DVLA yn cyhoeddi gweledigaeth dair blynedd
Heddiw fe wnaeth y DVLA gyhoeddi ei gynllun strategol yn amlinellu ei nodau a chyfeiriad ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Mae’r cynllun strategol yn canolbwyntio ar 5 prif thema:
- darparu gwasanaethau gorau eu dosbarth i’n cwsmeriaid
- creu technoleg a gwasanaethau dynamig
- bod yn ganolbwynt ar gyfer monitro digidol
- creu gweithle modern gyda’r bobl gywir â’r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol
- darparu diogelwch, diogeledd a chydymffurfiad heb eu hail
Meddai Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:
Ein nod yw trethu’r gyrwyr a cherbydau cywir a’u cael ar y ffordd mewn ffordd mor syml, diogel ac effeithlon â phosibl. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un oedd yn cynnwys cyflawniadau gwych a newid sylweddol i DVLA ac mae wedi ein rhoi mewn sefyllfa gryf i gyflenwi gwasanaethau gwell, symlach i fodurwyr. Mae ein ffocws yn dal i fod ar ddarparu gwasanaeth gorau ei ddosbarth i fodurwyr.
Bydd y cynllun strategol rydyn ni wedi’i gyhoeddi heddiw yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer pob penderfyniad a wnawn ni wrth symud ymlaen.
Bydd y cynllun busnes ar gyfer 2017-18, a gyhoeddwyd heddiw hefyd, yn cyflwyno mesurau perfformiad allweddol DVLA a’r rhagolygon ariannol am y flwyddyn.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407