Datganiad i'r wasg

Llysoedd yn mynd yn wyrdd

Mae Llysoedd a thribiwnlysoedd ledled Cymru a Lloegr yn mynd yn wyrdd, diolch i fuddsoddiad o £40m gan y Llywodraeth i leihau eu hallyriadau carbon.

Image of solar panels on court building roof
  • £40m wedi cael ei wario ar sicrhau bod llysoedd a thribiwnlysoedd yn fwy cynaliadwy
  • Paneli haul a thechnolegau arbed ynni eraill wedi eu gosod ledled yr ystâd
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi ar y trywydd cywir i leihau allyriadau hyd at 10%

Mae’r arian yn cael ei wario ar amrywiaeth o fesurau i wella cynaliadwyedd a sicrhau bod Gwasanaeth Llysoedd thribiwnlysoedd ei Mawrhydi yn fwy cyfeillgar yn amgylcheddol, nawr ac at y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys lleihau ei ddefnydd o danwydd ffosil drwy osod paneli haul trydan mewn nifer o adeiladau ledled yr ystâd, yn ogystal â diweddaru systemau goleuadau, gwresogi ac aerdymheru i sicrhau eu bod yn effeithlon o ran ynni. Hefyd, mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod mewn mwy o adeiladau er mwyn annog teithio sy’n gyfeillgar i garbon.

Bydd y cam gweithredu hwn yn helpu i leihau allyriadau carbon a gynhyrchir gan y llysoedd o hyd at 10% – arbediad o tua 6000 tunnell o garbon erbyn 2025. Daw hyn wedi i weinidogion gadarnhau ‘sero net’ o garchardai sy’n barod yn ddiweddar, gyda’r nod o atal allyrru 280,000 tunnell o Garbon Deuocsid a thorri’r galw am ynni yn ei hanner.

Mae’r camau hyn gyda’i gilydd yn sicrhau bod y system gyfiawnder yn chwarae ei rhan yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a helpu i gyrraedd amcan y Llywodraeth i leihau holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050.

Dywedodd Gweinidog y Llysoedd James Cartlidge:

Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu yn ôl yn fwy gwyrdd o’r pandemig ac yn manteisio ar y cyfle hwn i wella cynaliadwyedd drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Bydd y buddsoddiad hwn yn lleihau ôl-troed carbon ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd o hyd at 10% – gyda phaneli haul, pwyntiau gwefru ceir trydan ac adeiladau mwy effeithlon fydd yn sicrhau torri ein galw am ynni. “Mae hyn yn rhan o’n cynllun i gyflwyno technoleg a moderneiddio ein hystâd i sicrhau gwell gwasanaeth i bob defnyddiwr llys.

Mae GLlTEM hefyd wedi datblygu strategaeth bum mlynedd er mwyn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried ym mhob dim y mae yn ei gyflawni. Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno mesurau i leihau’r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu bioamrywiaeth. Fe’i rhennir yn bedwar maes:

  • Lleihau allyriadau carbon – drwy insiwleiddio adeiladau yn well, defnyddio technoleg i fonitro ac awtomeiddio systemau rheoli adeiladau a lleihau’r defnydd o ynni, darparu pwyntiau gwefru cerbydau a raciau beic, a galluogi defnyddwyr llysoedd i gyrchu gwasanaethau digidol o bell
  • Arbed dŵr – drwy ddefnyddio technoleg mesuryddion deallus i olrhain y defnydd o ddŵr, trwsio gollyngiadau dŵr yn brydlon, a defnyddio dŵr o gawodydd a sinciau i glirio dŵr toiledau a dyfrhau tiroedd lle bo hynny’n bosibl
  • Lleihau gwastraff – drwy gynyddu cyfaint o ddŵr y gellir ei ddefnyddio eto a’i ailgylchu, lleihau’r gwastraff bwyd a gynhyrchir a lleihau neu roi eitemau a dodrefn swyddfa nad oes eu hangen mwyach.
  • Gwarchod ac annog bioamrywiaeth – drwy warchod a chynnal a chadw coed ar ei ystâd, cynyddu plannu sy’n annog peillio, a phlannu planhigion cynhennid yn lle prysglwyni lle bo’n bosibl

Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth yn gwario £12 biliwn i gyflawni ei hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Bydd hyn yn cynnwys technoleg, hydrogen a dal carbon, cartrefi mwy gwyrdd, isadeiledd gwefru cerbydau trydan, cerdded a beicio atalfeydd i rwystro llifogydd, a chefnogi cynhyrchu ynni ar y môr.

