Stori newyddion

Y Farwnes Randerson yn galw ar y diwydiant adeiladu i ddefnyddio ynni'n ddoeth ac yn effeithlon

Heddiw, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, yn pwysleisio’r angen i’r diwydiant adeiladu ddefnyddio ynni’n ddoeth ac yn effeithlon.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cymru’n parhau i greu amgylchedd adeiledig gwyrddach – mewn cartrefi ac mewn gweithleoedd – er mwyn arbed arian i bobl yn y pen draw.

Dyma fydd ei phrif neges wrth iddi annerch Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru heddiw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan RenewableUK Cymru, yn gyfle i dros 100 o bobl glywed gan arbenigwyr am yr heriau a’r cyfleoedd y mae busnesau ac unigolion yn eu hwynebu o ran gwneud adeiladau’n wyrddach a sicrhau eu bod yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Bydd y materion a gaiff sylw’n cynnwys yr heriau i’r sector cyhoeddus o ran cyflawni addasiadau arbed ynni ar adeiladau ar raddfa fawr, sut mae cael gwelliannau a gwaith adnewyddu gwyrdd yn eich cartref yn iawn y tro cyntaf, a chyngor i landlordiaid am y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.

Dywedodd y Farwnes Randerson: > > Mae ynni’n effeithio ar ein bywydau ni i gyd - mae angen ynni arnon ni i gadw’n cartrefi a’n swyddfeydd yn gynnes, ac i gael golau. > > Dyna pam mae Marchnad Adeiladu Gwyrdd Cymru mor bwysig. Mae angen i’r Llywodraeth, prifysgolion, hyrwyddwyr amgylcheddol a’r diwydiant adeiladu weithio gyda’i gilydd i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hynni’n ddoeth ac yn effeithlon. > > Rydyn ni wedi cymryd camau breision er 2010 – mae gan dros filiwn o gartrefi yn y DU banel solar ar y to erbyn hyn – ond rhaid i ni ddal ati i geisio cael amgylchedd adeiledig gwyrddach, boed hynny yn ein cartrefi neu yn ein gweithleoedd.

Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru: > > Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal y digwyddiad hwn, ac mae’n amlwg o’r nifer o bobl sydd wedi cofrestru, fod hwn yn sector sy’n tyfu. > > Bydd yn dda clywed gan gynifer o arbenigwyr o Gymru, a fydd yn tynnu sylw at yr arbenigedd sydd gennyn ni yma. Mae’n gwneud i mi deimlo’n hyderus iawn am dwf y diwydiant yn y blynyddoedd i ddod. Gobeithio y gallwn adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad cyntaf hwn, a sicrhau digwyddiad hyn yn oed gwell y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd ar 11 February 2015