Datganiad i'r wasg

'Cyflenwi’n uniongyrchol i gymunedau’ wrth wraidd y Cynllun i Gymru

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, yn lansio Cynllun Llywodraeth y DU i Gymru, sy’n canolbwyntio ar swyddi, bywoliaeth a chynaliadwyedd.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi amlinellu cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru sydd â’r nod o gyflenwi miloedd o swyddi crefftus a sicrhau lle Cymru fel canolbwynt ar gyfer arloesi a diwydiannau gwyrdd y dyfodol.

Wrth siarad ar-lein â chynulleidfa o gynrychiolwyr o blith busnesau, diwydiannau a thwristiaeth yng Nghymru ddydd Iau (20 Mai), eglurodd Ysgrifennydd Cymru sut bydd Llywodraeth y DU yn adeiladu’n ôl yn well ac yn fwy gwyrdd yn sgil y pandemig drwy fuddsoddi mewn seilwaith digidol, darparu cefnogaeth ariannol i ddiwydiant gwyrdd a chefnogi swyddi a thwf ym mhob cwr o Gymru yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Wrth lansio Cynllun Llywodraeth y DU i Gymru, disgrifiodd Mr Hart hefyd sut bydd ei lywodraeth yn gweithredu ar lefel gymunedol yng Nghymru, gan weithio’n uniongyrchol ag awdurdodau lleol a grwpiau eraill i gyflenwi cyllid a phrosiectau blaenllaw

Gan siarad am y cynlluniau, meddai’r Prif Weinidog Boris Johnson:

Yn union fel y darparodd y rhan helaethaf o economi’r DU yr adnoddau i gael pob un o’i rhannau cyfansoddol drwy elfennau gwaethaf y pandemig - a chaffael y brechlynnau a fydd yn y pen draw yn dod â’r cyfan i ben - bydd y cryfder hwnnw mewn niferoedd yn helpu Cymru i ddod yn fwy teg, gwyrdd a ffyniannus wrth i ni adeiladu’n ôl yn sgil y Coronafeirws.

Drwy gydweithio, gallwn sicrhau cysylltiadau rhyngrwyd cynt, signalau ffôn symudol mwy dibynadwy, a chysylltiadau trafnidiaeth gwell. Gallwn greu swyddi medrus sy’n talu’n dda o Borthaethwy i Fachynlleth i Ferthyr Tudful a gallwn helpu Cymru i chwarae ei rhan yn adeiladu economi sero net gyda phopeth o Ganolfan Hydrogen Caergybi i ffermydd gwynt arnofiol enfawr yn y Môr Celtaidd.

Meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi ei throed ar y sbardun yng Nghymru. Rydym yn cryfhau ein cefnogaeth i gymunedau lleol i’w helpu i ddod dros y pandemig, rydyn ni’n dod â Llywodraeth y DU yn agosach at Gymru a byddwn yn arwain adferiad Cymru i chwyldro swyddi a thwf diwydiannol gwyrdd.

Bydd pob buddsoddiad a wnawn yn cael ei ystyried drwy brism swyddi, bywoliaeth a chynaliadwyedd. Bydd Llywodraeth y DU, am y tro cyntaf erioed, yn gweithio’n uniongyrchol â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ogystal â gyda phartneriaid lleol eraill.

Nid oes gan San Steffan na Chaerdydd fonopoli o wybodaeth ac arbenigedd ac rwy’n gwir gredu mai cymunedau lleol sy’n aml yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i fodloni anghenion penodol eu hardaloedd a hefyd beth a fydd yn cael yr effaith fwyaf.

Cyhoeddwyd y Cynllun i Gymru yn dilyn blwyddyn pan welwyd cymorth nas gwelwyd ei fath o’r blaen yn cael ei roi i fusnesau ac unigolion yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19, gyda dros 500,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, biliynau yn cael eu darparu drwy fenthyciadau’r llywodraeth i gwmnïau Cymreig a £8.6bn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth ddatganoledig Cymru drwy Fformiwla Barnett ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd Mr Hart fod cryfder cyfunol y Deyrnas Unedig wedi bod yn holl bwysig i harneisio cryfder gwyddonol, diwydiannol ac ariannol cyfunol i gyflwyno rhaglen frechu o’r radd flaenaf sydd wedi rhoi inni lwybr allan o gyfyngiadau symud.

