Stori newyddion

Lansio cynllun ad-dalu ffioedd dirprwyo

Gall unrhyw un cymwys y mae angen iddynt wneud cais am ad-daliad rhannol ar ffioedd dirprwyo, wneud hynny o heddiw ymlaen (1 Hydref 2019).

Decorative image of a pound symbol

Caiff ad-daliadau eu cynnig i’r rheini wnaeth dalu mwy o ffioedd dirprwyo penodol nag oedd ei angen am unrhyw gyfnod rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

Nid oes angen i ddirprwyon presennol sy’n gweithredu ar ran cleientiaid presennol wneud cais. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn cysylltu â dirprwyon yn ystod yr wythnosau nesaf i drefnu unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus

Cynyddodd nifer y dirprwyaethau’n gyflymach na’r disgwyl ac roedd hi’n anodd rhagweld costau. Oherwydd hyn, nid oedd y ffioedd a godwyd yn cyfateb i’r costau goruchwylio a wynebwyd gan OPG. Ers 1 Ebrill 2015, ni chodwyd gormod o ffioedd ar gleientiaid.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n pennu ffioedd yr OPG, bellach wedi lansio cynllun ad-dalu ar gyfer y rheini a dalodd ffioedd uwch ar gyfer y cyfnod perthnasol. Yr OPG fydd yn gyfrifol am y cynllun ac nid yw’n berthnasol i ffioedd a dalwyd naill ai i OPG yr Alban, i’r Swyddfa Gofalu a Gwarchod yng Ngogledd Iwerddon nac i’r Llys Gwarchod.

Cyn-gleientiaid lle mae’r ddirprwyaeth wedi dod i ben

Os ydych chi’n gyn-gleient sydd bellach yn gallu gwneud eich holl benderfyniadau eich hun, yn dwrnai ar ran cyn-gleient neu’n gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi wneud cais am ad-daliad.

Dim ond un ffurflen gais sydd angen ei llenwi ar gyfer pob cyn-gleient; bydd yr OPG yn dod o hyd i’r holl ffioedd cymwys a dalwyd ganddynt yn ystod y cyfnod.

Os ydych chi’n gwneud cais am ad-daliad, mae canllawiau llawn ar gael ar-lein ac mae llinell ffôn benodol ar gael i bobl y mae angen cymorth arnynt. Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n gweithredu ar ei ran, yn credu y gallech chi fod yn gymwys, ewch i www.gov.uk/ad-daliad-dirprwyaeth i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd, neu os oes angen help arnoch chi i drefnu ad-daliad, cysylltwch â’r OPG ar 0300 456 0300* a dewiswch opsiwn 6 i siarad ag aelod o’r tîm ad-daliadau. Mae’r cynllun ar agor am dair blynedd felly mae digon o amser i wneud cais.

*Llinellau ar agor: dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9am a 5pm a dydd Mercher rhwng 10am a 5pm. Dewiswch opsiwn 6 pan fyddwch chi’n ffonio. Ewch i www.gov.uk/costau-galwadau i weld faint a godir am alwadau.

Cyhoeddwyd ar 4 October 2019