Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation yw enillydd Cymreig cyntaf Gwobrau Cymdeithas Fawr y Prif Weinidog

Heddiw, 1 Rhagfyr, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyflwyno Gwobr Cymdeithas Fawr y Prif Weinidog i Ymddiriedolaeth Ddatblygu …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 1 Rhagfyr, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyflwyno Gwobr Cymdeithas Fawr y Prif Weinidog i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation, menter gymdeithasol a sefydlwyd er mwyn adfywio’r ardal leol ger Pen-y-bont ar Ogwr - dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno i sefydliad yng Nghymru.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation gan aelodau o’r gymuned leol yn y flwyddyn 2000 er mwyn mynd i’r afael a phroblemau cymdeithasol ac economaidd yn y rhanbarth. Ers hynny, mae wedi helpu pobl a grwpiau lleol i sefydlu prosiectau er mwyn gwella pob agwedd ar fywyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o’r caffi - Creation Cafe - sy’n cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu sgiliau rhyngrwyd, i grŵp Knitting Nannas, sy’n cynhyrchu eitemau wedi’u gwau i elusennau. Y llynedd, elwodd dros 700 o bobl o hyfforddiant a gweithgareddau datblygu a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth, ac roedd gan 20% o’r rhain anabledd.

Menter fwyaf arloesol yr Ymddiriedolaeth yw Canolfan Amser Garw - prosiect banc amser mwyaf y DU. Drwy wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau fel cynnal dosbarthiadau, plannu yn y gymuned leol neu weithio fel Llysgenhadon Strydoedd sy’n gofalu am strydoedd lleol, mae’r aelodau’n ennill credydau y gellir eu defnyddio i ‘dalu’ am gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol eraill. Pan gafodd y cynllun ei ymestyn i gynnig ffordd i bobl ifanc ennill credydau am weithgareddau fel jwdo, codi hwyl (cheerleading) a digwyddiadau cymdeithasol gwelodd yr heddlu ostyngiad o 17% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ystod ei hymweliad cyfarfu Mrs Gillan a Llysgenhadon Strydoedd, aelodau o’r grŵp Knitting Nannas ac aelodau o’r gymuned sydd wrthi ar hyn o bryd yn gwneud llusernau ar gyfer yr Ŵyl Lusernau leol sydd wedi dod yn ddigwyddiad poblogaidd ac sy’n dod a’r gymuned leol at ei gilydd i ddathlu treftadaeth lofaol y dref. Gwelodd Mrs Gillan hefyd sut y mae’r caffi’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau rhyngrwyd.

Wrth longyfarch Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation ar ennill y wobr, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r syniad y tu ol i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation yn ymgorffori naws y Gymdeithas Fawr yn arbennig o dda - pobl yn gweithio er mwyn helpu eu cymuned eu hunain i gyflawni’r gwelliannau maen nhw eisiau eu gweld. Mae’r ffordd y mae’r Ganolfan Amser wedi dod yn rhan mor sefydlog o’r gymuned leol, nes bod pobl yn gweld eu credydau amser fel arian lleol, wedi creu argraff fawr iawn arna i.

“Mae’r wobr hon yn cydnabod yr holl amser a’r gwaith caled y mae’r rhai sydd y tu ol i’r Ymddiriedolaeth wedi’i gyfrannu, ers degawd a mwy, er mwyn creu’r sefydliad rhyfeddol hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yn sbarduno pawb arall yn yr ardal i adeiladu cymuned y gallant fod yn falch ohoni.”

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan:

“Mae’n anrhydedd cael cyflwyno Gwobr y Gymdeithas Fawr i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio er mwyn gwneud y gymuned leol yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo yn ysbrydoliaeth go iawn ac mae’n amlwg pam y maen nhw wedi cael y gydnabyddiaeth hon o’u gwaith.

“Mae’r tim ieuenctid a llysgenhadon y strydoedd, staff y Siop Bwyd Go Iawn a’r Caffi, a’r gwirfoddolwyr sy’n arwain y grwpiau celf a gwau yn dangos angerdd aruthrol ac maen nhw’n benderfynol eu bod am lwyddo. Maen nhw’n dangos bod y gymuned leol yn gryfach pan mae pawb yn gweithio gyda’i gilydd; maen nhw’n ysbrydoliaeth i gymunedau eraill ledled Cymru.

“Llongyfarchiadau i Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation!”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dawn Davies, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation:

“Rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi cael y wobr hon. Mae’n gydnabyddiaeth wych i’r holl waith sydd wedi cael ei wneud gan bawb. Rydyn ni’n edrych ymlaen i fynd i Downing Street, rhannu’n syniadau blaengar gyda’r Llywodraeth Glymblaid a rhoi rhyw syniad iddyn nhw pa fath o faterion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Nghymru”.

