Datganiad i'r wasg

Hwb i fusnesau gyda chanolfan ddigidol newydd a rhyngrwyd cyflym iawn

Stephen Crabb: "Arian llywodraeth yn DU yn gweld mwy o fusnesau bach yn elwa o band eang ffibr cyflym iawn"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
fibre optic

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn ymweld â chanolfan ddigidol newydd Caerdydd heddiw (dydd Iau, 3 Ebrill) er mwyn tynnu sylw at y cyllid sylweddol y mae llywodraeth y DU yn ei gyfrannu at fusnesau bach, fel eu bod yn cael defnyddio rhyngrwyd cyflym iawn. Bydd y Gweinidog yn gweld ‘Canolfan Arddangos Ddigidol’ Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Ddinas – y cyntaf o’i bath yng Nghymru.

Mae’r ganolfan yn gweithredu cynllun talebau cyswllt y cyngor – darpariaeth gan lywodraeth y DU – gyda thalebau sy’n werth hyd at £3,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig i dalu costau gosod band eang cyflym iawn o ansawdd uwch.

Mae’r ganolfan yn cynnwys y dechnoleg manylder uwch ddiweddaraf, gan gynnwys peiriannau argraffu 3D, byrddau sgrin cyffwrdd a chyfleusterau cynadledda, ac mae’n golygu bod busnesau’n gallu gweld yn uniongyrchol sut gallant elwa o’r dechnoleg a’r offer newydd sydd ar gael drwy fand eang cyflym iawn.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad, dywedodd y Gweinidog, Stephen Crabb:

“Mae gan Gaerdydd weithlu hynod fedrus a ffynhonnell gyfoethog o dalent entrepreneuraidd, sy’n denu buddsoddiad o bob cwr o’r DU a’r byd.
“Rydw i’n hynod falch o weld y bydd mwy o fusnesau bach nag erioed o’r blaen yng Nghaerdydd yn gallu elwa nawr o ryngrwyd eithriadol gyflym, diolch i gyllid gan lywodraeth y DU, a byddant yn gallu gwneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf un i ddenu rhagor o gwsmeriaid ac i sbarduno twf.

“Gwnaed hyn yn bosib drwy gyfrwng y £150 miliwn rydyn ni wedi’i fuddsoddi mewn dinasoedd cyswllt uwch ledled y DU – gan gynnwys £10.2 miliwn ar gyfer Caerdydd. Mae Casnewydd wedi cael cyllid hefyd ac mae’r ddwy ddinas yn buddsoddi’r arian mewn diweddaru eu seilwaith digidol ac i dalu am dalebau cyswllt band eang i fusnesau.

“Bydd y buddsoddiad yma’n galluogi Caerdydd a Chasnewydd i gystadlu â phrif ddinasoedd digidol y byd ac yn eu gwneud yn gystadleuol yn y ras fyd-eang.”

Anogir busnesau bach i wneud cais am dalebau cyswllt band eang fel eu bod yn gallu elwa ar y manteision a gynigir gan fand eang cyflym iawn.
Caiff busnesau gofrestru gyda Chynllun Talebau Cyswllt Digidol Cyngor Caerdydd ar [www.digitalcardiff.net] (www.digitalcardiff.net)

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb am Ddatblygu Economaidd:

“Mae’r cyngor yn croesawu’r Gweinidog i’r ddinas, i ddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud er mwyn meithrin gallu busnesau i fod yn rhan o farchnadoedd byd-eang, a gwerthu’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru i’r byd. “Mae Caerdydd yn gartref i ganran uwch o gwmnïau sy’n datblygu’n gyflym – neu ‘gazelles’ fel maent yn cael eu galw – nag unrhyw ddinas arall yn y DU. Heb fand eang cyflym iawn, ni fyddai nifer o’r cwmnïau hyn yn sefydlu yma.

“Mae Caerdydd eisoes yn un o’r dinasoedd sydd â’r cyswllt digidol gorau ym Mhrydain, gyda chanran uwch o gartrefi’n gallu cael band eang cyflym iawn o gymharu ag unrhyw ddinas graidd allweddol arall yn y DU.

“Bydd y buddsoddiad yma o £10.2m yn adeiladu ar y sefyllfa gadarn hon ac yn dod yn rhan greiddiol o’n huchelgais ni i gryfhau economi’r ddinas yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rydyn ni’n annog yr holl fusnesau sy’n gymwys i gael y grant hwn i wneud ymholiadau gyda’r cyngor cyn gynted â phosib.”

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Fe hoffwn i annog y busnesau lleol i wneud defnydd o ganolfan ddigidol ragorol Caerdydd a chofrestru gyda’r cynllun talebau. Mae nid yn unig yn cynnig gwerth rhagorol am arian ond hefyd mae’n golygu y gall busnesau fod yn rhan o farchnadoedd byd-eang, creu swyddi a rhoi hwb i dwf.”

Hefyd, mae llywodraeth y DU wedi buddsoddi £69 miliwn yn y prosiect Superfast Cymru, a fydd yn darparu band eang cyflym iawn i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn gwanwyn 2016. Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod mwy na 690,000 o eiddo yng Nghymru yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn – eiddo a fyddai wedi bod ar ôl yr oes fel arall yn y maes digidol, heb y cynllun hwn.”
Heddiw (dydd Iau, 3ydd Ebrill) hefyd, bydd y Gweinidog yn cadeirio pedwerydd cyfarfod y gweithgor seilwaith ar delegyfathrebu yng Nghymru.

Bydd aelodau’r grŵp, gan gynnwys cynrychiolwyr cwmnïau ffonau symudol mawr, yn trafod y genhedlaeth nesaf o seilwaith digidol yng Nghymru a sut gall Llywodraeth y DU helpu busnesau i fanteisio ar fand eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2014