Swyddi ynni glân yn ffynnu gyda 15,000 o swyddi newydd mewn cymunedau ledled Cymru
Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru yn elwa o swyddi ynni glân, o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU fel rhan o'i chenhadaeth uwch-bŵer ynni glân.

Wide picture of four white wind turbines.
- Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei chynllun cenedlaethol cyntaf erioed i recriwtio’r gweithwyr sydd eu hangen ar gyfer y genhadaeth ynni glân, gyda dros 15,000 o swyddi ynni glân ychwanegol yng Nghymru yn unig erbyn 2030.
- Mae galw arbennig am 31 o alwedigaethau â blaenoriaeth fel plymwyr, trydanwyr a weldwyr.
- Bydd cynlluniau peilot sgiliau yn Sir Benfro, Swydd Caer a Swydd Lincoln yn cael eu cefnogi gan gyfanswm o £2.5 miliwn – a allai fynd tuag at ganolfannau hyfforddi, cyrsiau neu gynghorwyr gyrfa newydd.
- Bydd yr Ysgrifennydd Ynni yn nodi mesurau i sicrhau bod angen i gwmnïau sy’n cael grantiau a chontractau cyhoeddus ddarparu swyddi da ar draws y sector ynni glân.
Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru yn elwa o swyddi ynni glân, o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw fel rhan o’i chenhadaeth archbŵer ynni glân.
Gyda chefnogaeth y buddsoddiad mwyaf erioed gan lywodraeth y DU a’r sector preifat mewn ynni glân fel ynni adnewyddadwy a niwclear, mae’r economi ynni glân yn sbarduno cynnydd yn y galw am swyddi diwydiannol da ym mhob rhanbarth a gwlad yn y DU - gyda galw arbennig am 31 o alwedigaethau â blaenoriaeth fel plymwyr, trydanwyr a weldwyr.
Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr ynni glân. Disgwylir i gyflogaeth ddyblu i 860,000 erbyn 2030, gan sicrhau swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda.
Bydd Cymru’n elwa o hyd at 20,000 o swyddi ynni glân erbyn 2030 - cynnydd o hyd at 15,000 ers 2023.
Mae’r sgiliau allweddol sydd eu hangen yn y rhanbarth yn cynnwys crefftau fel trydanwyr, bricwyr a phlymwyr yn ogystal â pheirianwyr a gweithwyr metel, a disgwylir i’r cyflogwr ynni glân mwyaf fod yn dal carbon yn ogystal â gwynt ar y môr.
Fel rhan o gynllun heddiw, bydd Sir Benfro, ochr yn ochr â Swydd Gaer a Swydd Lincoln, yn elwa’n uniongyrchol o gynllun peilot sgiliau, wedi’i gefnogi gan gyfanswm o £2.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, i gefnogi cymunedau lleol gyda chanolfannau hyfforddi, cyrsiau neu gynghorwyr gyrfa newydd i’w helpu i gael swyddi ym maes ynni glân.
Bydd yr Ysgrifennydd Ynni hefyd yn nodi sut mae’r llywodraeth hon yn gweld undebau llafur fel rhan hanfodol o’r gweithle a’r economi fodern. Ar draws y sector ynni ehangach, mae aelodaeth undebau llafur wedi gostwng o dros 70% yng nghanol y 90au i tua 30% heddiw. Mae cydnabod undebau llafur yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflogau uchel ac amodau da i weithwyr.
Dywedodd Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Ynni:
Mae Cymru yn hanfodol i’r chwyldro ynni glân y mae’r llywodraeth hon yn ei gyflawni. Mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn galw ers tro byd am genhedlaeth newydd o swyddi diwydiannol da. Gall y cynnydd mewn swyddi ynni glân ateb yr alwad honno - a heddiw rydyn ni’n cyhoeddi cynllun cenedlaethol pwysig i wneud iddo ddigwydd.
Bydd ein cynlluniau’n helpu i greu economi lle nad oes angen gadael eich tref enedigol dim ond i ddod o hyd i swydd deilwng. Diolch i ymrwymiad y llywodraeth hon i ynni glân, gall cenhedlaeth o bobl ifanc yn ein cadarnleoedd diwydiannol gael swyddi diogel sy’n talu’n dda, o blymwyr i drydanwyr a weldwyr.
Mae hon yn agenda sydd o blaid gweithwyr, o blaid swyddi ac o blaid undebau, a bydd yn cyflawni’r adfywiad cenedlaethol sydd ei angen ar ein gwlad.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r diwydiant ynni glân sy’n tyfu yng Nghymru yn darparu’r swyddi crefftus iawn sy’n talu’n dda ar gyfer y dyfodol.
Mae prosiectau ledled y wlad o Sir Benfro i Sir y Fflint yn creu cyfleoedd i gannoedd o’n pobl ifanc a byddant yn helpu i sbarduno twf rhanbarthol yn ogystal â chyflymu ein hymgyrch tuag at filiau is a diogelu ffynonellau ynni.”
Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru:
Ein huchelgais yw sicrhau y bydd gan bobl ifanc heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio swyddi yfory, gan ein helpu i wreiddio diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol yn ein cymunedau.
