Datganiad i'r wasg

Gwaith y Farwnes Randerson yn cael ie gydnabod gan Gyngor Moslemaidd Cymru

Cydnabod Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson am ei gwasanaethau i gysylltiadau rhyng-ffydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cyngor Moslemaidd Cymru wedi penderfynu y bydd y gweinidog yn derbyn Gwobr Llwyddiant ar gyfer 2015, i gydnabod ei gwasanaethau i gysylltiadau rhyng-ffydd, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Bydd y gweinidog yn derbyn ei gwobr yng nghinio’r Cyngor i ddathlu Wythnos Cytgord Rhyng-ffydd y Byd y Cenhedloedd Unedig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Mercher 4 Chwefror 2015. Mae’r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a’r Cardinal Cormac Murphy O’Connor wedi derbyn y wobr yn y gorffennol.

Mae hwn yn ddigwyddiad hanesyddol gan mai’r Prif Rabi Mirvis Ephraim, 11eg Prif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig y Gymanwlad, fydd un o’r siaradwyr gwadd. Bydd y diwinydd Islamaidd, Shaykh Asim Yusuf, yn un o’r siaradwyr gwadd hefyd.

Mae’r gymuned Foslemaidd wedi datgan bod ei dyled yn fawr i’r gweinidog am ei hymrwymiad, ei hymroddiad a’i brwdfrydedd dros y blynyddoedd ac mae’n gwerthfawrogi ei chyfraniad i gytgord rhyng-ffydd.

Wrth glywed y newyddion am ei gwobr, dywedodd y Farwnes Randerson:

Rwy’n teimlo’n ffodus ac yn falch iawn o gael fy anrhydeddu fel hyn. Mae ceisio sicrhau cytgord rhwng pob ffydd yn bwysig os ydyn ni am fyw mewn byd heddychlon, ac rwyf wastad wedi cefnogi cydweithredu a goddefgarwch.

Mae derbyn anrhydedd am yr hyn rwy’n credu ynddo wedi cyffwrdd a’m calon.

Cyhoeddwyd ar 4 February 2015