**Am Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation **

Mae Creation yn ymwneud ag adfywio economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol. Mae’r Ymddiriedolaeth, a sefydlwyd yn 2000, yn fenter gymdeithasol annibynnol nad yw’n ceisio gwneud elw preifat. Mae’n gwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 3998232) ac yn elusen (rhif 1091527) sy’n cael ei rheoli gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r ymddiriedolwyr yn rhoi eu hamser yn wirfoddol ac nid ydynt yn cael unrhyw dal na budd ariannol arall am eu gwaith. Mae Creation wedi’i leoli yn y gymuned, mae’n eiddo i’r gymuned ac yn cael ei reoli ganddi, ac mae’n ymwneud a phartneriaethau a chynghreiriau rhwng y gymuned a’r sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus. Mae Creation yn gweithio gyda phobl leol er mwyn datblygu prosiectau cynaliadwy a fydd yn helpu i adfywio’r ardal leol, gan wella cyfle cyfartal ac iechyd a lles pobl.

Mae’r sefydliad wedi ennill gwobrau amrywiol, gan gynnwys Gwobr Cymdeithas Adfywio Trefol Prydain am Waith Adfywio Ysbrydoledig yn y Gymuned. Mae wedi’i enwi ar Restr Werdd Cynnal Cymru ac mae wedi’i enwebu yng Ngwobrau Heddlu De Cymru am waith partneriaeth ar brosiectau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae bancio amser wedi dod yn rhan ganolog o waith yr Ymddiriedolaeth ac mae’n cael ei ddefnyddio yn awr i edrych ar ffyrdd o alluogi busnesau i ddatblygu cysylltiadau agosach a’r gymuned, gan sicrhau manteision i’r ddwy ochr. Mae Creation yn gyfrifol am y banc amser mwyaf o’i fath yn y DU ac mae wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o ddatblygu banciau amser ar hyd a lled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae swyddfeydd Creation yn Neuadd y Gweithwyr ym mhentref Blaengarw. Mae pedair gwaith cymaint o ymwelwyr yn ymweld a’r adeilad bob blwyddyn ers i’r elusen gymryd yr adeilad drosodd oddi wrth yr awdurdod lleol, ac mae’r niferoedd wedi codi o tua 12,000 i dros 50,000. Mae’n ganolbwynt i’r gymuned, sy’n cynhyrchu dros 20,000 o oriau o wirfoddoli mewn un cwm yn unig, a thrwy brosiectau partneriaeth a Heddlu De Cymru a sefydliadau eraill, mae’r Ymddiriedolaeth bellach yn ymwneud a phob ardal ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwefan www.creation.me.uk

Am Wobrau’r Gymdeithas Fawr:

Sefydlwyd Gwobrau’r Gymdeithas Fawr gan y Prif Weinidog yn Nhachwedd 2010. Eu nod yw cydnabod unigolion a sefydliadau ar hyd a lled y DU sy’n dangos y Gymdeithas Fawr yn eu gwaith neu eu gweithgareddau. Y bwriad, drwy wneud hynny, yw ysgogi eraill i ddilyn.

Mae’r wobr yn canolbwyntio ar dri maes penodol:

  • Hybu gweithredu cymdeithasol - pobl yn ymwneud mwy a’u cymunedau, ac yn cael eu hannog i wneud hynny drwy roi amser, arian ac adnoddau eraill.
  • Rhoi grym i gymunedau - pobl leol yn rheoli sut mae pethau’n cael eu gwneud yn eu hardal ac yn cael eu helpu i wneud hyn gan lywodraeth leol ac eraill.
  • Gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy agored - cyrff sector cyhoeddus ac unigolion yn dangos ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau, mentrau cymdeithasol a chwmniau preifat yn dangos ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth lansio’r gwobrau, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae prosiectau anhygoel a gwaith gwirfoddol rhyfeddol yn cael ei wneud mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan sefydliadau o bob math, yn fentrau mawr, cynlluniau bychain lleol ac unigolion ysbrydoledig.

“Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i roi teyrnged i’r rhai hynny sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w cymuned, gwir hyrwyddwyr y Gymdeithas Fawr, ond yn bwysicach fyth efallai, rwy’n gobeithio y byddant yn cymell llawer o bobl eraill i weithredu, i gymryd rhan ac i sicrhau newid yn eu hardal.”

Y cyhoedd sy’n cyflwyno’r enwebiadau. Yn dilyn hynny, mae’r swyddogion yn dilyn proses o sgorio a llunio rhestr fer, cyn i Banel o Weinidogion ac arbenigwyr allanol annibynnol lunio rhestr fer arall. Mae’r Panel hwn yn cyflwyno argymhellion i’r Prif Weinidog ac mae yntau wedyn yn cyflwyno’r wobr derfynol. Mae tua deuddeg o enillwyr yn cael eu dewis ym mhob cyfarfod chwarter ac yna’n cael eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.number10.gov.uk/bigsocietyawards

Cyhoeddwyd ar 1 December 2011