Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Randerson yn dynodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â chyrchfannau i dwristiaid Casnewydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Baroness Randerson launches Wales Tourism Week 2014

Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, wedi rhoi cychwyn heddiw (25 Chwefror) i ‘Wythnos Twristiaeth Cymru’ gydag ymweliadau â’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn ne Cymru.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2014 (22 Chwefror - 2 Mawrth) yn wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu ac arddangos bwrlwm a safon profiadau ymwelwyr a gwerth y diwydiant twristiaeth i economi Cymru.

Teithiodd y Farwnes Randerson i Gasnewydd lle bu’n ymweld ag Amgueddfa’r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion cyn cael ei hebrwng o amgylch Tŷ Tredegar un o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o’r ail ganrif ar bymtheg.

Daw’r ymweliadau hyn yn ystod blwyddyn pan fydd llygaid y byd ar Gymru, wrth i Westy’r Celtic Manor baratoi i groesawu arweinwyr y byd i Uwch Gynhadledd NATO 2014. Bydd y Farwnes Randerson yn achub ar y cyfle i dynnu sylw at y mathau o atyniadau i dwristiaid y bydd cynadleddwyr yn gallu eu gweld pan fydd yr Uwch Gynhadledd yn dechrau ym mis Medi eleni.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

O dan do ac yn yr awyr agored, mae gan Gymru gyfoeth o atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau gwych i ymwelwyr. Mae ein hamrywiaeth o atyniadau diwylliannol a threftadaeth gyda’r gorau yn y byd gan gynnwys tri pharc cenedlaethol, tri safle Treftadaeth y Byd UNESCO, y Llwybr Arfordirol Cenedlaethol a nifer o leoliadau chwaraeon ac adloniant.

Bydd NATO yn cynnig cyfleoedd gwych i hyrwyddo Cymru i’r byd. Rhaid i ni sicrhau bod pawb sy’n ymweld â hi yn mynd yn ôl adref gyda neges glir ynghylch popeth sydd gan Gymru, ei phobl a’i thirwedd nodedig i’w gynnig i weddill y byd.

Bu’r Farwnes Randerson yn ymweld ag Amgueddfa’r Lleng Rufeinig yng Nghaerllion lle bu Rheolwr yr Amgueddfa, Dai Price, yn ei harwain ar daith o amgylch y safle sy’n ymchwilio, yn gwarchod ac yn arddangos hanner miliwn o wrthrychau sydd â phwysigrwydd rhyngwladol o weddillion caerau Rhufeinig ar draws de Cymru.

Cafodd yr amgueddfa ei hadeiladu yn 1850 a daeth yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1930 ac mae’n cartrefu un o’r casgliadau mwyaf o emfeini a ganfuwyd yn unrhyw le yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Dywedodd Dai Price, Rheolwr Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig:

Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael croesawu’r Farwnes Randerson yma heddiw i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru. Mae saith safle Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Amgueddfa’r Lleng Rufeinig, yn chwarae rhan hollbwysig o ran denu twristiaid rhyngwladol i Gymru ac rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael y profiad gorau yn ein hamgueddfeydd.

Teithiodd y Farwnes Randerson ymlaen wedyn i Dŷ Tredegar lle cafodd ei hebrwng o amgylch yr adeilad o’r ail ganrif ar bymtheg a’i erddi gyda Chyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert a Rheolwr Cyffredinol Tŷ Tredegar, Joanna Cartwright.

Ers iddo agor ei ddrysau pan ddaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano ar 19 Mawrth 2012, mae Tŷ Tredegar wedi croesawu dros 100,000 o ymwelwyr ac wedi recriwtio dros 1,000 o aelodau newydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Justin Albert:

Mae Cymru yn wlad neilltuol sydd â nifer o leoliadau arbennig o fewn ei ffiniau. Y llynedd cafwyd hwb mawr i dwristiaeth yng Nghymru - roedd ymweliadau â Chymru gan dwristiaid o fannau eraill yn y DU wedi neidio bron i wyth y cant yn ystod naw mis cyntaf 2013 - ac mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar hynny ar gyfer Tîm Cymru.

Mae’r nifer o bobl sy’n ymweld â ni mewn lleoliadau fel Tŷ Tredegar yn dangos y diddordeb a’r potensial sydd ar gael. Bydd cydweithio i hyrwyddo hynny er budd pob un ohonom ni yn sector twristiaeth Cymru.

Ychwanegodd y Farwnes Randerson:

Er fy mod i’n gwybod eisoes am lawer o lefydd gwych i ymweld â nhw yng Nghymru – a minnau wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers dros 40 mlynedd, rydw i bob amser yn croesawu’r cyfle i siarad â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant, i glywed am yr her sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Mae twristiaeth yn bwysig iawn yng Nghymru. Yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mae’r sector yn cynhyrchu £6 biliwn bob blwyddyn ac yn cefnogi dros 200,000 o swyddi yng Nghymru. Yn ystod tri chwarter cyntaf 2013, daeth 702,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario £289miliwn.

Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gael cipolwg o’r hyn y bydd ymwelwyr o gartref ac o dros y môr yn gallu eu gweld os byddant yn manteisio ar y cyfle i ymweld â Chymru eleni.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 22 Chwefror a 02 Mawrth 2014

  2. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, llais y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn cydlynu Wythnos Twristiaeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r diwydiant. Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru bob blwyddyn i godi proffil y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a thynnu sylw at ba mor werthfawr ydyw o ran cynhyrchu incwm a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno ar gyfer swyddi a gyrfaoedd.

  3. Yn 2012, lansiodd VisitBritain ei raglen fwyaf uchelgeisiol ers deg mlynedd ar gyfer marchnata twristiaeth: “GREAT Britain You’re invited”. Nod yr ymgyrch yw dangos i’r byd bod Prydain ar agor i fusnes; ei fod yn lle gwych i ymweld ag o, i fyw ynddo ac i fuddsoddi ynddo.

  4. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 24 February 2014