Datganiad i'r wasg

Dathlu diwylliant a llwyddiant Cymru gyda Thywysog Cymru

Bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn dod ag arweinwyr byd a phobl leol at ei gilydd i arddangos y gorau o Gymru yn Uwchgynhadledd NATO

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Celtic Manor Resort

Celtic Manor Resort

Bydd y derbyniad, sy’n cael ei gynnal gan y Tywysog ar gais Llywodraeth Ei Mawrhydi, yn digwydd yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Iau 4 Medi. Bydd hefyd yn gyfle i Lywodraeth Ei Mawrhydi ddiolch i bobl o bob rhan o Gymru a fydd wedi bod yn ymwneud â threfnu’r cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a welwyd yn y DU erioed.

Bydd y Prif Weinidog, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn ymuno â’r Tywysog yn yr achlysur lle bydd y gwesteion yn cael blas ar Gymru ac adloniant gan rai o sêr y byd cerddorol yng Nghymru.

Mae cynrychiolwyr o’r Cynghorau lleol, y byd busnes, plant ysgol a chadetiaid wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r achlysur ynghyd ag enillwyr Gwobrau ‘Points of Light’ a Gwobrau Dewi Sant o Gymru.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Cymru yn genedl hyderus ac allblyg ac mae’n destun balchder i ni ein bod yn cynnal yr Uwchgynhadledd NATO hanesyddol hon.

Mae’r derbyniad hwn dan arweiniad Tywysog Cymru yn gyfle i ni hyrwyddo Cymru i’r byd ac i ddiolch i’r gymuned leol am eu croeso anhygoel.

Cynhelir yr Uwchgynhadledd yng Nghasnewydd, yng Ngwesty’r Celtic Manor ar 4 a 5 Medi 2014. Mae’n gyfle gwych i hoelio sylw’r byd ar Gymru sydd eisoes ag enw da iawn yn y sector masnachol – o weithgynhyrchu i arloesi, ac o wyddorau bywyd i cyber – a phrifysgolion ardderchog sy’n cyfrannu at hyn.

Gwahoddwyd chwe deg o wladweinyddion o aelod-wladwriaethau NATO, a chenhedloedd sy’n bartneriaid i NATO, i ddiwrnod agoriadol yr Uwchgynhadledd ac i’r derbyniad gyda’r nos.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Awst 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. Added translation

  4. First published.