Datganiad i'r wasg

Y Ganghellor yn cefnogi busnes ac yn gwobrwyo gweithwyr i dyfu economi Cymru

Roedd toriadau treth i bobl sy'n gweithio a busnesau Prydain yn pennawd 'Datganiad yr Hydref ar gyfer Twf' y Canghellor Jeremy Hunt heddiw, dydd Mercher 22 Tachwedd.

Autumn Statement Press Notice

  • Bydd cynllun ar gyfer economi cryfach yn gwobrwyo gwaith caled, gydag 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn elwa o gael £324 yr un yn ôl yn eu pocedi o ganlyniad i’r toriadau Yswiriant Gwladol a ddaw i rym ym mis Ionawr.
  • Bydd y toriad treth parhaol mwyaf yn hanes Prydain fodern yn helpu busnesau i fuddsoddi am gost llai a hybu buddsoddi trwy gyfrannu £20 miliwn y flwyddyn i’r economi dros y degawd nesaf.
  • Bydd y clo triphlyg i bensiynwyr yn parhau, bydd budd-daliadau yn cynyddu yn unol â chwyddiant ac mae’r Lwfans Tai Lleol wedi cynyddu i gefnogi teuluoedd gyda chostau byw.
  • Mae’r Llywodraeth yn sicrhau bod gweithio yn talu. Bydd y cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol yn helpu 130,000 o bobl yng Nghymru, gan gynrychioli cynnydd o £1,800 ar gyfartaledd i gyflog gweithiwr llawn amser, a bydd y cynllun Dychwelyd i’r Gwaith yn helpu dros filiwn o bobl i gychwyn, aros a llwyddo yn y gwaith a sicrhau bod goblygiadau mwy cadarn i’r rhai hynny sy’n dewis peidio gweithio.
  • Bydd tafarndai, bragdai a distyllwyr yn cael cefnogaeth trwy rewi’r treth alcohol am chwe mis, hyd at Awst 2024.
  • Mae cyllid cyhoeddus mewn sefyllfa well nac ym mis Mawrth o ganlyniad i weithredoedd y Llywodraeth, gyda benthyg a dyled wedi gostwng ar gyfartaledd ar draws y pum mlynedd nesaf.
  • Mae Datganiad yr Hydref yn rhoi hwb i’r economi, mae dyled yn gostwng ac mae’n helpu i ddychwelyd y lefel chwyddiant i’r targed o 2% - penderfyniadau hirdymor fydd yn sicrhau dyfodol disglair.

Toriadau treth i bobl sy’n gweithio a busnes Prydeinig oedd prif benawdau datganiad y Ganghellor Jeremy Hunt ‘Datganiad yr Hydref i Dyfu’r Economi’ heddiw, ddydd Mercher 22 Tachwedd.

Gan anelu at adeiladu economi cryfach a gwydnach, pennodd y Ganghellor gynllun i gymell tyfiant a chynhyrchiant trwy sbarduno buddsoddi gyda chyfraniad o £20 biliwn y flwyddyn, sicrhau gwaith i mwy o bobl, a torri trethi i 29 miliwn o weithwyr ledled y DU - y toriad treth mwyaf yn y maes gwaith ers yr 1980au.

Meddai Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

Mae Datganiad yr Hydref yn uchelgeisiol iawn, gan roi mwy o arian ym mhocedi dros miliwn o bobl sy’n gweithio yng Nghymru gyda thoriadau Yswiriant Gwladol a chynnydd arall i’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Wrth i ni dyfu’r economi, rwyf wrth fy modd gweld Llywodraeth y DU yn buddsoddi’n uniongyrchol ac yn sylweddol yng Nghymru. Bydd y ddau Barth Buddsoddi newydd, gwerth £160 miliwn, yng Ngogledd Ddwyrain a De Ddwyrain Cymru, ac ymrwymiad uchelgeisiol i’r maes ynni gwynt arnofiol yn y môr yn annog busnes ac yn creu swyddi. Ar yr un pryd, bydd Sir Drefaldwyn yn elwa o £5 miliwn i wella cysylltiadau trafnidiaeth a bydd £500,000 yn mynd at gefnogi Gŵyl y Gelli, gan adlewyrchu buddsoddiadau sylweddol yn y cymunedau hynny.

Bydd £305 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r ‘Barnett Consequentials’, ar ben y grant bloc, i’w wario ar gyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli, fel iechyd ac addysg.

