Datganiad i'r wasg

Mae Cynllun Twf y Canghellor yn golygu toriadau i drethi miliwn o bobl yng Nghymru

Mae’r Canghellor yn datgelu ei Gynllun Twf i ryddhau potensial economi’r Deyrnas Unedig, mynd i’r afael â chwyddiant a sicrhau cynhyrchiant a chyflogau uwch.

Union Jack and Growth Plan
  • Y Canghellor yn cyhoeddi cynllun twf newydd beiddgar, i gefnogi busnesau a gwella safonau byw i bawb yn y Deyrnas Unedig.
  • Cynnydd yn y dreth gorfforaeth wedi ei ganslo, gan ei gadw ar 19% wrth i’r llywodraeth osod ei golygon ar gyfradd twf o 2.5%.
  • Cyfradd sylfaenol y dreth incwm wedi ei thorri i 19% ym mis Ebrill 2023 – flwyddyn yn gynharach na’r disgwyl – gyda 31 miliwn o bobl yn cael £170 yn rhagor y flwyddyn ar gyfartaledd a 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael toriad gwerth £235 mewn Yswiriant Gwladol.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cael tua £70 miliwn o ganlyniad i doriadau treth mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Ddydd Gwener 23 Medi, cyhoeddodd y Canghellor ei Gynllun Twf i ryddhau’r potensial enfawr yn economi’r Deyrnas Unedig, gan fynd i’r afael â chwyddiant a sicrhau lefelau uwch o gynhyrchiant a chyflogau.

Cyflwynodd Kwasi Kwarteng gynllun beiddgar i gefnogi busnesau a’u rhoi ar lwybr twf economaidd. Bydd cyfradd sylfaenol treth incwm yng Nghymru yn cael ei thorri i 19% o fis Ebrill 2023 ymlaen, sy’n werth £170 ar gyfartaledd, a bydd 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn eu Yswiriant Gwladol, sy’n werth £235 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Bydd toriadau i’r Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael tua £70 miliwn dros gyfnod Adolygiad o Wariant tair blynedd 2021.

Bydd hybu twf economaidd yn galluogi cyllid sefydlog ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, cyflogau uwch a mwy o gyfleoedd ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Dywedodd Kwasi Kwarteng, Canghellor y Trysorlys:

Nid term academaidd heb gysylltiad â’r byd go iawn yw twf economaidd. Mae’n golygu mwy o swyddi, cyflogau uwch a mwy o arian i gyllido gwasanaethau cyhoeddus. Ni fydd hyn yn digwydd dros nos, ond mae’r toriadau treth a’r diwygiadau rwyf wedi eu cyhoeddi heddiw – y pecyn mwyaf ers cenedlaethau – yn rhoi arwydd clir mai twf yw ein blaenoriaeth.

Rydym eisiau i fusnesau ledled Cymru gadw mwy o’u harian eu hunain i fuddsoddi, arloesi a thyfu. Bydd ein gostyngiadau treth incwm ac yswiriant gwladol yn golygu cannoedd o bunnoedd y flwyddyn yn rhagor ym mhocedi dros filiwn o weithwyr yng Nghymru.

Ac mae ein Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni yn gwarchod miloedd o fusnesau ledled Cymru rhag costau ynni cynyddol, gyda disgownt ar brisiau trydan a nwy cyfanwerthol.

Mae ein Cynllun Twf yn gosod y Deyrnas Unedig gyfan ar y trywydd ar gyfer twf, gan adeiladu ar gryfder cyllidol ein Hundeb a rhyddhau potensial aruthrol y wlad hon.

Dywedodd Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae mesurau beiddgar heddiw yn rhoi twf economaidd wrth galon ein cynlluniau ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi ymrwymo i ddiogelu cartrefi a busnesau Cymru rhag prisiau cynyddol drwy’r Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni. Ond economi iach sy’n tyfu yw’r ateb tymor hir gorau i’r pwysau ariannol enfawr sy’n wynebu’r wlad gyfan.

Drwy hybu buddsoddiad, lleihau trethi a chefnogi busnesau, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn denu mwy o bobl i swyddi sy’n talu’n dda, yn galluogi gweithwyr i gadw mwy o’r arian maent yn ei gael am weithio’n galed a sicrhau bod economi Cymru’n tyfu eto.

Gan nodi’r camau cyntaf tuag at dwf heddiw, datgelodd Kwasi Kwarteng ddiwygiadau treth sylweddol i alluogi busnesau i gadw mwy o’u harian eu hunain, gan annog buddsoddiad, rhoi hwb i gynhyrchiant a chreu swyddi. Mae mesurau newydd yn cynnwys canslo’r cynnydd arfaethedig yn y dreth gorfforaeth, ei gadw ar y lefel isaf yn y G20 ar 19%, a gwrthdroi’r cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol - newid a fydd yn arbed bron i £10,000 i 920,000 o fusnesau’r Deyrnas Unedig ar gyfartaledd y flwyddyn nesaf a chyfartaledd o £235 y flwyddyn i 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru.

