Bwyta Allan i Helpu Allan – cadwch lygad am y logo
Bydd pobl sy’n bwyta ar y safle’n elwa ar ostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, ar fwyd a diodydd di-alcohol, unrhyw ddydd Llun i ddydd Mercher ym mis Awst.

Hyd yn hyn, mae mwy na 53,000 o safleoedd ledled y DU wedi ymuno â chynllun Bwyta Allan i Helpu Allan Llywodraeth y DU – ac mae twlsyn ffeindio bwyty swyddogol newydd gan y llywodraeth ar gael i helpu pobl i ddod o hyd iddynt.
Wrth i sticeri a phosteri Bwyta Allan i Helpu Allan ddechrau ymddangos mewn ffenestri bwytai, caffis, bariau a sefydliadau eraill ledled y wlad, cynghorir cwsmeriaid sydd am fanteisio ar y cynllun i gadw llygad am y logo.
Mae’r logo’n golygu y bydd pobl sy’n bwyta ar y safle’n elwa ar ostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, ar fwyd a diodydd di-alcohol, unrhyw ddydd Llun i ddydd Mercher ym mis Awst 2020 – a does dim angen taleb. Gall pobl sy’n bwyta ar y safle fanteisio ar y cynnig gymaint o weithiau ag y dymunant yn ystod y mis.
Meddai Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:
Mae ein bwytai, caffis a bariau yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, gan gyflogi mwy na miliwn o bobl. Bu coronafeirws yn ergyd drom iddynt, felly mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i adfer eu busnes.
Mae ein cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan wedi’i gynllunio i gael mwy o gwsmeriaid trwy’r drws, gan ddiogelu swyddi drwy roi’r hyder i fusnesau gadw a chyflogi staff. Mae mwy na 53,000 o fusnesau ledled y wlad eisoes wedi ymuno ac, o heddiw ymlaen, byddwch yn gallu dod o hyd i fusnes sy’n agos atoch chi gan ddefnyddio’r twlsyn ffeindio bwyty ar-lein.
I gael gwybod a yw bwyty yn cymryd rhan yn y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, gallwch ddefnyddio’r twlsyn ffeindio bwyty ar-lein sydd bellach yn fyw ar GOV.UK. Nodwch eich cod post, neu un sy’n agos at ble rydych am fwyta allan, i gael rhestr o’r safleoedd sy’n cymryd rhan o fewn cwmpas 5 milltir.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch bwyty lleol i weld a yw’n cymryd rhan, neu gallwch edrych ar ei wefan.
Mae’n rhaid i safleoedd sy’n cymryd rhan aros 7 diwrnod ar ôl cofrestru i gyflwyno eu hawliad cyntaf, gyda’r holl hawliadau cymwys yn cael eu talu cyn pen 5 diwrnod gwaith. Gellir cyflwyno hawliadau yn wythnosol, ac mae busnesau’n cael eu hannog i gofrestru cyn 3 Awst er mwyn elwa am y mis cyfan y mae’r cynllun yn fyw.
Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau, gan gynnwys sut i gofrestru a chyflwyno hawliad, ar gael ar-lein yn GOV.UK.
Gwybodaeth bellach
Mae busnesau’n gallu:
-
cael rhagor o wybodaeth am y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’
-
cael gwybod sut i gofrestru eu sefydliad ar gyfer y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Gall pobl sy’n bwyta ar y safle ddysgu sut i ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Mae’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ar gael i fwytai a sefydliadau eraill sy’n gwerthu bwyd i’w fwyta ar y safle. Gall sefydliadau ddarparu eu hardal fwyta eu hunain, neu ei rhannu gyda sefydliadau eraill sy’n caniatáu i gwsmeriaid fwyta ar y safle.
Gellir defnyddio’r gostyngiad yn ddiderfyn, a bydd yn ddilys o ddydd Llun i ddydd Mercher ar unrhyw brydau sydd i’w bwyta ar y safle, gan gynnwys diodydd di-alcohol, drwy gydol mis Awst 2020, ledled y DU.
Nid oes angen taleb ar gwsmeriaid. Mae busnesau cofrestredig, yn syml iawn, yn gostwng y bil yn ôl y swm priodol, a gellir defnyddio’r cynnig ynghyd â hyrwyddiadau a chynigion eraill y mae’r busnes yn eu derbyn.
Yr help sydd ar gael i fusnesau:
- arweiniad ar sut i gofrestru a chyflwyno hawliad ar wefan GOV.UK
- gweminarau byw, sy’n rhad ac am ddim, sy’n egluro sut mae’r cynllun yn gweithio. Bydd y gweminarau hyn yn rhoi enghreifftiau ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau
- fideo sy’n egluro sut mae’r cynllun yn gweithio:
- gwasanaeth sgwrs dros y we
- llinell gymorth benodol ar gyfer bwytai 0300 200 1900 ar gael o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- deunydd hyrwyddo y gellir ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim i helpu busnesau i hyrwyddo’r cynllun
Bydd CThEM yn gwirio hawliadau ac yn cymryd camau priodol i atal neu adennill taliadau y canfyddir eu bod yn anonest neu’n anghywir.
Ni all asiantau treth gofrestru na chyflwyno hawliadau ar ran eu cleientiaid. Bydd hyn yn sbarduno rhybudd o dwyll, a bydd yn arwain at oedi wrth gofrestru a hawlio. Bydd yn rhaid i gleientiaid y mae rhybudd o dwyll wedi effeithio arnynt gysylltu â ni ar wahân i ddatrys hyn.