Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Randerson yn edrych ar Ynni, Addysg a menywod entrepreneuraidd yng ngorllewin Cymru

Ynni, Addysg a menywod entrepreneuraidd i gyd yn hollbwysig i economi sy’n gadarn ac sy’n ffynnu, yn ôl y Farwnes Randerson wrth ymweld â Gorllewin Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ynni

Yn dilyn ei haraith gerbron Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru wythnos diwethaf lle’r oedd yn datgan y gallai Cymru arwain y ffordd yn y DU o ran datblygiadau ynni, wythnos yma bydd Gweinidog Swyddfa Cymru yn atgyfnerthu ei rôl ymhellach yn niwydiant ynni Cymru.

Bydd y Farwnes Randerson, sy’n aelod o’r tasglu sy’n mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar ei gyn-weithwyr, yn ymweld â Murco, y cwmni olew yn Aberdaugleddau. Bydd hi hefyd yn trafod rhoi cefnogaeth gadarn mewn lle ar gyfer y cyn-weithwyr â chadeirydd y tasglu.

Bydd y Farwnes Randerson wedyn ymweld â’r cwmni olew enfawr Valero i gael taith o amgylch y safle ac mae’n arbennig o frwdfrydig ynghylch cwrdd â’u prentisiaid.

Dywedodd y gweinidog:

Mae’r sector ynni olew yn bwysig i economi Cymru – yn draddodiadol mae wedi darparu swyddi mewn ardaloedd sy’n fwy gwledig ac, yn rhyngwladol, mae’n codi ein proffil ac yn creu cysylltiadau masnachu ar gyfer ein gwlad ym mhedwar ban byd sydd, maes o law, yn rhoi hwb i’r economi. Mae strategaeth ddiwydiannol llywodraeth y DU i roi hwb i economi y DU a Chymru yn un gadarn a bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddiwydiant yng Nghymru.

Rwyf yn falch iawn o gael bod yma yn cwrdd â phrentisiaid yn Valero heddiw. Mae Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd gyrfa tymor hir i bobl dalentog sy’n gweithio’n galed ac mae prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc sy’n fodlon gweithio’n galed.

Addysg

Bydd y Gweinidog yn ymweld â champws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Benfro yn Hwlffordd. Mae’r ddau sefydliad yn chwarae rhan werthfawr wrth ddenu myfyrwyr i’r ardal a, gyda’u cyfleoedd academaidd a galwedigaethol, maen nhw’n rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn academaidd.

Yng Ngholeg Sir Benfro bydd hi’n mynd o amgylch eu hadran peirianneg newydd gyda’i hystafell rhith reoli, sydd wedi’i dylunio i hyfforddi peirianwyr y dyfodol:

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae cynigion addysgol arloesol fel yr un difyr yma gyda’i dechnoleg flaengar yn ein rhoi mewn sefyllfa i gystadlu â cholegau ar draws y byd. Rwyf yn arbennig o awyddus i weld mwy o fenywod ifanc yn dewis gyrfaoedd mewn pynciau peirianneg a thechnoleg ac yn astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bydd y math hwn o arloesedd yn eu denu i astudio yma ac, maes o law, yn rhoi hwb i economi’r ardal.

Menywod mewn busnes yng Nghymru wledig

Bydd y Farwnes Randerson, rhywun sydd wedi ennill enw da am eiriol dros hawliau menywod ac sy’n ymgyrchydd dros roi diwedd ar anffurfio organau cenhedlu benywod, hefyd yn bresennol mewn sesiwn bwrdd crwn anffurfiol yn Valero i drafod swyddi yn y diwydiant i fenywod. Bydd hefyd yn ymweld â Fferm Geifr Chuckling Goats ym Mrynhoffnant y tu allan i Landysul, menter lwyddiannus sy’n cael ei rhedeg gan Shann Jones a gafodd ei geni yn America. Mae’r fenter yn cynhyrchu colur enwog sydd wedi’i seilio ar laeth geifr ac sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd.

Dywedodd y Gweinidog:

Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ein gwarthaf, 8 Mawrth, rwyf yn arbennig o falch o allu cefnogi menywod mewn busnes yn y sesiwn bwrdd crwn - a gweld hynny ar waith. Mae menywod fel Shann yn ysbrydoliaeth i eraill ac yn enghraifft o fenywod busnes llwyddiannus yn creu swyddi sy’n rhoi hwb i’r economi. Mae creu swyddi wrth galon adeiladu economi sy’n gryfach ac yn fwy gwydn ac mae menywod yn gallu creu swyddi ac fe ddylen nhw fod yn gwneud hynny hefyd.

Ychwanegodd Shann Jones:

Mae’r geifr – a’r bobl – yn Chuckling Goat yn falch o groesawu’r Farwnes Randerson i’n tyddyn. Fel busnes bach sy’n seiliedig ar arloesi ac arallgyfeirio fferm, rydyn ni bob amser wedi edmygu cefnogaeth gref y gweinidog at fenywod mewn busnes. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael dangos ein ffatri sebon newydd sbon, ein siop a’n swyddfa - yn ogystal â’r ysguboriau hefyd wrth gwrs.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2015