Mae’r Canghellor hefyd wedi nodi cynlluniau i fynd i’r afael â’r llyffethair mwyaf o ran twf – cost uchel ynni sy’n cael ei sbarduno gan ymosodiad Vladimir Putin ar Wcráin, sydd wedi codi chwyddiant. I fynd i’r afael â hyn, bydd Gwarant Pris Ynni’r llywodraeth yn arbed £1,000 y flwyddyn i’r cartref nodweddiadol ar ei fil ynni ac yn haneru cost biliau ynni busnes, gan leihau chwyddiant brig oddeutu 5 pwynt canran.

Cadarnhawyd hefyd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sefydlu Ardaloedd Buddsoddi mewn safleoedd penodol ledled y Deyrnas Unedig. Bydd pob Parth Buddsoddi yn cynnig toriadau treth hael wedi eu targedu ac wedi eu cyfyngu o ran amser i fusnesau, a rheolau cynllunio rhyddfrydig i ryddhau mwy o dir ar gyfer tai a datblygiadau masnachol. Bydd y rhain yn ganolbwyntiau ar gyfer twf, gan annog buddsoddiad mewn canolfannau siopa, bwytai, fflatiau a swyddfeydd newydd, a chreu cymunedau newydd ffyniannus.

Gan ddatgelu rhagor o ddiwygiadau treth, amlinellodd Kwasi Kwarteng gefnogaeth benodol i’r sector tafarndai a lletygarwch, gan rewi’r dreth ar alcohol am flwyddyn arall. Bydd diwygiadau i foderneiddio treth ar alcohol hefyd. Mae’r mesurau newydd sy’n cynorthwyo busnesau yn ychwanegol at Gynllun Rhyddhad Biliau Ynni’r llywodraeth i fusnesau er mwyn capio costau fesul uned, a fydd yn eu diogelu rhag costau ynni cynyddol y gaeaf hwn drwy roi disgownt ar brisiau nwy a thrydan cyfanwerthol.

Ailadroddodd y Canghellor hefyd yr egwyddor bwysig o bobl yn cadw mwy o’r hyn maent yn ei ennill, gan gymell gwaith a menter. Cyhoeddodd ostyngiad o geiniog yn y gyfradd dreth incwm sylfaenol flwyddyn yn gynharach na’r disgwyl. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn cael ei thorri i 19%, a bydd hynny’n golygu y bydd dros 31 miliwn o bobl £170 y flwyddyn yn well eu byd ar gyfartaledd. Ochr yn ochr â thorri’r gyfradd dreth incwm sylfaenol, diddymodd y Canghellor y gyfradd dreth ychwanegol hefyd, gyda hynny’n dod i rym ym mis Ebrill 2023. Yn ei le, bydd cyfradd dreth incwm uwch sengl o 40%. Mae’r symudiad wedi ei gynllunio i ddenu’r gorau a’r mwyaf disglair i weithlu’r Deyrnas Unedig, gan helpu busnesau i arloesi a thyfu.

Cyhoeddodd y Canghellor fwy o ryddhad i fusnesau hefyd drwy wneud y Lwfans Buddsoddi Blynyddol o £1 miliwn yn barhaol, yn hytrach na gadael iddo ddychwelyd i £200,000 ym mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn golygu y gall busnesau dynnu 100% o gost offer a pheiriannau cymwys yn y flwyddyn gyntaf.

Cyhoeddwyd mesurau newydd hefyd i helpu pobl ar incwm isel i gael mwy o waith sy’n talu’n well. Bydd yn ofynnol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n ennill llai na’r hyn sy’n cyfateb i 15 awr yr wythnos yn y Cyflog Byw Cenedlaethol gwrdd yn rheolaidd â’u Hyfforddwyr Gwaith a chymryd camau gweithredol i gynyddu eu henillion neu wynebu lleihad yn eu budd-daliadau. Disgwylir i’r newid hwn ddod â 120,000 o bobl yn ychwanegol i mewn i’r drefn chwilio am waith mwy dwys.

Bydd ceiswyr gwaith dros 50 oed hefyd yn cael amser ychwanegol gyda hyfforddwyr gwaith mewn canolfannau gwaith, i’w helpu i ddychwelyd i’r farchnad swyddi. Mae’r cynnydd mewn anweithgarwch economaidd yn y rhai dros 50 oed yn cyfrannu at brinder yn y farchnad swyddi, gan gynyddu chwyddiant a chyfyngu ar dwf. Gallai dychwelyd at gyfraddau gweithgarwch cyn y pandemig ymysg pobl dros 50 oed gynyddu lefel y cynnyrch domestig gros rhwng 0.5 ac 1 pwynt canran.

Dros gyfnod Adolygiad Gwario tair blynedd 2021, disgwylir i Lywodraeth Cymru gael tua £70 miliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp.

Cyhoeddwyd ar 26 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 September 2022 + show all updates
  1. Welsh version added.

  2. First published.