Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Mae’r dyddiad cau yn agosáu ar gyfer cyflwyno’r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol

Mae gan gwsmeriaid y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm pythefnos i gyflwyno’u diweddariad chwarterol cyntaf.

  • Mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £50,000 o hunangyflogaeth ac eiddo anfon ei ddiweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 7 Awst 2026
  • Mae’r diweddariad chwarterol yn cwmpasu incwm a threuliau ar gyfer tri mis cyntaf y flwyddyn dreth.
  • Mae cyflwyno diweddariad ond yn cymryd ychydig o funudau gan ddefnyddio meddalwedd a gydnabyddir ac nid yw’n Ffurflen Dreth.

Dim ond pythefnos sydd gan fwy na 864,000 o unig fasnachwyr a landlordiaid sydd o fewn cwmpas y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Treth Incwm i gyflwyno’u diweddariad chwarterol cyntaf cyn y dyddiad cau.

Mae’r diweddariad yn cwmpasu incwm a threuliau ar gyfer tri mis cyntaf y flwyddyn dreth. Y dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yw 7 Awst 2026.

Nid Ffurflen Dreth yw’r diweddariad chwarterol. Mae’n grynodeb byr sy’n cael ei anfon yn uniongyrchol at CThEF drwy feddalwedd gydnabyddedig, ac mae’r broses ond yn cymryd ychydig o funudau.

Gall cwsmeriaid sydd heb gofrestru fynd ati i wneud hynny drwy fynd i GOV.UK. Yma, gallant hefyd ddod o hyd i feddalwedd a chael mynediad at ganllawiau a gweminarau am ddim. Os yw cwsmeriaid yn defnyddio asiant, gallant ofyn i’r asiant gofrestru ar eu rhan.

Mae rhai meddalwedd yn cynnwys offeryn cymorth digidol HMRC Assist, sy’n darparu adborth wedi’i deilwra i dynnu sylw cwsmeriaid at wallau posibl cyn cyflwyno. Cyfrifoldeb y cwsmeriaid yw hi o hyd i sicrhau bod eu Ffurflen Dreth yn gywir.

Ar ôl pob diweddariad, gall defnyddwyr weld amcangyfrif o’u bil treth a fydd yn eu helpu wrth iddynt gynllunio ymlaen llaw.

Meddai Craig Ogilvie, Cyfarwyddwr Troi Treth yn Ddigidol, CThEF:

Mae hon yn foment dyngedfennol i’r system dreth. Mae cannoedd o filoedd o unig fasnachwyr a landlordiaid bellach yn cadw cofnodion digidol a byddant yn anfon eu diweddariad chwarterol cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf.

I’r rheiny sydd eisoes yn defnyddio meddalwedd, dylai hyn fod yn syml a chymryd ychydig o funudau yn unig. Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae digon o amser o hyd - ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Making Tax Digital for Income Tax’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol i ddechrau arni.

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol bellach yn ofyniad cyfreithiol, a dylai cwsmeriaid sydd o fewn cwmpas y cynllun wirio nawr eu bod wedi cofrestru, bod eu meddalwedd yn cydweddu, a chyflwyno’u diweddariad cyn y dyddiad cau.

Bydd y gofyniad hwn yn berthnasol i’r rheiny sy’n ennill mwy na £30,000 o fis Ebrill 2027 ymlaen, a’r rheiny sy’n ennill mwy na £20,000 o fis Ebrill 2028.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth yn parhau i fod yn 31 Ionawr. Nid yw diweddariadau chwarterol yn cymryd lle’r Ffurflen Dreth – bydd angen i gwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflen Dreth o hyd a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2028.

Astudiaeth Achos

“Roedd cyflwyno fy niweddariad cyntaf ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol mor hawdd – os bydd pob un yn mynd mor ddidrafferth â hyn, byddwn mewn sefyllfa dda”

Mae Natasha Patterson, 33 oed, yn grochennydd amser llawn sy’n byw yn Whitehead, Sir Antrim, ac mae eisoes ar y blaen – mae wedi cyflwyno ei diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wythnosau cyn y dyddiad cau, sef 7 Awst.

Natasha Patterson

Mae Natasha wedi bod yn gweithio fel crochennydd ers 2020, ac agorodd ei siop stiwdio – Natasha Swan Ceramics – yn 2023 lle mae’n arbenigo mewn llestri bwrdd ymarferol wedi’u taflu ar olwyn, gan gynnwys mygiau, llestri halen (salt pigs) a gwasgarwyr persawr cyrs (reed diffusers).