Mae hyn i gyd yn ychwanegol i’r £111 miliwn o arian ffyniant bro a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Saith prosiect yng Nghymru a fydd yn trawsnewid ardaloedd lleol ac yn dangos bod Llywodraeth y DU yn cyflawni i bobl ledled Cymru.

Oherwydd bod refeniw wedi bod yn uwch o ganlyniad i dwf uwch na’r disgwyl a gan bod yr addewid i haneru’r lefel chwyddiant wedi’i wireddu, mae’r llywodraeth wedi sefydlogi’r economi trwy wneud penderfyniadau call. Fel y pennwyd gan Prif Weinidog y DU yr wythnos hon, mae’r rhagolwg cryfach yn golygu y gellir torri trethi mewn ffordd ddifrifol a chyfrifol.

Felly, cyhoeddodd Mr Hunt y bydd toriad o 2 y cant i Yswiriant Gwladol Gweithwyr, o 12% i 10%, yn dod i rym o fis Ionawr 2024.

Bydd trethi i bobl hunangyflogedig hefyd yn destun toriadau ac yn cael eu diwygio. O fis Ebrill 2024, bydd Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i weithwyr hunangyflogedig yn lleihau o 9% i 8% ac ni fydd rhaid i unrhyw weithiwr hunangyflogedig dalu cyfraniadau Dosbarth 2.

Mae’r rhain i gyd yn cynrychioli’r toriad mwyaf erioed i Yswiriant Gwladol gweithwyr a phobl hunangyflogedig - toriad treth ledled y DU gwerth £9 biliwn y flwyddyn, sy’n cyfateb i doriad treth gwerth£324 y flwyddyn ar gyfartaledd i 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn gwella safonau byw bron ar unwaith i dros filiwn o bobl ac yn gwobrwyo gwaith caled wrth i’r llywodraeth adeiladu economi i’r dyfodol.

Bydd busnesau hefyd yn elwa o’r toriad treth busnes mwyaf yn hanes fodern Prydain. Fel yr awgrymwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn, cyhoeddodd y Ganghellor y bydd y cynllun Talu Treuliau Llawn yn barhaol: Cynllun ‘Invest for Less’ i’r rhai hynny sy’n buddsoddi mewn offer TG a pheiriannau.

Talu Treuliau Llawn: Mae ‘Invest for Less’ yn doriad treth parhaol o £11 biliwn y flwyddyn, gan hybu buddsoddi at werth o £14 biliwn ar draws cyfnod y rhagolygon a helpu i dyfu’r economi. Gan fod y toriad treth nawr yn barhaol, bydd y DU yn parhau i fod â’r prif gyfradd treth gorfforaeth isaf yn y G7 a’r lwfansau cyfalaf mwyaf hael yn y grwp OECD o brif economïau blaengar, fel Unol Daleithiau America, Japan, De Korea a’r Almaen. Ers cyflwyno’r didyniad mawr - rhagflaenydd Talu Treuliau Llawn - yn 2021, mae buddsoddi yn y DU wedi tyfu yn gyflymach nac unrhyw aelod arall o’r G7.

Er mwyn sicrhau unwaith eto bod gweithio yn talu, cadarnhaodd Mr Hunt bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu bron i 10% i £11.44 yr awr o fis Ebrill 2024, sef y cynnydd mwyaf erioed o ran arian parod. Bu i’r Ganghellor hefyd gryfhau’r Cynllun Dychwelyd i’r Gwaith newydd gwerth £2.5 biliwn ar gyfer y rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd hir dymor, anableddau ac anawsterau wrth geisio dod o hyd i gyflogaeth, sy’n cynnwys sancsiynau newydd i’r rhai hynny sy’n gallu gweithio ond sy’n dewis peidio.

Bu i’r Ganghellor hefyd gyhoeddi y bydd y llywodraeth yn cadarnhau ei hymrwymiad i’r clo triphlyg yn llawn, gyda phensiwn y wladwriaeth yn cynyddu i 8.5% ym mis Ebrill, sef yr ail gynnydd mwyaf erioed o ran arian parod.  Bydd Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill i bobl oedran gweithio yn cynyddu 6.7% ym mis Ebrill, yn unol â ffigwr chwyddiant mis Medi, fel yw’r drefn arferol.

