DVLA yn rhybuddio cwsmeriaid i gadw’n ddiogel ar-lein
Mae DVLA yn atgoffa cwsmeriaid mai’r unig le swyddogol i ddod o hyd i’n gwasanaethau a’n gwybodaeth yw ar GOV.UK. Mae sgam seiber yn gyffredin felly rydym am helpu ein cwsmeriaid i adnabod gweithgaredd twyllodrus.

E-byst a negeseuon testun sgam
Nid ydym yn anfon e-byst neu negeseuon testun sy’n gofyn i chi gadarnhau eich manylion personol neu wybodaeth dalu, fel ar gyfer ad-daliad treth cerbyd. Os rydych yn cael unrhywbeth fel hyn, peidiwch ag agor unrhyw ddolenni a bydd angen dileu’r e-bost neu neges destun ar unwaith.
Gwefannau camarweiniol
Byddwch yn ofalus rhag gwefannau trydydd parti camarweiniol sy’n gwneud eu hunain i ymddangos fel DVLA. Efallai y bydd y gwefannau hyn yn, er enghraifft, yn cynnig i’ch helpu chi i ymgeisio am drwydded yrru, trethu eich car neu gysylltu chi gyda’n canolfan gyswllt. Bydd y gwefannau hyn yn aml yn codi tâl ychwanegol ar gyfer gwasanaethau y gallwch eu cael am ddim neu gost yn llai yn GOV.UK.
Er mwyn ceisio ymddangos yn ddilys, efallai y bydd y gwefannau hyn yn cynnwys ‘DVLA’ yn eu cyfeiriadau gwe (URL). Mae’n bosibl y byddant hefyd yn dylunio eu gwefan i ymddangos fel ydynt yn DVLA – er enghraifft, defnyddio hen logo ‘triongl gwyrdd’ DVLA, nad ydym yn ei ddefnyddio mwyach.
Peidiwch â chael eich twyllo gan y gwefannau hyn – hyd yn oed os ydynt yn ymddangos ar dop y canlyniadau chwilotwr. Sicrhewch eich bod yn defnyddio GOV.UK.
Gair i gall i ddiogelu eich hun ac eraill
Defnyddiwch GOV.UK yn unig fel y gallwch fod yn sicr eich bod yn delio’n uniongyrchol â DVLA.
Peidiwch byth â rhannu delweddau ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, fel eich trwydded yrru a dogfennau cerbyd.
Rhoi gwybod am ebyst gwe-rwydo i’r National Cyber Security Centre.
Rhoi gwybod arlein am sgamiau i Action Fraud.
Rhoi gwybod am hysbysebion camarweiniol i’r chwilotwyr.
Cadwch yn gyfoes gyda diogelwch y rhyngrwyd – darllenwch mwy am sgamiau ar-lein a gwe-rwydo, a sut i gadw’n ddiogel ar-lein.