Datganiad i'r wasg

Buddsoddwyr mewn Pobl yn dyfarnu safon Aur i grŵp CAN

Stephen Crabb: “Rhan allweddol o’n cynllun ar gyfer twf yw datblygu gweithlu medrus a deinamig yng Nghymru”

Mae cwmni peirianneg o Sir Benfro, sy’n cefnogi un o burfeydd olew mwyaf Cymru, wedi cael clod swyddogol am y ffordd y mae’n gofalu am ei staff.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi dyfarnu safon aur i CAN, y cwmni sy’n gyfrifol am wasanaethau archwilio yn Valero, i gydnabod arferion gorau o ran rheoli pobl.

Grŵp CAN yw un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau peirianneg, archwilio a chynnal a chadw ar draws y byd, ac mae wedi chwarae rôl allweddol yng ngweithrediad purfa Valero ers 2000.

Mae CAN yn cyflogi bron i 50 o bobl leol, ac mae’n cynnig rhaglen drawiadol i hyfforddeion, sy’n werth dros £20,000 y pen, swyddi gyda thâl da a rhagolygon da iawn o ran gyrfa, yn ogystal â’r cyfle i weithwyr fynd yn ôl i’r coleg ac i’r brifysgol ar sail cael eu rhyddhau am ddiwrnod bob wythnos. Dim ond 8% o’r cwmnïau hynny yng Nghymru sydd wedi ennill statws Buddsoddwyr mewn Pobl sy’n ennill y safon aur, sy’n golygu eu bod ymhlith y goreuon yn y wlad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a fydd yn dadorchuddio’r plac:

Rhan allweddol o’n cynllun ar gyfer twf yw datblygu gweithlu medrus a deinamig yng Nghymru.

Mae CAN yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cyflogwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi a hyfforddi eu staff. Diolch i’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu da sydd ar gael, mae ganddyn nhw weithlu hynod fedrus ac effeithiol erbyn hyn. Rwy’n falch eu bod nhw’n cael y gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu.

Mae’n bwysig fod cyflogwyr yng Nghymru’n anelu at sicrhau’r safonau gorau er mwyn i ni gynnal gweithlu sy’n gallu helpu cwmnïau i gystadlu yma a thramor.

Dywedodd Chris Davies, Rheolwr Contractau Grŵp CAN:

Mae’r ffaith fod Grŵp CAN ym Mhurfa Penfro wedi ennill achrediad Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn llwyddiant ysgubol i holl weithwyr CAN.

Mae CAN wedi cael y contract Gwasanaethau Archwilio a Mynediad â Rhaff yma ers pymtheg mlynedd. Rydyn ni’n falch o fod yn cyflogi bron i 50 o staff hynod fedrus yn y burfa – maen nhw’n cael cyfleoedd hyfforddi helaeth a rhagolygon gyrfa gwych.

Mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod y pwyslais cryf rydyn ni’n ei roi ar godi safonau a buddsoddi yn ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Is Lywydd Valero a Rheolwr Cyffredinol Purfa Penfro, Ed Tomp:

Mae Grŵp CAN yn rhan hanfodol o weithlu safle Valero, ac mae eu gwaith yn hynod o bwysig o ran sicrhau bod Purfa Penfro’n gweithredu’n ddiogel ac mewn ffordd ddibynadwy.

Mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i ennill achrediad Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn brawf o ba mor bwysig y mae’r diwydiant ynni’n ei gredu yw buddsoddi yn y gweithlu yng Nghymru, yn uniongyrchol a drwy’r gadwyn gyflenwi hanfodol sy’n cefnogi ein sector.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Sefydlodd Llywodraeth EM gynllun Buddsoddwyr mewn Pobl yn 1991 i helpu sefydliadau i gael y gorau o’u gweithwyr drwy hyrwyddo arferion gorau o ran rheoli pobl a rhoi’r adnoddau priodol i sefydliadau lwyddo.
  • Hyd yma, mae dros 15,000 o sefydliadau mewn 75 o wledydd, wedi ennill yr achrediad clodwiw – gan gynnwys sefydliadau yng Nghymru, sef y Bathdy Brenhinol a Lawson Civil Engineering & Utilities Ltd.
Cyhoeddwyd ar 25 June 2015