Stori newyddion

Peidiwch â marcio Ceisiadau a Gohebiaeth â'r geiriau “Preifat a Chyfrinachol”

Gall blaenoriaeth eich ceisiadau post a gohebiaeth gael ei heffeithio os ydych yn eu marcio â'r geiriau “Preifat a Chyfrinachol”.

private and confidential

O 30 Awst 2016, rydym yn newid sut rydym yn delio â cheisiadau a gohebiaeth sy’n ymwneud â chais pan fyddant wedi’u marcio â’r geiriau “Preifat a Chyfrinachol” neu “Preifat” neu “Cyfrinachol”.

Gall eitemau post sy’n ymwneud â chais sydd wedi’u marcio fel hyn gael eu dychwelyd at y cwsmer neu eu harchwilio i asesu a ydynt yn addas i’w sganio.

Gall hyn effeithio ar flaenoriaeth eich ceisiadau.

Ni chaiff dogfennau a ddychwelir at y cwsmer, neu ddogfennau y mae’n rhaid eu hasesu i benderfynu a ydynt yn addas i’w sganio, eu hystyried yn ddogfennau sydd wedi eu derbyn at ddiben rheol 15 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Mae manylion i’w gweld yn y Cyfarwyddyd diwygiedig a wnaed o dan adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn ymwneud â Chyfeiriadau ar gyfer y Swyddfeydd Priodol. Daw i rym ar 30 Awst gan ddisodli’r fersiwn dyddiedig 12 Ebrill 2016.

Mae’r Cyfarwyddyd diwygiedig yn cynnwys paragraff 3 newydd ac yn esbonio sut y byddwn yn delio â cheisiadau.

Nid yw’n briodol marcio cais neu ohebiaeth sy’n ymwneud â chais â’r geiriau “Preifat a Chyfrinachol” neu “Preifat” neu “Cyfrinachol” oherwydd:

  • o dan adrannau 66 a 67 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, gall unrhyw un archwilio a gwneud copïau, neu wneud cais am gopi swyddogol, o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn y gofrestr neu a gedwir fel arall gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chais a gyflwynwyd iddo
  • gall gohebiaeth arall nad yw’n ymwneud â cheisiadau fod yn agored i geisiadau mynediad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • er budd cyfiawnder naturiol, ac yn unol ag adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae’n ofynnol i’r Gofrestrfa Tir rannu dogfennau, gan gynnwys gohebiaeth, pan fydd anghydfod.

Ni ddylai unrhyw ddogfennau a ddychwelir at gwsmer ac a ailanfonir i’r Gofrestrfa Tir gynnwys unrhyw farciau cyfrinachedd.

Darllenwch ragor am hyn yn ein rhybudd atodlen 2.

Cyhoeddwyd ar 18 August 2016