Datganiad i'r wasg

DVLA yn taro’r ffyrdd gyda neges glir – trethwch ef neu byddwch yn ei golli

Mae’r DVLA yn ôl ar y ffyrdd yn targedu modurwyr ledled y DU gydag ymgyrch gyfathrebu sydd â neges glir i’r rhai hynny sy’n mentro peidio â threthu eu cerbyd – sef ‘trethwch ef neu byddwch yn ei golli’.

Mae’r ymgyrch yn targedu 20 rhanbarth y DU lle mae osgoi talu treth ar ei uchaf:

Ardal Cyfanswm y camau gorfodi yn 2019
Belfast 78,501
Birmingham 61,531
Bryste 24,747
Caerdydd 28,857
Coventry 23,739
Doncaster 17,885
Dwyrain Llundain 26,005
Caeredin 24,779
Glasgow 34,375
Caerlŷr 23,174
Manceinion 34,106
Newcastle 22,996
Northampton 18,729
Gogledd Llundain 24,766
Nottingham 26,134
Peterborough 23,271
Romford 18,325
Sheffield 30,467
De Llundain 29,336
Abertawe 18,237

Yn ystod 2019, cymerodd DVLA bron i 590,000 o gamau gorfodi yn yr 20 rhanbarth hwn yn erbyn ceidwaid cerbydau heb eu trethu.

Bydd yr ymgyrch yn ffocysu ar ddangos y goblygiadau go iawn i’r rhai hynny sydd ddim yn trethu eu cerbydau – yn amrywio o gosbau a dirwyon i glampio, ac yn y pen draw colli eu cerbyd.

Mae clamp enfawr yng nghanol lluniau’r ymgyrch, sy’n ei gwneud hi’n glir bod y DVLA yn gweithredu yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu ar strydoedd ledled y wlad bob dydd, yn union fel y rhai hynny yn y llun.

Nid oes angen i’r DVLA weld cerbyd heb ei drethu ar y ffordd er mwyn gweithredu, ond mae unrhyw gerbyd a welir ar y ffordd sydd heb ei drethu, neu wedi’i ddatgan yn HOS yn anghywir, mewn perygl o gael ei glampio neu ei bowndio gan un o dimau gorfodi DVLA. Mae’r timau hyn yn teithio mewn cerbydau sydd â chamerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig, ac wedi’u lleoli ledled y DU i weithredu yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Mae nifer y cerbydau sydd heb eu trethu ar y ffordd yn gostwng, ond rydyn ni’n benderfynol o leihau hyn hyd yn oed ymhellach. Rydym yn gweithredu amrywiaeth o fesurau i wneud treth cerbyd yn hawdd ei thalu ac yn anodd ei hosgoi, felly nid oes unrhyw esgus i chi beidio â threthu’ch cerbyd. Er bod mwyafrif helaeth y modurwyr yn gwneud y peth iawn ac yn trethu’n gywir, mae’r ymgyrch hon yn tynnu sylw at y goblygiadau go iawn y mae modurwyr yn eu hwynebu os nad ydyn nhw’n trethu eu cerbydau.

Dywedodd llefarydd ar ran y RAC, Simon Williams:

Er bod mwyafrif helaeth y modurwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn trethu eu cerbydau yn gywir, mae angen ymgyrchoedd gorfodi proffil uchel fel hyn i sicrhau bod goblygiadau peidio â gwneud hynny yn cael eu deall yn llwyr. Mae ymgyrch y DVLA hon yn rhoi rhybudd clir iawn o’r camau a gymerir yn erbyn cerbydau sydd heb eu trethu. Mae cael eich cerbyd wedi’i glampio yn ddrud ac yn anghyfleus felly mae’n llawer symlach sicrhau eich bod chi’n ei drethu.

Gallwch wirio’n hawdd pryd mae’ch treth yn ddyledus gan ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau cerbydau DVLA ar GOV.UK: y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhif cofrestru cerbyd. Mae hefyd yn bwysig iawn i ddweud wrth DVLA ar unwaith os byddwch chi’n symud tŷ, fel nad oes perygl i chi fethu’r llythyrau atgoffa y mae’r DVLA yn eu hanfon at bob ceidwad cerbyd.

Gall modurwyr fynd ar-lein, 24 awr y dydd, i drethu cerbyd neu wirio os oes treth cerbyd cyfoes ar eu cerbyd. Gallent hefyd wirio trwy ofyn i Amazon Alexa neu Google Home.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r ffigurau a ddarperir ar gyfer 20 ardal yr ymgyrch yn dangos cyfanswm y camau gweithredu unigol – gan gynnwys cosbau trwyddedu hwyr, setliadau y tu allan i’r llys a chlampio olwynion. Bydd y ffigurau hyn yn cynnwys achosion lle cymerwyd mwy nag un cam gorfodi yn erbyn yr un cerbyd.

  • Yr Arolwg Ymyl Ffordd yw cofnod cyhoeddedig yr Adran Drafnidiaeth o gerbydau heb eu trethu a welir ar y ffordd. Mae’r ffigurau diweddaraf (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019) yn dangos bod 98.4% o gerbydau ar y ffordd wedi’u trethu’n gywir – gostyngiad mewn efadu o 0.2% ar y ffigurau o 2017.

  • Os yw cerbyd wedi’i ddatgan oddi ar y ffordd (HOS), rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, ar dir preifat ac mae’n drosedd defnyddio neu gadw cerbyd wedi’i ddatgan yn HOS ar ffordd gyhoeddus. Cael gwybod mwy am HOS.

  • Mae’r ymgyrch hon yn targedu rhanbarthau mwy poblog y DU sydd â nifer sylweddol o geidwaid cerbydau, a lle rydym yn gwybod ein bod wedi cymryd lefelau uwch o gamau gorfodi yn y gorffennol. Bydd y clamp enfawr yn cael ei arddangos mewn 20 ardal allweddol ledled y wlad yn ystod yr ymgyrch, i amlygu’r goblygiadau i fodurwyr a’r camau gorfodi sy’n cael eu cymryd yn yr ardaloedd hyn.

  • Bydd yr ymgyrch yn rhedeg ar y ratio, print, safleoedd posteri oddi allan i’r cartref a sianeli digidol.

  • Mae DVLA yn anfon nodiadau atgoffa at bob ceidwad cerbyd a hysbysiadau adnewyddu at gwsmeriaid Debyd Uniongyrchol.

  • Pan fydd DVLA yn clampio cerbyd sydd heb ei drethu, codir ffi rhyddhau o £100 ar y modurwr. Os na allant ddangos bod y cerbyd wedi’i drethu pan gaiff ei ryddhau, bydd yn rhaid i’r modurwr dalu ffi sicrwydd o £160. Ad-delir hyn os gall y modurwr ddangos bod y cerbyd wedi’i drethu o fewn 15 diwrnod.

  • Os nad yw’r ffi rhyddhau yn cael ei dalu o fewn 24 awr, bydd DVLA yn powndio’r cerbyd a bydd y ffi yn codi i £200. Codir ffi storio o £21 y dydd hefyd. Unwaith eto, rhaid talu ffi sicrwydd o £160 os na all y modurwr ddangos bod y cerbyd wedi’i drethu.

  • Cael gwybod mwy am drethu cerbyd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 14 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 February 2020 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.