Fel llawer o berchnogion busnesau bach, nid oedd Natasha yn edrych ymlaen at yr ymrwymiad treth newydd. Penderfynodd gyflwyno’n gynnar – rhag ofn y byddai unrhyw broblemau yn codi ar hyd y ffordd.

Meddai Natasha:

Roeddwn yn disgwyl y byddai rhai rhwystrau, ac roeddwn am roi amser i fi fy hun i weithio drwy unrhyw broblemau, ond cefais fy synnu ar yr ochr orau o weld bod y broses yn un esmwyth a syml iawn.

Yn y diwedd, ond rhyw ddeng munud cymerodd y broses o gyflwyno. Gwnaeth Natasha ychwanegu derbynebau a diweddaru ei chofnodion drwy gydol y chwarter, felly roedd popeth yn barod pan ddaeth hi’n bryd i gyflwyno.

Es i’n ôl tair gwaith i wirio fy mod wedi gwneud popeth yn iawn, ond roedd y broses wir yn syml iawn.

Roedd popeth yn gwneud synnwyr ac yn rhesymegol – nid oedd yn llethol, er bod y cyfan yn newydd i mi.

Os bydd pob un yn mynd mor ddidrafferth â hyn, byddwn mewn sefyllfa dda erbyn diwedd y flwyddyn dreth hon.

Un o’r pethau y mae Natasha wedi gwerthfawrogi fwyaf yw’r gallu i weld rhagolwg o’i bil treth ar unwaith.

Mae’n wych cael rhagolwg yn barod o’r hyn sydd arnaf i’w dalu, heb bentyrrau o waith papur. “Rwy’n teimlo’n fwy parod nawr fy mod yn gwybod beth mae’n rhaid i mi ei wneud dros y misoedd nesaf, ac yn fwy hyderus hefyd wrth ddechrau’r ail chwarter gan fy mod bellach yn gwybod pa mor syml oedd y cyflwyniad cyntaf.

Mae ei neges hi i unig fasnachwyr eraill sy’n agosáu at eu diweddariad cyntaf yn syml. Meddai:

Mae’r broses newydd hon llawer yn haws na llenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. O ran cyflwyno Ffurflenni Treth, roedd y broses hon yn ddigon hwylus.

Rhagor o wybodaeth

Yn ystod mis Ebrill 2026, daeth y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn orfodol i unig fasnachwyr a landlordiaid ag incwm cymhwysol dros £50,000.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid, mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno’u diweddariad chwarterol cyntaf yn rhedeg o 6 Ebrill 2026 i 5 Gorffennaf 2026. Gall rhai cwsmeriaid ddefnyddio cyfnodau diweddaru calendr yn lle hynny, a’r cyntaf ohonynt yn rhedeg o 1 Ebrill i 30 Mehefin. 7 Awst 2026 yw’r dyddiad cau i bawb ar gyfer cyflwyno diweddariadau.

Caiff diweddariadau chwarterol eu cyflwyno drwy feddalwedd sy’n cydweddu a gydnabyddir gan CThEF. Mae rhestr o feddalwedd sy’n cydweddu ar gael ar GOV.UK.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth yn parhau i fod yn 31 Ionawr. Nid yw diweddariadau chwarterol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn cymryd lle’r Ffurflen Dreth.

Mae eithriadau amrywiol rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gael, gan gynnwys ar gyfer y rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol. Ewch i GOV.UK i gael rhagor o fanylion.

Ni chodir pwyntiau cosb ar gyfer diweddariadau chwarterol hwyr yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Fodd bynnag, mae cosbau’n dal i fod yn berthnasol ar gyfer Ffurflenni Treth Hunanasesiad hwyr a thaliadau hwyr.

O ail flwyddyn y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ymlaen, bydd cosbau sy’n seiliedig ar bwyntiau yn berthnasol pan fydd trethdalwyr yn methu dyddiad cau chwarterol. Bydd trethdalwyr yn cael un pwynt cosb am bob dyddiad cau chwarterol y byddant yn ei fethu. Unwaith y bydd 4 pwynt wedi’u cronni, codir cosb benodol o £200. Daw’r pwyntiau i ben ar ôl cyfnod o gydymffurfio. Mae rhagor o fanylion ar gael ar GOV.UK

Defnyddiodd Natasha Patterson feddalwedd Sterling Bank sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol i gyflwyno’i diweddariad chwarterol. Cafodd yr astudiaeth achos hon ei pharatoi gyda chymorth gan Sterling Bank. Mae rhestr lawn o feddalwedd sy’n cydweddu ar gael ar GOV.UK.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2026