Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Randerson: Mae menywod mewn busnes yn hanfodol ar gyfer economi deg

Y Farwnes Randerson yn cyfarfod gyda menywod busnes ysbrydoledig i weld sut all Llywodraeth y DU gynyddu cyfleoedd i fenywod mewn busnes

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (29 Ionawr), cyfarfu Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson â menywod busnes o Gymru i weld sut y gall Llywodraeth y DU gynyddu’r cyfleoedd i fenywod ym myd busnes.

Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), ymwelodd y Farwnes Randerson â Bragdy Monty’s Brewery. Mae Pam Honeyman, cyd-sylfaenydd bragdy Monty’s Brewery yn gyfrannwr allweddol i lwyddiant y cwmni – gan greu a chynhyrchu’r cwrw sydd wedi ennill gwobrau, “Sunshine”.

Aeth y Gweinidog hefyd i ymweld â chwmni Cyfreithwyr Harrisons Solicitors, Cynghorwyr Cyfreithiol Arbenigol o’r Trallwng a’r Drenewydd. Mae’r Partner Rheoli, Anne Smith wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ar gyfer Mentor Rhagorol Gwobrau Busnes Powys 2014 - gan ddangos bod sgiliau fel mentora, sydd weithiau’n gysylltiedig â menywod, yn gallu bod yn asedau busnes gwerthfawr.

Yna aeth y Farwnes Randerson i weld Rheolwr Tyddynnod y Lôn/Lôn Lodges, Kerena Pugh, a aeth ati gyda’i gŵr, i agor dau dyddyn gwyliau hunan-ddarpar ar fferm y teulu. Mae Kerena yn rhan annatod o lwyddiant y tyddynnod, ac mae ei chyfrifoldebau’n amrywio o gynllunio a dylunio datblygiadau, dylunio a rheoli’r wefan a chymryd archebion a gweinyddu.

Daeth ei thaith i ben pan ymwelodd â’r papur newydd lleol, y County Times. Yma, cafodd gyfle i nodi pa mor bwysig ydyw i fenywod yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wireddu eu holl uchelgeisiau.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae annog a chefnogi menywod i fentro ym myd busnes yn rhan hanfodol o greu economi gryfach a chymdeithas decach, felly rydw i’n benderfynol o wneud beth gallaf i ddenu mwy o fenywod i’r byd busnes.

Ers 2010, rydyn ni wedi gweld mwy o fenywod ar fyrddau FTSE nag erioed o’r blaen – cynnydd o 10% ers yr etholiad – a chynnydd sylweddol mewn busnesau bach a chanolig a gaiff eu harwain gan fenywod – cynnydd o 14% ers 2010.

Ond mae angen i ni wneud mwy o lawer er mwyn i fenywod yng Nghymru achub ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt lwyddo ym myd busnes.

Ledled Cymru, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi menywod sy’n gweithio drwy eu helpu gyda chostau gofal plant – o dymor yr hydref 2015 ymlaen, bydd cynllun gofal plant di-dreth newydd gwerth hyd at £2000 y plentyn ar gael ar gyfer bron 2 filiwn o deuluoedd. Ers 2010, mae 9000 yn fwy o fenywod yn cael eu cyflogi yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 29 January 2015