Nodyn i olygyddion:

  • Dyma ran o fuddsoddiad £285m sy’n cael ei wario ar welliannau i’n carchardai a’n llysoedd
  • Mae astudiaethau achos ar osod paneli haul mewn llysoedd ar gael i’r rhanbarthau canlynol: Coventry, Caerlŷr, Mansfield, Northampton, Gogledd Swydd Stafford, Nottingham, Yr Amwythig, Llys Ynadon Caerdydd. Gweler atodiadau A-H ymhellach isod
  • Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau sylweddol i ofalu y gall ein llysoedd weithredu’n llawn i adfer o’r pandemig a mynd i’r afael ag oedi. Mae hyn yn cynnwys:
    • Agor ystafelloedd llys newydd a llawer mwy i ddelio gyda ‘treialon sydd â mwy nag un diffynnydd’
    • Sefydlu ystafelloedd llys Nightingale ledled y wlad er mwyn cynyddu’r capasiti a sicrhau y gellir cynnal mwy o achosion – gydag ymrwymiad i ymestyn 32 o ystafelloedd llys gydag achosion troseddol tan Mawrth 2022
    • Gweithio i ail-agor 60 o ystafelloedd Llys y Goron ychwanegol i’r ystafelloedd sy’n bodoli eisoes, yn dilyn codi mwy o gyfyngiadau – yn cynnwys ymbellhau cymdeithasol – yng Nghymru a Lloegr.
    • Sicrhau nad oes cyfyngu ar nifer y dyddiau y gall y Llys y Goron eistedd eleni
    • Gosod mesurau ar waith i sicrhau bod 300 o ystafelloedd treialon gyda rheithgor ar gael i gynnal treialon yn ddiogel
    • Cynnal rhagor na 20,000 o wrandawiadau yn defnyddio technoleg o bell bob wythnos (ar draws pob awdurdodaeth) – cynnydd anferthol o gychwyn ym mis Mawrth 2020.
  • Mae effaith y mesurau hyn eisoes i’w gweld. Mae Cymru a Lloegr ymysg yr awdurdodaethau pwysig cyntaf yn y byd i ail gynnal treialon gyda rheithgor, er bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion sy’n weddill wedi disgyn degau o filoedd yn llysoedd yr ynadon ers haf y llynedd. Mae’r achosion y mae’r Llys y Goron yn delio â nhw yn parhau ar y lefelau cyn COVID, ac rydym yn rhestru miloedd o achosion bob wythnos.

Atodiadau:

  • A – Coventry. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 kw o baneli haul wedi’u gosod. 40710KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 9491 kgCO2E o arbedion ynni. 0.94 erw o fforestydd wedi’u harbed. Mae hyn yn gyfartal â thynnu 6.18 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • B – Caerlŷr. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 kw o baneli haul wedi’u gosod. 76400 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 17812 kgCO2E o arbedion ynni. 1.78 erw o fforestydd wedi’u harbed. 11.6 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • C - Mansfield – A – Coventry. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 kw o baneli haul wedi’u gosod. 40800 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 9344 kgCO2E o arbedion ynni. 0.93 erw o fforestydd wedi’u harbed. 6.13 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • D – Northampton. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. Goleuadau 49.5 kw wedi’u gosod. 42250 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 9850 kgCO2E o arbedion ynni. 0.99 erw o fforestydd wedi’u harbed. 6.46 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • E – Gogledd Swydd Stafford. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 kw o baneli haul wedi’u gosod. 41040 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 9568 kgCO2E o arbedion ynni. 0.96 erw o fforestydd wedi’u harbed. 6.27 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • F – Nottingham. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 o baneli haul wedi’u gosod. 45010 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu.10494 kgCO2E o arbedion ynni. 1.06 erw o fforestydd wedi’u harbed. 6.58 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • G - Yr Amwythig. Buom yn cydweithio â chwmni Ameresco yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 49.5 kw o baneli haul wedi’u gosod. 36080 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 8412 kgCO2E o arbedion ynni. 0.84 erw o fforestydd wedi’u harbed. 5.5 car oddi ar y ffordd bob blwyddyn.
  • H – Caerdydd. Buom yn cydweithio â chwmni Engie Ltd yn gosod paneli haul PV ar do yr adeilad. 1,076 KWH/YR o ynni wedi ei gynhyrchu. 12,216 kgCO2E o arbedion ynni.
Cyhoeddwyd ar 7 October 2021