Datganiad i'r wasg

Gyrwyr i elwa o groesi Pontydd Hafren am ddim o 2018 ymlaen

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y bydd yn diddymu tollau Pontydd Hafren erbyn diwedd flwyddyn nesaf

Second Severn Crossing

Bydd gyrwyr yn gweld diwedd ar y tollau i groesi Pontydd Hafren yn 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw (21 Gorffennaf 2017).

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i deuluoedd baratoi i deithio dros wyliau’r haf.

Mae Pontydd Hafren yn dirnodau eiconig sydd wedi gwasanaethu cymudwyr, busnesau a chymunedau lleol yng Nghymru ac yn Lloegr ers dros 50 o flynyddoedd.

Mae dros 25 miliwn o gerbydau’n defnyddio’r pontydd bob blwyddyn, gan arbed llawer iawn o amser a phellter teithio i gymudwyr a gyrwyr sy’n defnyddio traffordd yr M4.

Serch hynny, mae’r tollau ar y ddwy Bont Hafren wedi cael eu gweld fel rhwystr economaidd a symbolaidd a oedd yn atal ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Heddiw mae Llywodraeth y DU yn gwireddu’r addewid a wnaed i bobl Cymru gan y Prif Weinidog ym mis Mai ac mae wedi cadarnhau y bydd yn diddymu’r tollau ar gyfer pob cerbyd ddiwedd 2018.

Amcangyfrifir y byddai’r cyhoeddiad hwn yn rhoi hwb i economi De Cymru a fydd yn werth tua £100 miliwn y flwyddyn** a gallai’r modurwr cyfartalog arbed dros £1,600 y flwyddyn***.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r penderfyniad i ddiddymu tollau Pontydd Hafren flwyddyn nesaf yn anfon neges bwerus i fusnesau, cymudwyr a thwristiaid fel ei gilydd fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gryfhau economi Cymru.

Drwy ddiddymu’r tollau ar gyfer y 25 miliwn o siwrneiau blynyddol rhwng y ddwy wlad, byddwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng cymunedau ac yn helpu i weddnewid rhagolygon economaidd ar y cyd De Cymru a De Orllewin Lloegr.

Mae arnaf eisiau sicrhau bod ymwelwyr a buddsoddwyr yn gwybod beth sydd gan Gymru i’w gynnig yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Yn anad dim, mae arnaf eisiau i’r byd wybod cystal lle ydym ni ar gyfer busnesau. Mae’r penderfyniad rydyn ni wedi’i wneud heddiw yn iawn ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol ac rwy’n siŵr y bydd diwydiant a modurwyr yn croesawu’r penderfyniad.

Pan ddaw’r pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Bydd degau o filiynau o fodurwyr y flwyddyn yn elwa o ddiddymu’r tollau ar bontydd Hafren, gan arbed arian iddynt a thorri amseroedd siwrneiau. Bydd pobl sy’n defnyddio’r pontydd bob dydd yn arbed o leiaf £115.

Bydd diddymu’r ffioedd croesi hefyd yn sbardun i dwf economaidd busnesau yng Nghymru ac yn Ne Orllewin Lloegr a bydd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng ein dwy wlad wych.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi’r newyddion i gynulleidfa o gynrychiolwyr busnes o Dde Orllewin Lloegr a De Cymru mewn digwyddiad yn Owens Group yng Nghasnewydd.

Roedd Ian Gallagher, Pennaeth Polisi Cymdeithas Cludiant De Orllewin Lloegr a Chymru yn croesawu’r cyhoeddiad:

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych ar gyfer twf economïau Cymru a De Orllewin Lloegr, mae’n hwb go iawn i’r busnesau a’r cymudwyr hynny sy’n defnyddio’r pontydd bob dydd.

Mae diddymu’r tollau’n llwyr wedi bod yn safbwynt polisi tymor hir ar gyfer y Gymdeithas Gludiant, gydag aelodau ar y naill ochr a’r llall o’r pontydd yn wynebu rhai o’r tollau uchaf sy’n cael eu codi yn y DU, arian a fydd yn cael ei wario’n ddoethach ar wella sgiliau, recriwtio a phrynu cerbydau sy’n fwy gwyrdd.

Nodiadau i Olygyddion

** Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012, dolen

*** Ar sail car yn teithio drwy’r tollau bum niwrnod yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn

  • Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu yn 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.

  • Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio’r bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac yn 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.

  • Yn 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau’n cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu’r ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu’r bont gyntaf. Yn 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (“SRC”). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.

Cyhoeddwyd ar 21 July 2017