Datganiad i'r wasg

Grant £1.4 miliwn gan Lywodraeth y DU yn rhoi hwb i blismona rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr

Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: "Mae diogelwch yr ŵyl bêl-droed yn hollbwysig"

Principality Stadium

Heddiw, cyhoeddodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod cyfraniad o £1.4 miliwn gan Lywodraeth y DU wedi rhoi hwb i’r gweithrediadau diogelu ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw (7 Ebrill) ei bod wedi cymeradwyo cais am Grant Arbennig a wnaed gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i dalu am y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â phlismona gêm pêl-droed fwyaf clybiau Ewrop ar 3 Mehefin.

Bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn cynnal y digwyddiad nodedig a disgwylir iddo ddenu cynulleidfa fyd-eang o gannoedd o flilynau a chynhyrchu £45m ar gyfer economi Caerdydd.

Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y merched (1 Mehefin) a disgwylir i tua 250,000 o bobl ddod i’r ddinas i fwynhau pedwar diwrnod o ddigwyddiadau di-ri yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Caerdydd wedi profi’n gyson bod ganddi galibr fel prifddinas i groesawu digwyddiadau proffil uchel ar lwyfan rhyngwladol. Bydd llygaid y byd arnom ni unwaith eto wrth i ni baratoi i gynnal rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Mae diogelwch y cannoedd ar filoedd o bobl fydd yn heidio i’r ddinas a’r ardaloedd cyfagos ar yr adeg hon yn hollbwysig. Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o sicrhau bod Cymru, a’r DU, yn cael eu dangos ar eu gorau posibl ar y llwyfan byd-eang a bydd plismona’r digwyddiad yn allweddol i gyflawni hyn.

Rydw i’n hynod falch ein bod wedi gallu rhoi’r arian yma i Heddlu De Cymru. Rydw i’n gwybod bod y ddinas gyfan yn edrych ymlaen at estyn croeso gwresog i’r cefnogwyr fydd yn ymweld â hi ar gyfer rownd derfynol ddiogel a llwyddiannus Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach eleni”.

Dywedodd Brandon Lewis, y Gweinidog dros Blismona a’r Gwasanaethau Tân:

Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod £1.4 miliwn o arian grant wedi cael ei ddyrannu i gefnogi Heddlu De Cymru yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd. Rydw i’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad anhygoel i ddinas Caerdydd ei gynnal.

Mae Llywodraeth y DU wedi diogelu arian yr heddlu ers Adolygiad o Wariant 2015 ac mae’n briodol o dan amgylchiadau eithriadol ein bod yn darparu adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau’n ddiogel”.

Cyhoeddwyd ar 5 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 April 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.