Datganiad i'r wasg

David Jones a Danny Alexander yn cyflwyno Bil Cymru yn y Senedd

Ysgrifennydd Cymru: “Bil Cymru yn rhoi pecyn uchelgeisiol i Gymru” Prif Ysgrifennydd y Trysorlys: “offer newydd pwerus i Gymru”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales flag

Mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander wedi cyflwyno Bil Cymru i’r Senedd heddiw (20 Mawrth 2014). Mae’r Bil hwn yn datganoli pecyn sylweddol o bwerau trethu a benthyca i Gymru, gan roi mwy o ysgogiadau a chymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru allu rhoi hwb i dwf economaidd.

Ym mis Tachwedd 2013 roedd y Llywodraeth wedi derbyn bron i bob un o argymhellion adroddiad cyntaf Comisiwn Silk. Mae Bil Cymru nawr yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol i weithredu’r pwerau ariannol newydd hyn. Mae hefyd yn cynnwys newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynulliad, ar ôl ymgynghoriad gan y Llywodraeth yn 2012. Mae’r Bil wedi dechrau ar ei daith drwy’r senedd ar ôl craffu ar fersiwn drafft o’r ddeddfwriaeth cyn y broses ddeddfu.

Mae Bil Cymru yn cynnwys y canlynol:

  • Datganoli treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi i Gymru, gan alluogi’r Cynulliad i’w disodli â threthi newydd sy’n benodol i Gymru;
  • Caniatáu i ragor o drethi gael eu datganoli, gyda chytundeb y Senedd a’r Cynulliad;
  • Rhoi refferendwm i Gymru ynghylch a ddylid datganoli elfen o’r dreth incwm;
  • Caniatáu i’r Cynulliad, yn amodol ar bleidlais o blaid mewn refferendwm, osod cyfradd Cymru er mwyn cyfrifo cyfraddau’r dreth incwm sydd i’w thalu gan drethdalwyr yng Nghymru a;
  • Rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru gael benthyg i ariannu gwariant cyfalaf, ac ymestyn dan ba amgylchiadau maen nhw’n cael benthyg yn y tymor byr er mwyn rheoli amrywiadau mewn refeniw treth; a
  • Rhoi’r pŵer i’r Cynulliad benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer awdurdodi a chraffu ar gynlluniau treth a gwariant Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y cyhoeddiad Grymuso ac Atebolrwydd Ariannol, gan gynnwys newidiadau nad ydynt yn galw am ddeddfwriaeth fel datganoli ardrethi busnes yn llawn. Fel pecyn, bydd y newidiadau hyn yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru drwy godi rhywfaint o’r arian maent yn ei wario.

Wrth siarad ar ôl cyflwyno Bil Cymru, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Bil Cymru a gyflwynwyd i’r Senedd heddiw yn garreg filltir bwysig mewn datganoli yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r pecyn o bwerau trethu a benthyca y mae’n ei ddatganoli i Gymru er mwyn tyfu economi Cymru, rhoi mantais gystadleuol i Gymru a gwneud Cymru yn lle mwy ffyniannus.

“Yr un mor bwysig, bydd yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i’r bobl sy’n eu hethol, am y tro cyntaf, byddant yn gyfrifol nid yn unig am yr arian maent yn ei wario ond am godi rhywfaint o’r arian hwnnw hefyd.

Bydd y Bil hefyd yn gwneud etholiadau’r Cynulliad yn fwy teg a chyfartal.

Mae’r ffaith ein bod wedi cyflwyno’r Bil hwn mor gyflym yn brawf o ddymuniad y Llywodraeth hon i weld y Bil hwn yn cael ei basio cyn diwedd y Senedd hon ac mae’n rhoi cyfle i lywodraethu datganoledig yng Nghymru fod yn fwy teg, yn fwy atebol ac, yn hollbwysig yn fwy abl i allu cefnogi twf economaidd.

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:

Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cyflwyno Bil Cymru i’r Senedd heddiw.

Bydd y pecyn o bwerau ariannol yn y Bil hwn yn rhoi offer newydd pwerus i Gymru ddefnyddio mwy o reolaeth dros ei dyfodol. Mae’r Bil hefyd yn cryfhau atebolrwydd a thryloywder ariannol Llywodraeth Cymru yn sylweddol. Bydd y Pwerau yn y Bil hwn yn helpu Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i sicrhau economi gryfach a chymdeithas decach yng Nghymru.

Nodyn i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 020 7270 1362.

Roedd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi adrodd ar ei waith craffu ar fersiwn drafft Bil Cymru cyn y broses ddeddfu ar 28 Chwefror, gan wneud 11 argymhelliad i newid. Roedd y Llywodraeth wedi ymateb i’r Pwyllgor heddiw (20 Mawrth 2014), gan dderbyn pob un o argymhellion y Pwyllgor heblaw dau.

Bydd y Bil yn gwneud y canlynol hefyd:

  • Ymestyn tymhorau’r Cynulliad yn barhaol o bedair i bum mlynedd, sy’n ei gwneud yn llai tebygol y bydd etholiadau’r Cynulliad yn cyd-daro ag etholiadau Senedd San Steffan yn y dyfodol.
  • Dileu’r gwaharddiad sy’n atal ymgeiswyr mewn etholiadau Cynulliad rhag sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr ranbarthol.
  • Atal Aelodau Cynulliad rhag bod yn Aelodau Seneddol hefyd.
  • Newid enw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn swyddogol i Llywodraeth Cymru.
  • Egluro sefyllfa’r Prif Weinidog rhwng yr adeg pan ddaw Cynulliad i ben ac etholiad Cynulliad.
  • Caniatáu i’r Trysorlys osod terfyn cyfanredol ar faint o ddyled tai y caiff awdurdodau tai lleol yng Nghymru ei dal, a Gweinidogion Cymru i osod terfyn ar gyfer pob awdurdod o fewn y cyfanswm cyffredinol.
  • Mynnu bod Comisiwn y Gyfraith yn rhoi cyngor a gwybodaeth i Weinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â diwygio’r gyfraith roeddent wedi’u cyfeirio at y Comisiwn.
Cyhoeddwyd ar 20 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 June 2014 + show all updates
  1. Updating Explanatory Notes attachments for report stage

  2. Adding Welsh and English language expnatory notes

  3. Added translation