Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi’r prif arweinwyr busnes ar gyfer Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU

Arweinwyr busnes blaenllaw yn cefnogi Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014 yng Nghymru yr hydref hwn, a fydd yn ymchwilio i dechnolegau newydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyhoeddwyd heddiw (28 Hydref) y byddai Mark Elborne, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol GE yn y DU ac Iwerddon, Eben Upton, sylfaenydd Raspberry Pi a Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol Rhaglenni yn Airbus ymhlith y siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd.

Bydd yr arbenigwyr o’r diwydiant yn ymuno â’r Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a’r Arglwydd Livingston o Parkhead, y Gweinidog Gwladol dros Fasnach a Buddsoddi, yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar 21 Tachwedd. Y gynhadledd yw’r digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru ar ôl Uwchgynhadledd NATO, a gynhaliwyd yn yr un lle ym mis Medi.

Dywedodd y Gweinidog Masnach, yr Arglwydd Livingston:

Bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014 yng Nghymru yn dangos sut mae cwmnïau yn y DU yn defnyddio technolegau newydd i dyfu a denu buddsoddiad ledled y DU. Mae Cymru’n lleoliad gwych ar gyfer yr uwchgynhadledd, yn dilyn lefelau uwch nag erioed o fewnfuddsoddi yn y flwyddyn ddiwethaf a chynnydd o dros 5 y cant mewn allforion.

Mae’n galonogol gweld busnesau blaenllaw o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn cefnogi’r digwyddiad hwn, sy’n adeiladu ar waddol Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi. Gadewch i ni ddangos i’r byd pa mor WYCH yw Cymru a gweddill y DU ar gyfer busnes.

Y llynedd, denodd Cymru fuddsoddiad mewn 79 o brosiectau, cynnydd o 12 ar y flwyddyn flaenorol, a llwyddodd i ddiogelu neu greu 10,441 o swyddi. Buddsoddiadau unigol yng Nghymru, ar gyfartaledd, gafodd yr effaith fwyaf ond un o ran creu neu ddiogelu swyddi, sef 132 fesul prosiect. Roedd hyn y tu ôl i brosiectau a oedd yn effeithio ar amryfal ranbarthau yn y DU yn unig.

Mae ffigurau’n dangos mai Gofal Iechyd a Meddygol yw’r sectorau sy’n perfformio orau, gyda naw prosiect, yna deunyddiau, gydag wyth a cherbydau a pheirianneg, y ddau gyda chwech. Y pum prif bartneriaid buddsoddi ar gyfer Cymru oedd UDA, yr Almaen, Japan, Canada a’r Eidal.

Bydd rôl technoleg a sut mae’n gweithio o fewn y sectorau hyn, ac eraill, yn cael ei hystyried a’i thrafod yn yr Uwchgynhadledd. Bydd pynciau’n cynnwys rhagweld technoleg a masnacheiddio, y potensial i fusnesau ym maes seiberddiogelwch a datblygu modelau newydd o ryngweithio’n academaidd ac o ran busnes.

Bydd yr Uwchgynhadledd yn adeiladu ar gynnydd diweddar yng Nghymru a’r DU yn ehangach, lle cofnodwyd y ffigurau uchaf erioed, sef 1,773 o brosiectau, a chrëwyd 66,390 o swyddi y llynedd. Bydd yn fforwm i rannu arbenigedd a chyfnewid syniadau am dueddiadau buddsoddi, cyfleoedd a sut mae adeiladu ar y manteision a ddaw i ran cwmnïau sy’n defnyddio technolegau newydd.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru:

Mae lefelau mewnfuddsoddi yng Nghymru’n uwch nag erioed nawr. Bydd y digwyddiad yng Nghasnewydd y mis nesaf yn gyfle gwych i adeiladu ar ein llwyddiant a hybu Cymru fel y lle ar gyfer buddsoddiadau tramor o ansawdd.

Bydd yr uwchgynhadledd yn dod â dros 250 o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnesau a gweinidogion at ei gilydd, a bydd yn adeiladu ar y sylw a gafodd Cymru yn ystod uwchgynhadledd NATO, a bydd yn ffenestr siop fyd-eang ar gyfer sgiliau ac arloesedd yng Nghymru.

Bydd busnesau o bob cwr o’r byd yn ffurfio partneriaethau masnachol rhyngwladol newydd ac yn datblygu ac yn ehangu rhwydweithiau byd-eang yn yr Uwchgynhadledd. Bydd yn cysylltu buddsoddwyr ag uwch lunwyr penderfyniadau o gwmnïau, gan newid y ffordd rydym yn cynnal busnes.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Cymru’n gartref i rai o’r cynnyrch a’r gwasanaethau mwyaf arloesol yn y byd. Rydym yn magu enw da am ein gweithlu medrus a’n entrepreneuriaid dyfeisgar, talentog sy’n dda gyda thechnoleg.

Fel rhan o’n cynllun economaidd hirdymor i roi hwb i economi Cymru, bydd yr Uwchgynhadledd hon yn dangos i arweinwyr busnes byd-eang pam y mae Cymru’n wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.

Bydd areithiau, sesiynau panel, astudiaethau achos a sesiynau rhwydweithio ar gael yn y gynhadledd a bydd yn helpu i ysgogi gwaddol economaidd parhaol i Gymru a thu hwnt.

Cyhoeddwyd ar 28 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.