Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn croesawu Cymru i Whitehall ar Ddydd Gŵyl Dewi

Stryd Downing yn cynnal derbyniad i ddathlu diwrnod cenedlaethol Cymru

St David's Day reception

St David's Day

Bydd baner Cymru yn chwifio’n falch uwchben Rhif 10 Stryd Downing heddiw pan fydd y Prif Weinidog Theresa May yn croesawu gwesteion o fusnesau, twristiaeth, chwaraeon a chyfryngau Cymru i dderbyniad yn Rhif 10 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).

Bydd y cyflenwyr bwyd a diod gorau yng Nghymru yn arddangos eu cynhyrchion yn y digwyddiad yn cynnwys wisgi Penderyn, gwin o Winllan Glyndwr a chynnyrch Cymreig o Cwm Farm Charcuterie.

Bydd perfformiadau hefyd gan Cor y Boro o Lundain a’r telynor Rhys Ward-Haugh.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn y derbyniad heddiw, byddwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd - ac mae llawer i’w ddathlu yn wir.

Rydyn ni’n wlad falch - ac yn rhan arbennig o’r Deyrnas Unedig. Ac rydyn ni’n gartref i rai o’r doniau a’r diwydiannau gorau yn y byd.

Mae entrepreneuriaid, dyfeiswyr a phobl greadigol o Gymru yn creu argraff barhaol dros y byd i gyd, gyda phob un yn cyfrannu at y chwyldro mawr ym maes chwaraeon, bwyd, y celfyddydau a busnes yng Nghymru.

Rydw i wrth fy modd yn cael ymuno â’r Prif Weinidog i groesawu Cymru i Stryd Downing heddiw, a hoffwn estyn pob dymuniad da i bawb sy’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi ledled y byd”.

NODIADAU I OLYGYDDION

Dyma gyflenwyr y derbyniad:

  • Distyllfa Penderyn
  • Gwinllan Glyndwr
  • Ridiculously Rich gan Alana
  • Tregroes Waffles
  • Creision Jones o Gymru
  • Darperir yr arlwyo gan Gymdeithas Goginio Cymru
  • Darperir y Cennin Pedr gan Greenacre Garden Market
Cyhoeddwyd ar 1 March 2018