Datganiad i'r wasg

Gall Cymunedau Ledled Cymru Wneud Cais Am Arian Codi'r Gwastad I Achub Tafarndai, Clybiau Ac Adeiladau Hanesyddol

Ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gwerth £150 miliwn yn agor i gannoedd o leoedd yng Nghymru a ledled y DU

Heddiw (11 Mehefin), gall grwpiau cymunedol ledled Cymru wneud cais am arian codi’r gwastad i reoli tafarndai, lleoliadau cerddoriaeth, cyfleusterau chwaraeon ac adeiladau hanesyddol er budd y cyhoedd.

Bydd grwpiau’n gallu gwneud cais am gyfran o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol £150 miliwn Llywodraeth y DU i achub adeiladau diwylliannol yn eu hardal a allai fel arall gael eu colli am byth, wrth i’r ail gylch ariannu agor heddiw.

Mae’r cylch ariannu cyntaf eisoes wedi helpu pobl leol i drawsnewid eu cymunedau’n lle mwy dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, gan gefnogi 39 o brosiectau ledled y DU, gyda thri o’r prosiectau hynny yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys ailddatblygu Ystafell Ddawnsio’r Frenhines yn Nhredegar gyda chefnogaeth £90,000 o gyllid codi’r gwastad Llywodraeth y DU. Bydd yr Ystafell Ddawnsio yn gartref i Academi Ffilm Blaenau Gwent – rhaglen wedi’i hariannu’n llawn sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc 7-18 oed ddysgu rhai o’r sgiliau sylfaenol ar gyfer gweithio yn y diwydiant ffilm. Mae’r rhaglen yn dysgu ystod gyffrous o sgiliau i bobl ifanc lleol gan gynnwys cyflwyno, ffilmio ac ysgrifennu sgriptiau.

Bydd newidiadau i’r gronfa a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mai yn sicrhau ei bod yn fwy cynhwysol a hyblyg, fel y gall mwy o gymunedau elwa a bod mwy o economïau lleol yn cael eu cefnogi.

Meddai Neil O’Brien AS, y Gweinidog dros Godi’r Gwastad, yr Undeb a’r Cyfansoddiad:

Rydym am helpu cymunedau ledled Cymru i achub y tafarndai, clybiau chwaraeon ac adeiladau hanesyddol sydd bwysicaf iddynt, ac a fyddai fel arall mewn perygl o gael eu colli am byth.

Mae hyn yn rhan o’n cynllun i ledaenu cyfleoedd, rhoi hwb i falchder lleol a chodi’r gwastad ym mhob cwr o’r DU tra’n hybu twf economaidd i fynd i’r afael â chostau byw.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae dros 170 o brosiectau yng Nghymru eisoes wedi elwa o dros £160 miliwn o gronfeydd codi’r gwastad newydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer popeth o brosiectau adeiladu mawr fel y cynllun i adfywio glan y môr yn Aberystwyth, i alluogi pobl leol i brynu eu tafarn hanesyddol yn Llandwrog ger Caernarfon.

Mae’r Gronfa Berchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, gan adnewyddu ac adfywio’r lleoedd hynny sy’n clymu ein cymunedau gyda’i gilydd. Rwy’n gobeithio gweld ceisiadau o bob rhan o Gymru ar gyfer y rownd nesaf hon o arian.

Meddai Kevin Phillips, Prif Swyddog Gweithredol a rheolwr prosiect Cymru Creations:

Mae Ystafell Ddawnsio’r Frenhines yn ased pwysig a hanesyddol i’n cymuned. Rydym wrth ein bodd yn ei hachub rhag dirywiad a’i hadfer i’w hen ogoniant.

Ein prif ffocws yw darparu hwb yn Nhredegar lle gall pawb ddod at ei gilydd, cymdeithasu a defnyddio’r lle mewn ffyrdd sydd o fudd i’n cymuned leol.

Mae’r cyllid wedi ein galluogi i ymgysylltu â mwy o bobl ifanc a phobl o ardaloedd cyfagos mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

Mae’r gronfa wedi’i diweddaru i ehangu’r meini prawf cymhwysedd, gan gynnwys dileu’r gofyniad bod asedau wedi cael eu defnyddio o fewn y 5 mlynedd diwethaf a bydd yn awr yn ystyried unrhyw ased sydd wedi cael ei ddefnyddio’n flaenorol gan y gymuned, gan ehangu’n aruthrol y prosiectau sy’n gymwys i wneud cais. Byddai ymgeiswyr sydd ag isafswm prydles 15 mlynedd ar ased hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid. Yn flaenorol, cyfyngwyd prydlesi i isafswm o 25 mlynedd.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhan o uchelgais y llywodraeth i godi’r gwastad mewn cymunedau lleol ledled y wlad, creu mwy o swyddi lleol, rhoi hwb i fusnesau lleol a datblygu economïau lleol o ganlyniad.

  • Gellir gweld rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi eu cyllido yma.
  • Gall ymgeiswyr fynegi diddordeb yma.
Cyhoeddwyd ar 14 June 2022