Mae camau pellach i helpu teuluoedd yn cynnwys cynyddu cyfradd y Lwfans Tai Lleol i gwmpasu’r 30% isaf o renti o fis Ebrill - bydd 1.6 miliwn o aelwydydd yn elwa o hyn, gyda chynnydd o £800 ar gyfartaledd yn 2024/25 - a bydd y dreth alcohol yn cael ei rhewi tan y 1af o Awst 2024, yn dilyn newidiadau synnwyr cyffredin i’r system dollau a oedd yn bosib o ganlyniad i Brexit. Mae mesurau heddiw yn golygu bod cefnogaeth y Llywodraeth i leddfu effeithiau’r argyfwng costau byw rhwng 2022-25 yn dod i gyfanswm o dros £100 biliwn, sef £3,700 fesul aelwyd ar gyfartaledd.

Mae llawer o benderfyniadau heddiw ynghylch trethi a gwariant yn berthnasol yng Nghymru. O ganlyniad i benderfyniadau nad ydynt yn berthnasol i’r DU i gyd, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £305 miliwn dros y dwy flynedd nesaf.

Mae’r rhagolygon gan OBR yn cadarnhau y bydd mesurau heddiw yn gwneud yr economi yn fwy yn barhaol, gyda thwf bob blwyddyn o fewn cyfnod y rhagolygon. Rhagwelir y bydd y gyfran o’r economi a gynrychiolir gan fenthyg a dyled yn llai eleni a blwyddyn nesaf nac yr oedd yn y Gwanwyn diwethaf, ac mae’r lefel benthyg hefyd yn llai ar gyfartaledd ar draws y rhagolygon. Maen nhw hefyd yn cadarnhau y disgwylir i chwyddiant ddychwelyd i’r lefel darged yn unol â blaenoriaethau economaidd Prif Weinidog y DU.

Treth

Gyda chwyddiant wedi haneru a rhagolygon y bydd dyled yn gostwng, bu i Mr Hunt gyflawni ymrwymiad y llywodraeth i dorri trethi - gan wobrwyo y sawl sy’n gweithio a chymell bobl i weithio fel rhan o gynllun hirdymor i dyfu’r economi.

  • Bydd prif gyfradd Yswiriant Gwladol Gweithwyr yn cael ei torri 2 y cant, o 12% i 10%, yn dod i rym o Ionawr 2024 - gan ddarparu toriad treth yn gyflym i 27 miliwn o weithwyr.
  • Felly bydd y gyfradd dreth incwm ac Yswiriant Gwladol i weithwyr sy’n talu’r gyfradd dreth sylfaenol yn syrthio o 32% i 30% - y gyfradd sylfaenol cyfunol isaf ers yr 1980au.
  • Bydd y gyfradd Cyfraniadau YG Dosbarth 4 ar yr holl enillion rhwng £12,750 a £50,270 yn cael ei gostwng 1c, o 9% i 8% o fis Ebrill 2024.
  • Bydd y Cyfraniadau YG Dosbarth 2 - y taliad cyfradd safonol, sef £3.45 ar hyn o bryd, a delir gan bobl hunangyflogedig sy’n ennill mwy na £12,570 - yn cael ei ddileu, a ni fydd rhaid i neb ei dalu o Ebrill 2024. Bydd mynediad at fudd-daliadau ar sail cyfraniadau yn parhau a bydd y rhai hynny sy’n talu yn wirfoddol dal yn gallu gwneud hynny ar yr un gyfradd. 
  • Bydd y toriadau i gyfraniadau Dosbarth 4 a Dosbarth 2 gyda’i gilydd yn cyfateb i doriad treth o £350 y flwyddyn ar gyfartaledd i unigolion hunangyflogedig, a bydd oddeutu 2 filiwn o bobl yn elwa ohono.

Busnes

Bydd mesurau i gefnogi busnesau Prydeinig - mawr a bach - yn dileu rhwystrau i fuddsoddi ac yn helpu i bontio’r bwlch cynhyrchiant rhwng y DU a’i chyfoedion G7 - gan ddatgloi £20 biliwn y flwyddyn o fuddsoddi mewn busnes dros y degawd nesaf.

