Cheryl Gillan yn croesawu’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd
Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru agoriad Amgueddfa Gelf Genedlaethol gyntaf yng Nghymru a fydd yn gwneud ei chartref yn…
Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru agoriad Amgueddfa Gelf Genedlaethol gyntaf yng Nghymru a fydd yn gwneud ei chartref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn siarad mewn derbyniad arbennig gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn ei swyddfa yn Nhŷ Gwydr, Llundain, i ddathlu agoriad buan prif safle ar gyfer celfyddyd hanesyddol a chyfoes.
Bydd yr orielau’n mapio hanes celfyddydau gweladwy Cymru hefyd, a bydd yn arddangos nifer o gasgliadau blaenllaw yn cynnwys Hen Feistri Ewropeaidd, argraffiadaeth ac ol-argraffiadaeth
Dywedodd Mrs. Gillan: “Bu imi ymweld ag Asgell Orllewinol yr Amgueddfa Genedlaethol i weld y gwaith yn mynd ymlaen, a gallwn weld bryd hynny sut byddai’r datblygiad yn rhoi Cymru ar y map rhyngwladol.
“Bydd yr oriel newydd hon yn gartref i ystod eang o gelfyddyd gain a chelfyddyd gymhwysol ar un safle, a bydd hyn yn nodi pennod newydd i ddyfodol celfyddyd yng Nghymru. Bydd yr Asgell Orllewinol a’i chwe oriel yn gartref i hap drysor o gelfyddyd gymysg i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o’r byd, ei mwynhau. Mae hyn yn newyddion da iawn i Gymru.”
Bydd y galeriau newydd ar agor i’r cyhoedd o’r 9 Gorffennaf.
Nodiadau I Olygyddion:
1.) Bydd yr arddangosfa agoriadol ym mis Gorffennaf (‘I cannot escape this place’) yn dangos gwaith gan arlunwyr gyda chysylltiadau a Chymru, gan gynnwys, Josef Herman a Shani Rhys James yn ogystal a’r arlunwyr Prydeinig a Rhyngwladol, David Hockney, Lucian Freud a Rachel Whiteread.