Datganiad i'r wasg

Hwb i ddiwydiant cyfryngau Cymru gyda chyllid arloesi o £22.2m

Y gobaith yw y bydd 2,000 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ardal Caerdydd gyda chyllid sylweddol fel rhan o Strategaeth Arloesi Llywodraeth y DU.

  • Hwb o £22.2m i media.cymru i wneud prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu ym maes y cyfryngau
  • Gallai’r cyllid greu 2,000 o swyddi newydd ac ychwanegu £236 miliwn at yr economi leol
  • Mae’r buddsoddiad yn rhan o Strategaeth Arloesi’r llywodraeth, a lansiwyd heddiw (22 Gorffennaf), gan nodi cynlluniau i wneud y DU yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi erbyn 2035

Gellid creu dwy fil o swyddi newydd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd, gan fod llywodraeth y DU heddiw (22 Gorffennaf) wedi dyfarnu £22.2 miliwn i media.cymru i wneud y rhanbarth yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi a chynhyrchu yn y cyfryngau.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod â 24 o bartneriaid ym maes cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol at ei gilydd am y tro cyntaf i wella arloesedd yn y cyfryngau.

Gan adeiladu ar sylfeini llwyddiannus, bydd y rhaglen yn sbarduno twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a £236 miliwn ychwanegol mewn gwerth ychwanegol gros erbyn 2026. Ar draws pum mlynedd, nod y rhaglen yw creu mwy o gwmnïau arloesol yn y rhanbarth a bron treblu cyfradd twf cynhyrchiant y rhanbarth, gan arwain at 2,000 o swyddi newydd.

Mae gweithgareddau’r rhaglen wedi’u cynllunio i ymateb i dechnolegau newydd, cynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Bydd media.cymru yn datblygu atebion i heriau a chyfleoedd i sector cyfryngau Cymru mewn meysydd fel: cynaliadwyedd; cynhyrchu dwyieithog; amrywiaeth a chynhwysiant; twristiaeth a thechnoleg.

Bydd hefyd yn darparu seilwaith newydd, gan gynnwys stiwdio rithiol o safon, a phiblinell arloesi/ ymchwil a datblygu sy’n galluogi’r syniadau gorau i fod yn gynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn barod ar gyfer y farchnad.

Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Mae media.cymru yn un o’r pum prosiect ymchwil ac arloesi mawr a gyhoeddwyd heddiw fel rhan o’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd. Mae pob un yn cyfuno arbenigedd diwydiant, arweinyddiaeth leol ac ymchwil ac arloesi i helpu i wneud y gorau o botensial ardal a sbarduno cynhyrchiant.

Bydd y prosiectau’n cael cyfran o £127m o gyllid gan y llywodraeth drwy’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd ac, o ganlyniad, byddant yn denu dros £110m gan sefydliadau ymchwil, busnesau ac arweinwyr lleol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae ardal Caerdydd wedi hen ennill ei phlwyf fel canolfan flaenllaw ym maes cynhyrchu’r cyfryngau, arloesi a’r diwydiannau creadigol.

Bydd y gefnogaeth sylweddol hon gan Lywodraeth y DU yn helpu i ddatblygu’r rhanbarth ymhellach, gan arwain at greu swyddi a thwf mewn cyfryngau Cymraeg a Saesneg a chreu canolfan greadigol wirioneddol fyd-eang i Gymru.

Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, Amanda Solloway:

Fel man geni’r gell tanwydd a’r radar, mae Cymru wastad wedi bod wrth galon arloesi. Mae’r prosiect hwn gan media.cymru, sy’n dod ag academyddion, llywodraeth leol a’r cyfryngau at ei gilydd i sbarduno arloesedd yn y cyfryngau am y tro cyntaf, yn dangos bod yr ysbryd hwn yn fyw ac rydym yn falch o’i gefnogi.

Mae’r buddsoddiad hwn o £22.2 miliwn yn rhan o Strategaeth Arloesi Llywodraeth y DU rydym ni wedi’i chyhoeddi heddiw, sy’n amlinellu sut rydym ni’n bwriadu rheoli sgiliau a dyfeisgarwch ym mhob cwr o’r DU er mwyn cadarnhau ein statws Gwyddoniaeth fyd-eang.

Hefyd, cyhoeddwyd heddiw brosiect gwerth £8.3 miliwn dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bp, Johnson Matthey a Phrifysgol Manceinion i ddatblygu catalyddion newydd i helpu’r DU i symud tuag at ddyfodol sero-net cynaliadwy.

Bydd y catalyddion newydd hyn yn cael eu hysbrydoli gan natur a byddant yn troi biomas, gwastraff a charbon deuocsid cynaliadwy yn gynnyrch gwerthfawr fel tanwyddau ac ireidiau, gan sicrhau manteision economaidd mawr yn ogystal â lleihau allyriadau carbon.

Mae’r prosiect Partneriaeth Ffyniant yn cael ei ariannu gan grant gwerth £2.6 miliwn gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol UKRI (EPSRC) a £5.7 miliwn gan bartneriaid.

Mae’r ddwy fenter yn rhan o Strategaeth Arloesi newydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd heddiw, sy’n cyflwyno gweledigaeth hirdymor i roi arloesedd wrth galon adeiladu’n ôl yn well a lefelu’r economi.

Wedi’i gyhoeddi yn y Cynllun ar gyfer Twf fis Mawrth diwethaf, mae’n ceisio cefnogi busnesau i gynyddu eu buddsoddiad mewn arloesi. Mae hyn yn hanfodol i hybu cynhyrchiant a chreu swyddi ym mhob un o wledydd y DU.

Cyhoeddwyd ar 26 July 2021