Stori newyddion

COVID-19: GLlTEM yn cyhoeddi Cynllun Adfer y Llysoedd Sifil a Theulu a’r Tribiwnlysoedd

Mae cynllun manwl yn amlinellu sut mae’r llysoedd sifil a theulu ac ein tribiwnlysoedd yn cynyddu eu capasiti i wrando achosion a chynnal gweithrediadau yn ystod lledaeniad COVID-19.

Heddiw, cyhoeddodd GLlTEM drosolwg o sut mae gweithrediadau wedi’u cynnal ar draws y llysoedd sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae’r cyhoeddiad hefyd yn manylu ar y cynnydd a wnaed i gynyddu’r capasiti mewn ffordd ddiogel i ddelio ag achosion sy’n weddill ac mae’n pennu’r cynlluniau o ran sut bydd GLlTEM yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder i’r holl ddefnyddwyr yn y meysydd hyn.

Dros y chwe mis diwethaf, mae GLlTEM wedi rhoi mesurau ar waith i helpu’r llysoedd sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd adfer mor gyflym ag sy’n bosibl. Mae yna bum egwyddor allweddol sy’n sail i’r broses adfer yn y meysydd hyn, ac rydym yn integreiddio ein prosesau cynllunio ar draws pob un ohonynt. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys:

  • gwneud y defnydd gorau bosibl o’r farnwriaeth fel bod modd iddynt eistedd ar gynifer o ddyddiau eistedd ag sy’n bosibl
  • ailagor ein hystafelloedd llys, lle bo’n ddiogel i wneud hynny, cyn gynted ag y bo modd a chryfhau’r capasiti trwy gadw Oriau Gweithredu COVID a chynnal llysoedd Nightingale lle bo’r angen
  • sicrhau bod gwrandawiadau o bell yn parhau i gael eu cefnogi’n effeithiol gyda rhagor o gymorth gan staff ac arweiniad ar gyfer defnyddwyr
  • cynyddu niferoedd ein staff i gefnogi’r broses gyflawni wrth inni addasu i ffyrdd newydd o weithio
  • parhau i greu gwasanaethau ar-lein fel y gwasanaethau profiant ac ysgaru a gweithio gyda’r farnwriaeth i gynnal cynlluniau peilot i geisio dulliau newydd, gan arbed amser yn gwneud tasgau gweinyddol ac yn rhyddhau’r barnwr i wrando rhagor o achosion

Bydd y mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith dros y chwe mis diwethaf yn ein galluogi i ymateb yn gyflym i unrhyw newidiadau pellach i’r cyfyngiadau, os bydd angen gwneud hynny fel rhan o ymateb parhaus y llywodraeth i’r pandemig.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn buddsoddiad o £80 miliwn yn y system llysoedd a wnaed yn ddiweddar, i fynd i’r afael â’r her ddigynsail y mae’r pandemig wedi’i chyflwyno.

Bydd y buddsoddiad hwn yn darparu’r arian i gyflogi 1,600 o staff newydd i gefnogi’r broses adfer, gan ychwanegu mwy o lysoedd Nightingale dros dro a darparu mwy o dechnoleg i wella capasiti.

Yn y cyfamser, bydd buddsoddiad mawr o £153 miliwn ar draws y system llysoedd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020 yn cyflymu’r broses o wella ein technoleg a moderneiddio ystafelloedd llys.

Cyhoeddwyd ar 9 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 November 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.