Datganiad i'r wasg

Cyllideb cyntaf y Canghellor yn dod â hwb ariannol o £360 miliwn i Lywodraeth Cymru

Amlinellodd y Canghellor, Rishi Sunak wariant ychwanegol i Lywodraeth Cymru i’w caniatáu i gyflawni eu blaenoriaethau i bobl Cymru.

Image of the Chancellor's Budget box
  • £360 o gyllid ychwanegol o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru
  • £55 miliwn i Fargen Twf Canolbarth Cymru
  • Y Trysorlys yn sefydlu presenoldeb yng Nghymru i sicrhau fod blaenoriaethau Cymru’n ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau
  • Y Gyllideb i ddod ag ad-daliad treth i S4C

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y bydd Cymru yn elwa o hwb ariannol o £360 miliwn i gefnogi twf economaidd a chyfleoedd lefelu fyny.

Wrth draddodi ei Gyllideb gyntaf, amlinellodd Rishi Sunak wariant ychwanegol i Lywodraeth Cymru i’w caniatáu i gyflawni eu blaenoriaethau i bobl Cymru.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd gyfres o fesurau i fynd i’r afael ag effaith yr achos o Covid-19 ar economi’r DU gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn arian ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, pobl fregus a lleihau’r gost i fusnesau.

Meddai Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:

Fe wnaethon ni addewid i bobl Cymru i adeiladu gwlad decach, fwy ffyniannus a mwy unedig – a bydd y Gyllideb hon yn cyflawni hynny drwy osod y seilwaith am ddegawd o dwf economaidd ar draws y DU cyfan.

Rydym yn rhoi cyllid ychwanegol sylweddol i Lywodraeth Cymru gan ymchwilio sut gallwn gysylltu economïau Cymru a gorllewin Lloegr yn fwy llwyddiannus gan fuddsoddi mewn trafnidiaeth a sicrhau fod gan Gymru ddigon o adnoddau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng ngwyneb yr achos o Covid-19.

Wrth wraidd y Gyllideb hon mae uchelgais i gryfhau’r cysylltiadau’n bellach sy’n ein cysylltu ni at ein gilydd fel Teyrnas Unedig ac yn sicrhau fod gan bawb yr un cyfleoedd mewn bywyd, pa bynnag ran o’r wlad y maent yn byw ynddi.

Mae’r cyhoeddiad heddiw ar gyfer Cymru hefyd yn cynnwys:

  • £360 miliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru;
  • Cymorth i ddatblygu ffordd osgoi’r A483, Pant Llanymynech;
  • £55 miliwn i Fargen Twf Canolbarth Cymru;
  • Cyflwyno band eang sydd â gallu gigabit i ardaloedd sy’n anodd eu cyrraedd yn ogystal â chynlluniau i wella cysylltedd 4G ar draws y DU;
  • Gwelliannau hygyrchedd i orsafoedd reilffordd y Drenewydd ym Mhowys;
  • Mae de Cymru wedi cyflwyno cais llwyddiannus o £12 miliwn a Sir Benfro £4 miliwn i ariannu band eang ffibr llawn;
  • Cefnogi archwiliad economaidd annibynnol i Borth y Gorllewin sy’n ymestyn ar draws Cymru a gorllewin Lloegr;
  • Ymrwymiad gan y Trysorlys i sefydlu presenoldeb yng Nghymru er mwyn sicrhau fod blaenoriaethau Cymru yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau economaidd.

I gefnogi’r uchelgais o gyrraedd un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r Gyllideb yn cynnwys ymrwymiad i ddeddfu fod y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg S4C yn ennill yr un statws TAW â’r BBC ac ITN, sy’n werth tua £15 miliwn y flwyddyn.

Bydd Llywodraeth y DU ymchwilio sut i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd Cymru a Lloegr drwy ddatblygu ffordd osgoi’r A483, Pant Llanymynech, cefnogi archwiliad economaidd annibynnol i Borth y Gorllewin a darparu cefnogaeth ymarferol i helpu busnesau o fewn rhanbarth y Porth i gael mynediad i farchnadoedd rhyngwladol.

Mae buddsoddiad o £55 miliwn ym Margen Twf Canolbarth Cymru hefyd wedi ei gynnwys yn y Gyllideb, sy’n mynd â buddsoddiad mewn bargeinion twf yng Nghymru i bron i £800 miliwn.

Mae Cyllideb y flwyddyn hon yn cyflawni ar yr addewidion a wnaed i bobl Prydain ac yn gosod y seilwaith am ddegawd o dwf economaidd ar draws y DU, pa bynnag ran o’r wlad y maent yn byw ynddi.

Gydag ymrwymiadau i gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, y trothwyon Yswiriant Gwladol a’r Lwfans Cyflogaeth ar draws y DU, mae’r Gyllideb heddiw’n golygu y bydd rhywun sy’n gweithio’n llawn amser dros £5,200 yn gyfoethocach nag y buont ddeng mlynedd yn ôl.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae’r Gyllideb yma’n dangos fod Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewidion i lefelu fyny cenhedloedd a rhanbarthau’r DU a chyflawni ffyniant i Gymru.

O’r cymorth ariannol i’r bargeinion dinesig a thwf, y ffocws ar brosiectau seilwaith hanfodol i’r pŵer gwario ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae hon yn Gyllideb gydag economi Cymru yn ei chanol hi.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cefnogi diwylliant Cymru gyda £15 miliwn mewn ad-daliadau TAW i S4C, gan roi hwb i’r economi creadigol yng Nghymru.

Rydym hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda’r heriau eithriadol sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd drwy ddarparu cyllid ychwanegol i fynd i’r afael a’r Coronavirus a’r cymorth yn dilyn y llifogydd ar gyfer y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 12 March 2020