Datganiad i'r wasg

Cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 9,000 mewn tri mis

Stephen Crabb: “Mae ffigurau heddiw’n arwydd o adferiad economaidd iach ledled Cymru”

Labour Market Statistics

Mae cyflogaeth wedi codi 9,000 dros y tri mis o fis Chwefror i fis Ebrill, ac mae ffigurau heddiw’n dangos bod 1.398 miliwn o bobl bellach yn gweithio yng Nghymru.

Mae 97,000 yn fwy o bobl wedi’u cyflogi yn y sector preifat yng Nghymru ers 2010.

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng 800 yn ystod y mis diwethaf, a 5,200 dros y flwyddyn, yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (17 Mehefin).

Mae anweithgarwch economaidd 15,000 yn is o gymharu â’r chwarter blaenorol hefyd, a 5,000 yn is dros y flwyddyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:

Mae ffigurau heddiw’n arwydd o adferiad economaidd iach ledled Cymru. Mae cyflogaeth wedi codi 9,000 dros y chwarter diwethaf yn unig, ac mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng am y seithfed mis ar hugain yn olynol, felly mae Cymru’n mwynhau twf anhygoel mewn swyddi fel yn y DU.

Rwy’n arbennig o falch fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yn dal i ostwng. Mae’r adferiad dan arweiniad busnesau’n creu cyfleoedd gwaith a hyfforddi i bobl ifanc Cymru, ac mae’n bwysig fod hyn yn parhau. Ein prif flaenoriaeth yw gweld Cymru gyfan yn elwa o’r economi sy’n cryfhau.

Cyhoeddwyd ar 17 June 2015