  • Bydd Talu Treuliau Llawn Parhaol yn darparu’r sicrwydd y mae busnesau ei angen i fuddsoddi am gost llai. Gall unrhyw gwmni hawlio lwfansau cyfalaf o 100% yn barhaol ar y prif gyfradd buddsoddi mewn peiriannau, sy’n golygu ar gyfer bob punt sy’n cael eu fuddsoddi mae’r trethi arno yn destun toriad o hyd at 25c.
  • Bydd diwygio pensiynau, gan gynnwys sefydlu Cronfa Dwf newydd o fewn y British Business Bank, yn helpu i ddatgloi £75 biliwn o arian i gwmnïau twf uchel erbyn 2030, a darparu £1,000 ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd i bobl sy’n ymddeol sy’n dechrau cynilo o 18 oed.
  • Bydd Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn cael eu cefnogi gan reoliadau llymach ar gyfer bobl sy’n talu’n hwyr i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud yn brydlon a bydd cyllid ar gyfer y cynllun Help i Dyfu yn parhau. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio i ymestyn y rhaglen Made Smarter Adoption - sy’n helpu BBaCH yn y maes cynhyrchu i leihau allyriadau a sbarduno cynhyrchiant - yng Nghymru o 2026/27.
  • Bydd y Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu a’r Cynllun Busnesau Bach a Chanolig yn cael eu cyfuno ym mis Ebrill 2024, gan symleiddio’r system a hybu arloesi yn y DU. 
  • Fydd y gyfradd dreth ar gyfer cwmnïau sy’n gwneud colled o fewn y cynllun cyfunol yn lleihau o 25% i 19% a bydd y trothwy ar gyfer cymorth ychwanegol ar gyfer BBaCh Ymchwil a Datblygu sy’n gwneud colledion mawr yn cael ei ostwng i 30%, gan helpu 5,000 o BBaCh ychwanegol.
  • Bydd y Cynllun Cytundeb Newid Hinsawdd yn cael ei ymestyn, gan roi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni - fel gwneuthurwyr dur a  serameg a bragdai - rhyddhad treth gwerth oddeutu £300 miliwn bob blwyddyn tan 2033 i annog buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a’r trosglwyddiad i Sero Net.

Diwygio’r meysydd gwaith a llesiant

Pennodd Mr Hunt gamau i wobrwyo pobl am weithio, helpu i sicrhau bod gweithio yn talu a diwygio’r maes llesiant i gydnabod yr angen i ymestyn y gweithlu a chael y rhai hynny nad ydynt yn gweithio yn ôl yn gweithio i sicrhau twf. Mae OBR yn disgwyl y bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yn helpu 78,000 o bobl i ddychwelyd i’r gwaith erbyn 2028-29, ar ben y 110,000 o bobl sydd wedi elwa o ganlyniad i’r camau a weithredwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn.

  • O’r 1 Ebrill 2024, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu 9.8% i £11.44 yr awr i weithwyr cymwys. Am y tro cyntaf erioed, bydd hyn yn cynnwys gweithwyr 21 a 22 mlwydd oed. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o dros £1,800 i enillion blynyddol gweithiwr llawn amser sy’n derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol a rhagwelir y bydd 130,000 o weithwyr ar gyflog isel yng Nghymru yn elwa.
  • Bydd y llywodraeth hefyd yn cynyddu’r cyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol i bobl ifanc a phrentisiaid: cynnydd o 14.8% i £8.60 yr awr ar gyfer pobl 18-20 oed, a chynnydd o 21.2% i £6.40 yr awr i bobl 16-17 mlwydd oed a phrentisiaid.
  • Mae’r llywodraeth yn diwygio’r Asesiad Gallu i Weithio i sicrhau bod pobl sy’n gallu gweithio yn cael cefnogaeth i wneud hynny drwy’r system llesiant. Bydd newidiadau i’r gweithgareddau a’r disgrifyddion yn adlewyrchu’r hyblygrwydd a’r addasiadau rhesymol sydd nawr ar gael yn y byd gwaith, a fydd yn atal rhai unigolion rhag cael eu hystyried yn anaddas i weithio ac yn sicrhau y byddant yn cael cefnogaeth i ddod o hyd i gyflogaeth.
  • Fel rhan o’r Cynllun Dychwelyd i’r Gwaith, mae’r llywodraeth yn ymestyn ac yn ehangu’r cynllun ‘Restart’ tan mis Mehefin 2026 - gan ddarparu cymorth dwys sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn, fel darparu hyfforddwr a datblygu sgiliau fel ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad i’r rhai hynny sydd wedi bod yn derbyn Credyd Cynhwysol am fwy na 6 mis (yn hytrach na’r trothwy o 9 mis yn flaenorol).  Bydd ymestyn y rhaglen Cymorth Cynhwysol hefyd yn helpu i leoli a chefnogi mwy o bobl gydag anableddau a phobl o grwpiau bregus i lenwi swyddi gwag. Bydd sancsiynau cryfach yn weithredol yng Nghymru.
  • Bydd safon gwirfoddol Iechyd Galwedigaethol newydd yn cael ei ddatblygu a fydd yn darparu arweiniad ar iechyd ac anableddau yn y gweithle, ochr yn ochr â chreu marchnad digidol newydd i gefnogi busnesau bychain yng Nghymru i gaffael gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.

