ynghylch Brexit, rwy’n edrych ymlaen at glywed gan y prif sectorau yng Nghymru am eu blaenoriaethau ar gyfer Brexit, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y Bil Ymadael.

Mae’r Bil Ymadael yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sydd o ddiddordeb cenedlaethol. Bydd yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU ar y diwrnod ymadael, gan sicrhau ein bod ni’n gadael yr UE gyda sicrwydd, parhad a rheolaeth. Bydd y Bil yn cyrraedd y cam Pwyllgor ar 14 Tachwedd.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu Panel yr Arbenigwyr i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael â’r UE yn mynd rhagddi’n drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru. Mae’r trydydd cyfarfod heddiw yn adeiladu ar y sgyrsiau adeiladol y maent wedi’u cael yn barod, gan helpu i gyfrannu at safbwynt negodi’r DU.

Notes to Editors

  • Bydd y Gweinidogion yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
Cyhoeddwyd ar 6 November 2017