Cheryl Gillan yn ymweld â phrosiectau I ddiogelu treftadaeth Gymreig ac arloesi ym maes technolegau gwyrdd yn Aberystwyth
Yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn Aberystwyth i ymweld a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Cyfarfu …

Yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan yn Aberystwyth i ymweld a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Cyfarfu Mrs Gillan a Phrif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, a’r Llywydd sef yr Arglwydd Wigley i drafod prosiectau digido’r llyfrgell.
Yn dilyn ei hymweliad, dywedodd Mrs Gillan: “Mae hi wedi bod yn wych ymweld ag Aberystwyth a gweld y casgliad rhyfeddol o weithiau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell yn werthfawr iawn o ran diogelu treftadaeth Cymru, gan ddarparu cyfle i bobl ddod i ganfod mwy am ein hanes a’n diwylliant. Gwnaeth eu prosiectau digideiddio lle mae dros ddwy filiwn o dudalennau o bapurau newydd a chylchgronau hanesyddol yn cael eu digido fel y gall ymwelwyr gael mynediad at y cofnodion pwysig hyn ar lein ac am ddim argraff arbennig arnaf.”
Hefyd ymwelodd Mrs Gillan a Sefydliad Biolegol, Amgylcheddol a Gwyddorau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth lle y cyfarfu a’r Cyfarwyddwr Yr Athro Wayne Powell i drafod gwaith y sefydliad. Mae’r Athro Powell hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Busnes Swyddfa Cymru, a sefydlwyd i edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru a gwrando ar farn arweinwyr busnes Cymru.
Tra yn IBERS, bu Mrs Gillan yn trafod y cynllun BEACON newydd, a redir mewn cydweithrediad a phrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae’r rhaglen £20 miliwn yn anelu at hybu’r economi werdd drwy gynorthwyo busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau a dyfir yn lleol yn gynhyrchion masnachol.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae IBERS ar flaen y gad ym maes ymchwil, sydd mor hanfodol ar gyfer hyrwyddo datblygiad economaidd a datblygu atebion i brosiectau byd-eang. Mae’r cynllun BEACON yn enghraifft wych o sefydliadau yn dod at ei gilydd, yn rhannu arbenigedd a gwybodaeth gyda’r potensial i ddarparu manteision ar gyfer Cymru gyfan.”
Yn ddiweddarach, cyfarfu Mrs Gillan a grŵp o arweinwyr busnes creadigol a diwylliannol o fri ym Mhrifysgol Aberystwyth i amlinellu ei syniadau ar ddyfodol y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r rol y gall y Llywodraeth ei chwarae i gefnogi’r twf hwn.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae ein diwydiannau creadigol yn chwarae rhan sylweddol yn economi Cymru - gan yrru twf nid yn unig yn y sector ond ar draws yr economi ehangach hefyd. Mae ein diwydiannau creadigol yn rhan fawr o’n llwyddiant ym myd busnes, yn hyrwyddo sgiliau a doniau creadigol Cymru yn y farchnad ddomestig a rhyngwladol.
“Rhaid i ni ddefnyddio’r doniau a’r cyfleusterau sydd gan Gymru, ac mae gennym gyfoeth ohonynt yma yng Nghymru. Rwy’n ffodus o fod wedi ymweld ag Upper Boat, Pontypridd lle yr ymwelais a set Upstairs / Downstairs a set Dr Who, lle y cefais hyd yn oed fynd i mewn i’r Tardis! Ond nid yn y De yn unig y mae potensial rhagorol ar gyfer datblygu, yr haf diwethaf euthum i ymweld a set Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy, sy’n prysur ddod yn ganolfan i ddoniau yng Ngogledd Cymru. Hir y parhaed!”
Pwysleisiodd Mrs Gillan lwyddiant S4C, y sector annibynnol a BBC Cymru ac ITV Wales wrth greu diwydiant ffilm a theledu sy’n cynyddu, wedi’i leoli ledled Cymru, o’r gogledd i’r de.
“Mae’r Llywodraeth Glymblaid hon yn gwerthfawrogi cyfraniad y diwydiannau creadigol i’r economi ac rydym wedi dangos ein hymrwymiad i’r sector drwy ei wneud yn un o’r prif feysydd y byddwn yn edrych arnynt fel rhan o’n Hadolygiad Twf. Rydym eisiau gweithio gyda’r sector preifat i greu amgylchedd cyfeillgar i fusnes ac rydym wedi cyflwyno ystod o fesurau i gael gwared a rhwystrau sy’n atal cwmniau rhan cyflawni eu potensial. Mae angen ysgogi twf yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a thrwy annog mwy o fewnfuddsoddi ac annog mwy o fusnesau i ddod i Gymru, gallwn wneud hyn.”