Stori newyddion

Canghellor y Trysorlys yn ymestyn y cynllun benthyciadau i gynnwys busnesau mawr

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi manylion terfynol y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws

HM Treasury building

HM Treasury building

  • Bydd yr holl fusnesau hyfyw sydd â throsiant dros £45 miliwn yn gallu gwneud cais i gael cymorth sydd wedi’i gefnogi gan Lywodraeth y DU;
  • Gall cwmnïau sydd â throsiant o dros £250 miliwn fenthyg hyd at £50 miliwn gan roddwyr benthyciadau;
  • Mae hyn yn ategu’r cymorth sydd ar gael yn barod, yn cynnwys y Cyfleuster Cyllido Corfforaethol Covid a’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws.

Cyhoeddodd y Ganghellor heddiw bod y cynllun benthyciadau ar gyfer busnesau mawr, sydd wedi’i gefnogi gan Llywodraeth y DU, wedi cael ei ymestyn i gynnwys yr holl fusnesau hyfyw. Wrth amlinellu manylion pellach am y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS), dywedodd Rishi Sunak y byddai pob cwmni sydd â throsiant dros £45 miliwn bellach yn gallu gwneud cais am hyd at £25 miliwn o gyllid, a hyd at £50 miliwn ar gyfer cwmnïau gyda throsiant o dros £250 miliwn.

Nid oedd busnesau gyda throsiant o dros £500 miliwn yn gymwys ar gyfer y cynllun i ddechrau. Mae’r cynllun wedi’i sefydlu i helpu cwmnïau nad ydynt yn gymwys i wneud cais dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws - ar gyfer busnesau bach a chanolig – a Chyfleuster Cyllido Corfforaethol Covid Banc Lloegr – ar gyfer cwmnïau o radd buddsoddi. Bydd y newid hwn, sy’n dilyn ymgynghoriadau helaeth gyda busnesau, yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o gwmnïau yn elwa o gael cymorth gan Lywodraeth y DU.

Meddai Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:

Rwyf eisiau sicrhau nad yw unrhyw fusnes hyfyw yn colli allan ar ein pecyn cymorth wrth inni helpu i ddiogelu swyddi a’r economi. Dyma pam rydym yn ymestyn y cynllun hael hwn i gynnwys cwmnïau mawr hefyd.

Ymdrech cenedlaethol yw hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector gwasanaethau ariannol i sicrhau bod y £330 miliwn o gymorth gan y llywodraeth, yn fenthyciadau a gwarantau, yn helpu cynifer o fusnesau ag sy’n bosibl.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Rydym wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i ddiogelu busnesau o bob maint yn ystod yr argyfwng hwn. Trwy ymestyn y cynllun hwn fel ei fod yn cwmpasu hyd yn oed mwy o fusnesau, rydym yn sicrhau bod cynifer o fusnesau ledled y DU ag sy’n bosibl yn gallu cael mynediad at y cymorth y maent ei angen.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud beth bynnag sydd ei angen i helpu bawb sydd angen cymorth. Bydd y £330 biliwn o gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer busnesau bach a mawr yn ein helpu i wrthsefyll yr argyfwng hwn gyda’n gilydd, gan ddiogelu swyddi a’r economi wrth i ni weithio i drechu’r coronafeirws.

Meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Alok Sharma:

Mae’r coronafeirws wedi cael effaith anferthol ar fusnesau o bob maint ledled y DU. Bydd ymestyn y cynllun hwn yn golygu bydd cwmnïau mawr yn cael y cymorth y maent ei angen yn ystod y pandemig, gan helpu i roi sicrwydd ar gyfer swyddi miloedd o bobl a diogelu ein economi.

Bydd Llywodraeth y DU yn gwarantu 80% o bob benthyciad i roi rhagor o hyder i roddwyr benthyciadau fel eu bod yn parhau i ddarparu cyllid.

Bydd y cynllun ar gael trwy nifer o roddwyr benthyciadau achrededig, a fydd wedi’u rhestru ar wefan British Business Bank.

Mae’r cymorth hwn yn ategu’r help digynsail sydd ar gael i fusnesau bach a mawr, yn cynnwys CBILS, CCCFF, gohirio talu trethi, y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, grantiau arian ar gyfer busnesau bach, a thalu am gostau tâl salwch statudol.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod llawer o gwmnïau newydd a chwmnïau sydd heb fod yn weithredol am gyfnod hir yn wynebu heriau ac mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda’r diwydiant busnes i asesu’r busnesau hyn ac ystyried ffyrdd eraill i ddarparu cymorth.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 21 April 2020