Stori newyddion

Y Farwnes Randerson yn pwysleisio bod rhaid i Gymru ffrwyno ei photensial ynni unigryw ac arwain y byd mewn arloesi

Mae’r Farwnes Randerson yn cynrychioli Llywodraeth y DU heddiw (15 Rhagfyr 2014) wrth gyflwyno araith bwysig ar y polisi ynni yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd uwchgynhadledd y Polisi Ynni yng Nghymru, sy’n cael ei chynnal yng Ngwesty’r Angel yn Nghaerdydd, yn trafod dyfodol ynni yng Nghymru, gan gynnwys safle arfaethedig Wylfa, a chynhyrchu ynni gwynt, solar a morol.

Dywedodd y Farwnes Randerson, wrth gydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol enfawr y sector, a’r angen am ddiogelu ei ddyfodol:

Mae ynni’n sbarduno ein heconomi a’n ffordd o fyw – os na allwn ni gadw’r golau ymlaen, y cyfrifiaduron yn rhedeg, a’n cartrefi a’n swyddfeydd yn gynnes, does fawr ddim arall yn cyfrif.

Heb gyflenwad ynni dibynadwy ar gyfer y dyfodol, bydd ein hymdrechion i gyrraedd targedau sy’n ein clymu’n gyfreithiol i roi sylw i newid hinsawdd, neu gadw costau dan reolaeth, yn dod yn llawer llai pwysig.

Tynnodd sylw at bwysigrwydd newid a’r cyfleoedd mae hyn yn eu cynnig i Gymru yn ogystal â’r angen am fwy o gydweithredu rhwng y Llywodraeth a’r Sector Preifat er mwyn sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r sector yng Nghymru, gan ddweud:

O fentrau ynni adnewyddadwy cymunedol ar raddfa fechan i Wylfa Newydd a lagwnau llanwol, rydw i am i Gymru, unwaith eto, fod yn arweinydd byd am gyflenwi ynni ac am weithgynhyrchu’r dechnoleg mae hynny ei hangen.

Lle’r sector preifat yn awr – cwmnïau fel chi sydd yma heddiw – ydi parhau i wynebu’r her, arloesi a dangos bod Cymru’n gallu arwain y byd.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2014