Amlinellodd Ysgrifennydd Cymru gyfres o brosiectau uchelgeisiol ar draws Cymru ac mae Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid a chefnogaeth i’r rhain yn ddiweddar, gan ailadrodd cefnogaeth ei lywodraeth i bolisïau hirdymor fel gwella seilwaith digidol Cymru a sicrhau bod bargeinion twf trawsnewidiol ar gael ym mhob ardal o Gymru.

Dyma’r prosiectau y tynnodd Ysgrifennydd Cymru sylw atynt:

  • Buddsoddi, law yn llaw â diwydiant, dros £40m i helpu clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i drawsnewid yn sero-net.
  • Cannoedd o filoedd o bunnau i greu swyddi a busnesau ym mhob ardal o Gymru drwy’r rhaglen Bargen Twf.
  • Buddsoddi £15.9m mewn cerbydau nwyddau trwm carbon isel a gaiff eu harloesi yng Nghwmbrân.
  • Symud mwy o swyddi yn adrannau Llywodraeth y DU gan gynnwys y Swyddfa Gartref a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i leoliadau yng Nghymru.
  • Rhoi bron £5m i brosiect Canolfan Hydrogen Caergybi i gynnal treialon defnyddio hydrogen yn y sector trafnidiaeth.
  • Buddsoddi hyd at £30m, yn amodol ar ganiatadau, yn y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd i greu cyfleuster Ymchwil a Datblygu a Phrofi trenau o’r radd flaenaf yng Nghwm Dulais.
  • Rhoi cymorth i ddyfodiad prosiectau gwynt arnofiol yn y môr, gydag Ystâd y Goron yn dal cylch prydlesu ffurfiol ar gyfer prosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.
  • Gweithredu’r Gronfa Codi’r Gwastad newydd a fydd yn buddsoddi hyd at £4.8 biliwn mewn seilwaith lleol ar draws y DU sy’n cael effaith weladwy ar bobl a’u cymunedau.
  • Lansio Prosiect Gigabeit, sy’n rhaglen cysylltedd £5bn i hwyluso’r gwaith o gyflwyno band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit yn y cymunedau anoddaf cyrraedd atynt yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
  • Dal i wella cysylltedd gwledig drwy’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, sy’n gytundeb £1 biliwn gyda chwmnïau’r rhwydweithiau ffonau symudol i ddarparu cwmpas ffonau symudol 4G o 80% gan y pedwar cwmni ar draws Cymru a chwmpas o 95% gan o leiaf un.
  • Buddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth Cymru gan gynnwys £2.7m pellach i uwchraddio gallu signalau digidol ar Lein y Cambrian.
  • Cyflenwi’r Porthladd Rhydd cyntaf erioed yng Nghymru a allai arwain at greu miloedd o swyddi newydd.

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart:

Mae gallu Llywodraeth y DU i weithredu’n gyflym a diogelu ein dyfodol economaidd wedi bod yn hanfodol i arbed swyddi a bywoliaethau pan gafodd rhannau eang o’n heconomi eu cau i lawr.

Mae hyn yn cynnwys y cynllun ffyrlo, sydd wedi diogelu dros 460,000 o swyddi yng Nghymru a’r cynlluniau benthyciadau Tarfu ar Fusnes a Benthyciadau adfer sydd hefyd wedi rhoi gwerth £2bn o gymorth i fusnesau Cymreig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi pobl a busnesau ar draws Cymru drwy’r gwaethaf o’r pandemig hwn a byddwn yn awr yn gwneud popeth yn ein gallu i arwain y ffordd allan ohono.

DIWEDD

Darllenwch y Cynllun i Gymru gyfan.

Cyhoeddwyd ar 20 May 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 May 2021 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.