Isadeiledd a Ffyniant Bro

Bu i’r Ganghellor gyflwyno nifer o fesurau cyflenwi a phecynnau cyllid y bydd busnesau a chymunedau lleol ledled Cymru yn elwa ohonynt.

  • Gwerth £4.5 biliwn o gyllid i wneuthurwyr Prydeinig yn niwydiannau twf uchel y dyfodol, gan gynnwys £960 miliwn sydd wedi’i neilltuo i’r Cyflymydd Tyfu Diwydiannau Gwyrdd i gefnogi ynni glân.
  • Bydd dau Barth Buddsoddi newydd yn cael eu sefydlu yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac yn Wrecsam a Sir Y Fflint i sbarduno twf economaidd ledled Cymru.  Bydd ymestyn y Parthau Buddsoddi a’r rhaglenni porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn cael eu hail-greu yng Nghymru, yn amodol ar gytundeb gan Lywodraeth Cymru. Bydd y llywodraethau hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfran o’r cyllid o’r Gronfa Cyfleoedd Buddsoddi sydd werth £150 miliwn, i gefnogi’r broses o sicrhau cyfleoedd penodol i fuddsoddi mewn busnesau.
  • Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi ei hymateb cyntaf i’r arolwg Winser a’r Cynllun Gweithredu Cysylltiadau, a fydd yn lleihau amseroedd mynediad i’r grid yn ei hanner, yn haneru’r amser y mae’n gymryd i adeiladu gwelliannau sylweddol i’r grid ac yn cynnig hyd at £10,000 o ostyngiad i filiau dros gyfnod o 10 mlynedd i’r sawl sy’n byw’n agosaf at yr isadeiledd trosglwyddo newydd.
  • Mae’r Llywodraeth yn gweithio gydag Ystad y Goron i ddatblygu prosiectau ynni gwynt arnofiol yn y Mor Celtaidd trwy’r 2030au, gyda’r potensial i gyflawni £20 miliwn o fuddsoddi uniongyrchol o ganlyniad i adleoli yn yr ardal.
  • Er mwyn blaenoriaethu’r rhai hynny sydd eisiau buddsoddi mewn dyfodol y DU, mae’r Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor prif argymhellion arolwg yr Arglwydd Harrington ar gynyddu buddsoddi uniongyrchol o dramor. Mae hyn yn cynnwys adnodd ychwanegol i’r Swyddfa dros Fuddsoddi, gan ganiatáu iddynt ymestyn eu cynnig concierge o safon byd-eang i fuddsoddwyr strategol bwysig.
  • Bydd y gwyddorau bywyd hefyd yn cael eu cefnogi fel un o sectorau twf allweddol y Ganghellor, gyda £20 miliwn wedi’i neilltuo i gyflymu datblygiad y triniaethau dementia newydd sy’n dod fel rhan o ymateb llawn y llywodraeth i’r Arolwg O’Shaughnessy o dreialon clinigol masnachol yn y DU.
  • Bydd y llywodraeth yn sicrhau cysylltedd gwell i Gymru, gan roi £1 biliwn i ariannu trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Gogledd Cymru.
  • Bydd £5.2 miliwn o gyllid ar gyfer trafnidiaeth yn Sir Drefaldwyn yn darparu gwelliannau sylweddol i’r rhwydwaith bysiau lleol, llwybrau cerdded, llwybrau beiciau a llwybrau a rennir o fewn Cas-gwent.
  • £800,000 o gyllid ar gyfer y Ganolfan Brofi Technoleg Gofod yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu maes i gynnal profion hedfan ar gyfer cerbydau profi sy’n rhedeg ar bŵer roced, hediadau gwyddonol sy’n mynd yn agos at y gofod, ymchwil micro-disgyrchiant a threialon o gerbydau ailfynediad a systemau adfer llwythau hanfodol.
  • Mae’r llywodraeth hefyd yn darparu £500,000 i gefnogi Gŵyl y Gelli yng Nghymru.
Cyhoeddwyd ar 22 November 2023