Stori newyddion

Rhwydwaith ymchwil trafnidiaeth Caerdydd yn cael £1m o hwb ariannol gan Lywodraeth y DU i droi cerbydau’n wyrdd

£5m o hwb ariannol gan Lywodraeth y DU i ymchwil hollbwysig i awyrennau trydan, cerbydau â thanwydd hydrogen, a mannau pweru di-wifr

electric car

electric car

Rhoddir hwb heddiw (dydd Sadwrn, 24 Awst) i’r gwaith o ddatblygu awyrennau trydanol, ceir â thanwydd hydrogen a thechnoleg i lanhau cerbydau cludiant sy’n llygru – wrth i Lywodraeth y DU chwistrellu £5 miliwn i drafnidiaeth carbon isel.

Dewiswyd Caerdydd yn gartref i un o’r pum rhwydwaith ymchwil i drafnidiaeth newydd, sy’n cael eu lansio ledled y DU gyda’r dasg o ganfod atebion i lygredd trafnidiaeth. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, a bydd yn cyfuno arbenigwyr o’r byd academaidd a diwydiant, gan gynnwys Prifysgol Bryste ac Aston Martin, er mwyn canfod yr heriau sy’n wynebu datgarboneiddio. Gan adeiladu ar y bartneriaeth gynyddol rhwng dinasoedd yng ngorllewin Lloegr a de Cymru, bydd prifysgol y ddwy ochr i’r ffin yn cydweithio i arloesi gyda datrysiadau gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth, megis awyrennau trydanol a hybrid.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr i gyflawni ei hadduned o sicrhau dim allyriadau net erbyn 2050. Wrth i ni ymateb i’r her, mae’n wych gweld bod Caerdydd yn arwain yr ymchwil a’r gwaith o ddatblygu technoleg werdd.

Cafodd y rhwydwaith trafnidiaeth ei lansio yng Nghaerdydd, a bydd yn tanio’r twf a’r cynhyrchiant ar draws de Cymru, i roi hwb i’r economi ac i helpu i greu dyfodol mwy gwyrdd.

Dywedodd y Gweinidog Ynni a Thwf Glân, Kwasi Kwarteng:

Mae system drafnidiaeth fodern a datblygedig yn system sy’n cysylltu pobl a swyddi, ac mae’n hybu twf economaidd a chynhyrchiant. Ond gan mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am bron i chwarter y nwyon tŷ gwydr yn Ewrop, rhaid i’r diwydiant esblygu wrth i ni gymryd camau breision tuag at ein hadduned i sicrhau dim allyriadau net erbyn 2050.

Drwy gyfuno rhai o’r meddyliau disgleiriaf o bob cwr o’r DU, bydd y rhwydweithiau trafnidiaeth yn hybu’r gwaith o ddatblygu technolegau sy’n gallu glanhau ein systemau trafnidiaeth – er mwyn i ni allu seiclo, gyrru, a hyd yn oed hedfan, tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

Mae pob rhwydwaith wedi cael hyd at £1 filiwn o arian gan yr EPSRC (Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol), fel rhan o UKRI (Ymchwil ac Arloesi y DU) sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, Yr Athro Syr Mark Walport:

Trafnidiaeth sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau carbon deuocsid yn y DU. Ac yn fyd-eang, cyfraniad trafnidiaeth at allyriadau hinsoddol sy’n cynyddu gyflymaf.

Mae addasu ein systemau trafnidiaeth ar gyfer technolegau carbon isel yn hollbwysig i iechyd y blaned yn y dyfodol, a bydd y rhwydweithiau heddiw yn gwneud gwaith hanfodol i baratoi’r DU ar gyfer y trawsnewidiad hwn.

Mae’r rhwydweithiau arbenigol yn cynnwys ffigyrau blaenllaw o’r byd academaidd, y diwydiant, a’r sector cyhoeddus – ac mae pwerdai o’r sector preifat, megis Hyundai-Kia ac Aston Martin, yn ymuno â thimau prosiectau ledled y wlad. Mae’r partneriaid o’r sector cyhoeddus yn cynnwys yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Drafnidiaeth, Trafnidiaeth Llundain, Llywodraeth Cymru a’r Grid Cenedlaethol.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Dyma’r 5 rhwydwaith sy’n cael hwb ariannol:

Rhwydwaith-H2: Rhwydwaith ar gyfer Cludiant â Thanwydd Hydrogen

  • Dan arweiniad: Yr Athro Tony Roskilly, Prifysgol Durham
  • Bydd Rhwydwaith H2 yn rhannu ymchwil a gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth â thanwydd hydrogen – gyda’r potensial i ddarparu manteision amgylcheddol sylweddol.

Datgarboneiddio Cludiant y DU

  • Dan arweiniad: Dr Tristan Smith, Prifysgol UCL Llundain
  • Y nod yw datgloi buddsoddiad sylweddol ar gyfer datgarboneiddio cludiant, a bydd y rhwydwaith yn archwilio sut i lanhau cerbydau nwyddau trwm a cherbydau cludiant eraill – drwy ddefnyddio tanwydd a thechnolegau glân.

Datgarboneiddio Trafnidiaeth drwy Drydaneiddio, a Dull System Gyfan

  • Dan arweiniad: Yr Athro Liana Cipcigan, Prifysgol Caerdydd
  • Nod y rhwydwaith yw canfod yr heriau sy’n wynebu system drafnidiaeth drydanol traws-sector integredig – gan edrych ar rwydweithiau ynni, seilwaith pweru cerbydau trydan, awyrennau trydan a hybrid, a thrydaneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd.

NewJet Network+

  • Dan arweiniad: Dr Simon Blakey, Prifysgol Birmingham
  • Gan fod technoleg awyrennau carbon isel yn hollbwysig i ddyfodol y diwydiant a’r amgylchedd, bydd y rhwydwaith yn archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu’r gwaith o fabwysiadu tanwydd synthetig, carbon isel a manteision mabwysiadu’r tanwydd hwnnw ar gyfer awyrennau masnachol.

DecarboN8 – Rhwydwaith Integredig i Ddatgarboneiddio Trafnidiaeth

  • Dan arweiniad: Yr Athro Gregory Marsden, Prifysgol Leeds
  • Bydd y rhwydwaith yn ceisio cael atebion i gwestiynau ynglŷn â sut gall llefydd gwahanol gael eu troi’n sydyn i systemau trafnidiaeth carbon isel a sut i reoli’r trawsnewidiad hwnnw – gan hwyluso cydweithrediadau newydd a phrofi datrysiadau.

Gair am UKRI: Mae UKRI yn gorff sy’n gweithio mewn partneriaid â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau, a llywodraeth i greu’r amgylchedd gorau posibl lle gall ymchwil ac arloesi ffynnu. Ein nod yw gwneud y gorau o gyfraniad pob un o’n cydrannau, a hynny drwy weithio’n unigol a chydweithredol. Rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid er lles pawb drwy wybodaeth, dawn a syniadau. Mae UKRI yn weithredol ledled y DU, ac mae ganddo gyllideb sy’n fwy na £7 biliwn. Mae’n cyfuno Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau; Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol; y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol; y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; Innovate UK; y Cyngor Ymchwil Meddygol; Cyngor Ymchwil Amgylcheddau Naturiol; Research England; a’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau unigol, cysylltwch â James Giles-Franklin, Rheolwr Cyfryngau a Chyfathrebu UKRI, ar james.giles-franklin@ukri.org a 01793 234170.

Cyhoeddwyd ar 24 August 2019