Gyda degawdau o arbenigedd diwydiannol, mae Cymru yn barod i fanteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth, sef chwyldro ynni glân yn y DU. Bydd y cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn ategu ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net ac yn cefnogi ein taith tuag at Gymru mwy ffyniannus a glanach.”
Mae cenhadaeth ynni glân Llywodraeth y DU eisoes yn arwain at dwf swyddi yn y DU, gyda sicrwydd a sefydlogrwydd cenhadaeth y llywodraeth wedi ysgogi dros £50 biliwn o fuddsoddiad preifat ers mis Gorffennaf diwethaf.
Bydd prosiect Dal, Defnyddio a Storio Carbon Hynet yn cefnogi swyddi yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer a Sir y Fflint, a rhagwelir y bydd yn creu 2,800 o swyddi uniongyrchol. Bydd Fferm Wynt Alltraeth Mona oddi ar arfordir Gogledd Cymru hefyd yn darparu 3,500 o swyddi dros ei hoes.
I bobl ifanc, gall y swyddi hyn gynnig cyflogau uwch gyda rolau lefel mynediad yn y rhan fwyaf o alwedigaethau ynni glân yn talu 23% yn fwy na’r un galwedigaethau mewn sectorau eraill.
Mae swyddi mewn rhwydweithiau gwynt, niwclear a thrydan i gyd yn hysbysebu cyflogau cyfartalog o dros £50,000, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o £37,000, ac maent wedi’u gwasgaru ar draws cymunedau arfordirol ac ôl-ddiwydiannol.
Mae cynlluniau sgiliau newydd yn cynnwys:
-
Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr ynni glân - Bydd pum Coleg Rhagoriaeth Dechnegol newydd yn helpu i hyfforddi pobl ifanc ar gyfer rolau hanfodol. Cefnogir cynlluniau peilot sgiliau yn Sir Benfro, Swydd Gaer a Swydd Lincoln gan gyfanswm o £2.5 miliwn a allai fynd tuag at ganolfannau hyfforddi, cyrsiau neu gynghorwyr gyrfa newydd.
-
Manteisio ar arbenigedd gwerthfawr a sgiliau trosglwyddadwy cyn-filwyr - Drwy weithio gyda Mission Renewable, mae’r llywodraeth yn lansio rhaglen newydd i gyfateb cyn-filwyr â gyrfaoedd mewn gosod paneli solar, ffatrïoedd tyrbinau gwynt, a gorsafoedd pŵer niwclear.
-
Cynlluniau wedi’u teilwra ar gyfer cyn-droseddwyr, pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol a phobl ddi-waith - Y llynedd yn unig, roedd 13,700 o bobl a oedd yn ddi-waith yn meddu ar lawer o’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rolau allweddol yn y sector ynni glân, fel peirianneg a chrefftau medrus.
-
Uwchsgilio gweithwyr - Bydd gweithwyr olew a nwy yn elwa o hyd at £20 miliwn i gyd gan Lywodraethau’r DU a’r Alban i ddarparu hyfforddiant gyrfaoedd pwrpasol ar gyfer miloedd o swyddi newydd ym maes ynni glân. Mae hyn yn dilyn galw mawr am y cynllun peilot sgiliau Aberdeen, sydd eisoes yn cefnogi gweithwyr i gael gyrfaoedd newydd. Mae’r Llywodraeth hefyd yn ymestyn y ‘pasbort sgiliau ynni’, sy’n nodi llwybrau rhwydd i weithwyr olew a nwy symud i swyddi ym maes ynni gwynt ar y môr ac i sectorau newydd gan gynnwys niwclear a’r grid trydan.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cynigion pwysig i sicrhau bod cyflogau, telerau ac amodau swyddi yn y sector ynni glân gyda’r gorau yn y byd.
-
Cael gwared ar fannau gwan mewn deddfwriaeth i ymestyn amddiffyniadau cyflogaeth gweithwyr olew a nwy ar y môr sy’n gweithio y tu hwnt i foroedd tiriogaethol y DU, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol, i’r sector ynni glân.
-
Siarter Gwaith Teg newydd rhwng datblygwyr ynni gwynt ar y môr ac undebau llafur i sicrhau bod cwmnïau sy’n elwa o gyllid cyhoeddus yn talu cyflogau teilwng ac yn sicrhau hawliau cryf yn y gweithle.
-
Meini prawf gweithlu o ran grantiau a chaffael i brofi a threialu ffyrdd arloesol o sbarduno gwaith a sgiliau teg yng nghontractau a grantiau’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, gan gynnwys drwy Fonws y Diwydiant Glân a Great British Energy, sydd newydd gael ei ffurfio.
Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog gyhoeddi pecyn o ddiwygiadau i ddyrchafu a thrawsnewid y system sgiliau addysg, gyda tharged newydd i ddwy ran o dair o bobl ifanc gymryd rhan mewn dysgu lefel uwch - academaidd, technegol neu brentisiaethau - erbyn iddynt fod yn 25 oed, i fyny o 50% heddiw.
Gydag o leiaf un o bob chwech o gyn-filwyr eisoes yn meddu ar lawer o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y sector ynni glân, mae’r llywodraeth yn ymuno â Mission Renewable i’w paru â gyrfaoedd mewn gosod paneli solar, ffatrïoedd tyrbinau gwynt, a gorsafoedd pŵer niwclear.