Datganiad i'r wasg

‘Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid busnesau’ yw neges y Gweinidog i uwchgynhadledd Ffederasiwn y Busnesau Bach

Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn dangos ymrwymiad i fusnesau bach yn y gynhadledd yn Abertawe heddiw

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson, mai busnesau bach oedd ‘anadl einioes yr economi yng Nghymru’ wrth iddi agor Uwchgynhadledd Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach yn ne Cymru heddiw (17 Hydref 2014).

Ar ôl Uwchgynhadledd NATO, ac yn y cyfnod cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghasnewydd ar 21 Tachwedd, pwysleisiodd Gweinidog Swyddfa Cymru fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i’r cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru ac yn cefnogi bwrw ymlaen i leihau biwrocratiaeth ddiangen a gwella mynediad at gyllid i fusnesau bach. Amlinellodd y Gweinidog ei dyheadau i weld rhagor o fenywod mewn swyddi uwch mewn busnesau yng Nghymru ac i ferched ifanc ddilyn gyrfaoedd a ddilynir gan ddynion yn draddodiadol.

Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd y Farwnes Randerson:

Busnesau bach yw anadl einioes yr economi, ac rydyn ni fel llywodraeth, yn falch iawn o fod yn cydweithio’n uniongyrchol â Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r busnesau y maen nhw’n eu cynrychioli.

Ein rôl ni fel llywodraeth yw rhoi’r cymorth a’r cynlluniau angenrheidiol i fusnesau i’w helpu i arloesi a thyfu. Rydyn ni’n gweithio i fynd i’r afael â’r materion sydd wir yn bwysig i fusnesau bach. Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid busnesau.

Dywedodd Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach:

Mae’r Ffederasiwn yn falch iawn o groesawu Gweinidog Swyddfa Cymru, Jenny Randerson, i’r uwchgynhadledd yn Abertawe heddiw. Hyrwyddo ac arwain busnesau bach yma yng Nghymru yw ein gwaith ni, wrth gwrs, ac mae cefnogaeth Llywodraeth y DU wrth i ni wneud hynny’n amhrisiadwy. Mae busnesau bach yn hanfodol i economi Cymru, ac rydyn ni’n falch bod eu rôl yn cael ei chymeradwyo a’i gwerthfawrogi fel hyn”.

Cynhelir cynhadledd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Abertawe heddiw rhwng 11:00 a 16:15. Bydd yn trafod themâu:

  • Entrepreneuriaeth Ieuenctid
  • Cyllid
  • Y Gymru rydym am ei gweld
Cyhoeddwyd ar 17 October 2014